Os oes gennych chi ddiddordeb yn y syniad o ddod yn ofalwr maeth, mae llawer i’w ystyried cyn mentro. Ac os ydych chi’n hoffi teithio, mae hynny’n cynnwys gwyliau o fewn y DU a thramor. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am deithio tra’n maethu.
allwch chi gymryd plentyn maeth allan o’r wlad?
Gallwch. Allwch chi fynd â phlentyn maeth ar wyliau tramor.
Ond bydd angen caniatâd gan eich awdurdod lleol, ac weithiau rhieni biolegol y plentyn yn gyntaf cyn i chi drefnu unrhyw beth.
Gall hyn fod yn brofiad arbennig i’r teulu cyfan ac yn gyfle i dreulio ychydig o amser gyda’ch gilydd yn creu atgofion. Yn enwedig ar gyfer eich plentyn maeth, os nad yw wedi teithio allan o’r wlad o’r blaen.
Fodd bynnag, mae llawer i’w ystyried wrth drefnu taith dramor gyda phlentyn maeth. Yn y blog hwn, byddwn yn rhannu rhai o’r pethau ymarferol, ac emosiynol, y mae angen i chi feddwl amdanynt.
dyma ychydig o bethau ymarferol i’w hystyried..
y cynllunio
Mae dewis gwyliau y bydd pawb yn ei fwynhau, yn golygu dod o hyd i rywle sydd wedi’i anelu at oedrannau, hoff bethau a chas bethau’r plant, yn ogystal â’r oedolion.
Os yw’r plant gyda chi yn y tymor hir, fe allech chi ofyn iddyn nhw beth hoffen nhw ei gael o’r gwyliau, a sicrhau bod rhai o’u hopsiynau yn cael eu cynnwys yn y dewis terfynol. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo bod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi a’u bod yn rhan o’r broses.
Bydd eu cynnwys yn y cynllunio hefyd yn eu paratoi ar gyfer y profiad. Bydd yn rhoi syniad iddynt o’r hyn i’w ddisgwyl a bydd y daith yn teimlo’n llai brawychus.
Ond pa mor bell ymlaen llaw ddylech chi ddweud wrthyn nhw am wyliau?
Bydd hyn yn dibynnu ar y plentyn. Does dim un peth yn addas i bawb. Er y gallai rhai plant gyffroi am wyliau, gall newid waethygu eu pryder. Os yw’n seibiant dros benwythnos, gallech ddweud wrthynt ychydig ddyddiau cyn y gwyliau, neu am wyliau hirach, dywedwch wrthynt ychydig wythnosau cyn mynd.
trefniadau cysgu
Fel yn y cartref, dylid ystyried trefniadau cysgu yn ofalus. Ond gallai hyn fod ychydig yn anoddach pan fyddwch mewn gwesty neu lety gwyliau.
Bydd trafod eich cynlluniau ymlaen llaw gyda’ch gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i feddwl sut i wneud hyn. Gall gweithwyr cymdeithasol gymryd agwedd synhwyrol ac ystyried ymarferoldeb cynlluniau gwyliau a allai fod yn wahanol i’r trefniadau byw arferol.
O achos i achos, gall gweithwyr cymdeithasol asesu’r risg o rannu ystafell mewn gwesty. Er enghraifft, ni fyddai cael ystafell westy ar wahân i blant ifanc, yn ddiogel nac yn gwneud synnwyr.
Bydd angen i rai plant gael eu hystafell wely eu hunain pan fyddant ar wyliau. Bydd hyn yn dibynnu ar anghenion unigol y plentyn yn eich gofal. Gall hyn olygu archebu cartref gwyliau, yn hytrach na gwesty i ddarparu digon o ystafelloedd gwely i bawb.
Gall gweithwyr cymdeithasol hefyd ofyn am eich cynlluniau ar gyfer:
- Ystafelloedd ymolchi
- Gwisgo
- Balconïau
- Rheiliau gwarchod ar gyfer gwelyau bync
- Seddi ceir
- Dod o hyd i’r ganolfan iechyd neu’r ysbyty agosaf
- Goruchwylio’r plant ger pyllau nofio
Bydd hyn yn galluogi’r plant yn eich gofal a’r aelwyd faethu gyfan i fwynhau gwyliau teuluol tra hefyd yn amddiffyn pawb sy’n gysylltiedig rhag unrhyw risgiau posibl.
