pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Rydyn ni’n gorff dielw, sy’n golygu bod yr holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn mynd yn uniongyrchol tuag at gefnogi’r plant yn ein gofal a’r gofalwyr maeth sydd wedi dod yn deulu iddyn nhw.

Fel gofalwr maeth gyda’ch tîm Maethu Cymru lleol, byddwch yn derbyn lwfansau ariannol hael. Mae’r rhain yn seiliedig ar nifer o ffactorau fel y math o faethu rydych chi’n ei wneud, faint o blant rydych chi’n eu maethu, ac am ba hyd.

y canllaw gorau i dâl gofalwyr maeth

buddion eraill

Mae mwy o fanteision i fod yn ofalwr maeth nag y byddech chi’n ei feddwl. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau sydd wedi’u crybwyll yn barod, byddwch hefyd yn derbyn amrywiaeth o fanteision eraill gan eich tîm Maethu Cymru lleol – o ostyngiadau i adnoddau lleol defnyddiol.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

A dim dyna’r cyfan! Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Fôn i Fynwy, wedi ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ei alw yn Ymrwymiad Cenedlaethol. Pecyn o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y cytunwyd arno yw hwn, sydd ar gael i bob un o’n gofalwyr maeth yng Nghymru. Felly, fel pob gofalwr maeth Maethu Cymru arall, byddwch yn elwa o’r canlynol:

Family with child on shoulders and baby in pushchair

un tîm

Mae eich tîm Maethu Cymru lleol yn gweithio gyda chi, y plant yn eich gofal a phob gweithiwr proffesiynol o amgylch y plentyn, fel rhan o’r un gwasanaeth. Rydych chi’n rhan hanfodol o’r tîm hwn, sy’n golygu y byddwch chi bob amser yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, bob amser. Mae’r ffocws hwn ar gysylltu yn helpu i sicrhau’r dyfodol gorau posibl i’r holl blant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, a’u teuluoedd maeth.

Drwy ddod yn rhan o’r tîm hwn, rydych chi’n ymuno â’r rheini sy’n gyfrifol yn y pen draw am bob plentyn sy’n derbyn gofal yng Nghymru, ac sydd wedi ymroi i helpu plant i aros yn eu hardal leol. Dyna sy’n gwneud y tîm hwn yn unigryw.

dysgu a datblygu

Rydyn ni’n eich helpu chi i dyfu. Mae’r fframwaith a’r gwasanaethau i’ch datblygu yn gyson ledled Cymru, felly rydych chi’n elwa o becyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi ac sy’n cael ei rannu. Wedi’r cyfan, mae dysgu a thyfu yn rhan allweddol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Rydyn ni’n darparu’r holl offer a’r hyfforddiant i’ch galluogi i ddiwallu anghenion y plant yn eich gofal yn llawn. I fod yn hyderus ac yn abl.   

Fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru, bydd gennych gofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu. Mae’r cynllun hwn yn cydnabod y bydd eich taith hyd at y pwynt hwn yn llawn sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy gwerthfawr. Mae’n helpu i gadw golwg ar yr holl gynnydd rydych chi’n ei wneud, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.

cefnogaeth

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gennych chi dîm i’ch cefnogi a’ch annog chi, bob cam o’r ffordd. Eich tîm Maethu Cymru.

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law. Gydag aelod o dîm maethu sy’n ymroddedig i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Hefyd, bydd gennych fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi. Dyma lle byddwch yn cyfarfod â gofalwyr maeth eraill. Yn rhannu profiadau. Yn siarad ac yn gwrando. Mae cymorth gan gymheiriaid ar gael gyda phob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth.

Mae cymorth proffesiynol ar gael hefyd, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch – hyd yn oed y tu allan i oriau swyddfa. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod cymorth ar gael 24/7. Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Byddwn ni yno.

O grwpiau cefnogi i ddynion sy’n maethu i fathau arbenigol o ofalwyr maeth, fe welwch gymunedau newydd yma. Pobl sy’n deall.

y gymuned faethu

Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad.

Byddwch yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n nes at deuluoedd maeth eraill. Er mwyn i chi gael profiadau newydd. Ffrindiau newydd. Atgofion newydd.

Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar ddigonedd o wybodaeth a chyngor ar-lein. Fyddwch chi byth yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) , New Family Social (NFS) a Chymdeithas Maethu, Gofal Perthynas a Mabwysiadu (AFKA) Cymru. Mae’r mudiadau maethu arbenigol hyn yn cynnig cefnogaeth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a llu o fanteision ychwanegol.  Rydyn ni’n gwybod bod y rhain yn bwysig, dyna pam rydyn ni’n cynnig hyn i chi.

llunio’r dyfodol

Mae’r daith a arweiniodd unrhyw blentyn, ac unrhyw ofalwr maeth, i’r pwynt hwn yn bwysig – ond y cam pwysicaf yw’r un nesaf. Felly, rydyn ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol, yn hytrach na’r gorffennol. Fel gofalwr maeth, rydych chi’n rhan o’r ffordd rydyn ni’n llunio hyn.

Cewch eich clywed – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol – a bydd eich barn yn cael effaith ar sut rydyn ni’n symud ymlaen. Byddwch yn cael cyfleoedd i ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru, yn ogystal â chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.

cymryd y cam cyntaf

dod o hyd i’ch tîm maethu cymru lleol

Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.

Your nearest local authority is:

does dim côd post dim canlyniadau