Darllenwch fwy: Beth yw’r Gofynion Ystafell Wely ar gyfer Gofal Maeth yn y DU
pasbortau
Efallai na fydd gan eich plentyn maeth basbort na Cherdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang, neu efallai y bydd yn rhaid i chi ofyn am y dogfennau hyn gan y rhieni biolegol trwy eich gweithiwr cymdeithasol. Gallai gymryd amser i ddod o hyd i’r dogfennau teithio hanfodol hyn a’u derbyn neu wneud cais am basbortau newydd cyn y gwyliau.
Gall teithio trwy feysydd awyr hefyd fod yn anodd pan fydd gennych wahanol gyfenwau, ac efallai y cewch eich holi gan swyddogion diogelwch. Bydd angen caniatâd eich awdurdod lleol arnoch i dynnu’r plentyn allan o’r wlad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn argraffu’r llythyr hwn a’i roi yn eich bag llaw fel tystiolaeth. Dylai hyn wneud y broses yn llawer haws.
trefn arferol
Mae’r rhan fwyaf o blant maeth yn ffynnu ar drefn a sefydlogrwydd, felly gallai newid mewn lleoliad wneud iddynt deimlo’n bryderus ac arwain at newidiadau mewn ymddygiad. Lle bo’n bosibl, cadwch eu trefn amser bwyd ac amser gwely. Efallai yr hoffech chi hefyd bacio rhai o’u hoff fwydydd neu deganau, fel bod ganddyn nhw bethau cyfarwydd maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru o’u cwmpas.
pacio
Wrth sôn am bacio, i blant mewn gofal, gall hyn fod yn frawychus… hyd yn oed am wythnos yn yr haul. Gall pacio câs eu hatgoffa o gael eu gwahanu oddi wrth eu teulu biolegol neu symud o un gofalwr maeth i’r llall. Neu efallai bod gan eich teulu rai ‘traddodiadau’ gwyliau nad ydyn nhw’n gyfarwydd â nhw – fel prynu dillad gwyliau newydd. O ganlyniad, gall hyn gymryd peth amser a bod yn brofiad emosiynol. Byddwch yn amyneddgar.
creu atgofion
Mae mynd ar wyliau yn arbennig i bawb a gallwch greu atgofion sy’n para am oes wrth brofi lle newydd gyda’ch gilydd. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu llawer o luniau tra byddwch i ffwrdd.
Ar ôl dychwelyd adref, gallwch chi a’ch plentyn maeth greu albwm lluniau neu lyfr lloffion i greu cofrodd y gall edrych yn ôl arno.
bod yn hyblyg
Er ei bod yn dda ymchwilio a chynllunio rhai gweithgareddau tra byddwch i ffwrdd, gall hyn fod yn brofiad newydd i’ch plentyn maeth, a gallai fod yn llethol. Gall plant ddangos eu teimladau o ansefydlogrwydd drwy newidiadau mewn ymddygiad neu ddychwelyd i batrymau ymddygiad blaenorol.
Mae hyblygrwydd yn allweddol yn yr achos hwn. Ceisiwch wneud cynlluniau y gellir eu haddasu, os oes angen.
pris
Nid yw gwyliau’n rhad. Ac, er y byddwch yn cael cymorth ariannol i bob plentyn maeth yn eich gofal, nid yw hyn yn debygol o ymestyn i dalu am wyliau egsotig. Felly, os ydych chi am fynd â’ch teulu ar wyliau dramor, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o’r gost ychwanegol hon eich hun.
Darllenwch fwy: A fyddaf yn cael fy nhalu fel gofalwr maeth?
tymhorau ysgol
Mae ysgolion yng Nghymru a Lloegr fel arfer yn cael pythefnos o wyliau adeg y Nadolig a’r Pasg, chwe wythnos yn ystod yr haf ac wythnos o hanner tymor ym mis Mai a Hydref.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir absenoldebau yn ystod y tymor. Y dirwyon yw £60 y rhiant, a fydd yn codi i £120 yr un os na chaiff ei dalu o fewn 21 diwrnod.
Fel gofalwr maeth, mae angen i chi hefyd ystyried y gallai plant fod wedi colli rhywfaint o addysg ac, er gwaethaf y mythau am blant mewn gofal, mae llawer o’n plant wrth eu bodd yn mynd i’r ysgol. Mae’r ysgol yn rhan bwysig o drefn arferol plentyn a gallai mynd â phlant ar wyliau yn ystod y tymor amharu ar hynny.
Bydd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gofyn i deithiau gael eu trefnu yn ystod gwyliau’r ysgol. Felly, cyn i chi archebu gwyliau rhatach yn ystod y tymor, mae’n well gwirio gydag ysgol y plentyn a’ch awdurdod lleol.
allwch chi deithio yn y Deyrnas Unedig gyda phlentyn maeth?
Wrth gwrs, nid yw pob gwyliau yn rhai dramor. Mae yna lawer o leoedd gwych i’w harchwilio a phethau hwyliog i’w gwneud ychydig oriau i ffwrdd. A gall mynd â’ch plentyn maeth gyda chi ar wyliau gartref fod yn brofiad gwych.
Mewn gwirionedd, efallai y bydd yn well gennych egwyl yn y DU os ydych wedi croesawu’r plentyn i’ch cartref yn ddiweddar a’i fod yn dal i ddod i’r arfer â’i leoliad newydd. Trwy aros yn agos at eich cartref, gallwch roi ymdeimlad o ddiogelwch i’r plentyn a bydd gennych gefnogaeth gerllaw os bydd ei angen arnoch.
Ry’n ni’n caru gwyliau carafán! Gallant ddod yn ail gartref oddi cartref a gallwch gymryd llawer mwy o fagiau nag ar awyren. P’un a yw’n duvet plentyn maeth, teganau, hoff fwyd a diod, neu hyd yn oed anifail anwes y teulu, eich unig gyfyngiad yw maint cist eich car.
Gall teithiau dydd fod yn hwyl hefyd! Does dim rhaid i chi dreulio’r noson i ffwrdd. Rydym wrth ein bodd yn mynd ar daith i lan y môr, ond mae yna hefyd barciau thema gwych yn y DU, llawer o safleoedd hanesyddol i’w harchwilio, ac mae sioe theatr bob amser yn arbennig.
P’un a yw’n daith ddydd, gwyliau carafán, neu arhosiad yn rhywle arall yn y DU, does dim angen cymaint o gynllunio ymlaen llaw â theithio dramor. Nid oes angen pasbort na chaniatâd chwaith. Felly, gallwch drefnu gwyliau ar fyr rybudd i leihau ffwdan neu oherwydd nad ydych chi’n gwybod faint o bobl fydd yn dod!
beth os ydym eisoes wedi trefnu taith?
Os ydych eisoes wedi archebu taith, yna ni ddylai hyn eich atal rhag maethu. Mewn llawer o achosion, gallwch ychwanegu’r plentyn at eich cynlluniau.
Mae’r rhan fwyaf o rieni’n mwynhau penwythnos i ffwrdd, efallai ar gyfer pen-blwydd priodas, neu’n cael cymorth eu teulu yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Mae’r un peth yn wir am ofalwyr maeth.
Gellir cymeradwyo aelodau’r teulu i ddarparu gofal rheolaidd. Gall gofalwyr maeth eraill, sy’n adnabod y plant yn barod yn ddelfrydol, gynnig rhywfaint o gymorth hefyd, fel modryb neu ewythr maeth.
Fodd bynnag, nid ydym yn annog teithiau hir i ffwrdd heb eich plant maeth. Er ein bod yn deall y gallech fod eisiau rhywfaint o amser i ffwrdd heb blant i ymlacio a threulio amser gyda’ch partner neu ffrindiau, gall gadael plentyn ar ôl neu ‘gymryd hoe’ beri gofid a gwneud i’r plentyn maeth deimlo fel rhywun o’r tu allan.
Yn yr achos hwn, efallai y byddai’n well gennych gynnig gofal tymor byr, a chael seibiannau heb blant rhyngddynt, yn hytrach na maethu tymor hir.
Darllenwch fwy: Alla i feithrin yn rhan-amser?
ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth?
Nid yw gwyliau’n rhwystr i faethu. Fodd bynnag, mae angen ystyried rhai pethau ymarferol. Dysgwch fwy am hyn drwy siarad â wyneb cyfeillgar yn eich Gwasanaeth Maethu Awdurdod Lleol. Gyda’n gilydd gallwn ni wneud gwahaniaeth.