Ym Maethu Cymru, credwn y gall unrhyw dŷ ddod yn gartref. Dysgwch am y gofynion ystafell wely ar gyfer gofal maeth yng Nghymru yma, a chael atebion i gwestiynau cyffredin.
Ym Maethu Cymru, credwn y gall unrhyw dŷ ddod yn gartref. Yn sicr, nid oes angen plasty arnoch i faethu plentyn nac ystafell chwarae bwrpasol. Nid yw maethu fel y ffilm am y plentyn amddifad Annie.
Mae gan y rhan fwyaf o deuluoedd maeth gartrefi teuluol arferol; gan gynnwys tai canol rhes, tai pâr neu dai dwy i fyny dwy i lawr. Mae ein plant yn debygol o deimlo’n fwy cyfforddus mewn cartref teuluol sy’n teimlo’n gyfarwydd yn eu cymuned. Fodd bynnag, mae rhai gofynion sylfaenol i helpu i gefnogi plentyn maeth a gwneud iddo deimlo’n gartrefol.
Darllenwch isod wrth i ni chwalu’r mythau ac ateb cwestiynau cyffredin ar ystafelloedd gwely ar gyfer gofal maeth a rheolau llety cyffredinol.
a all plentyn maeth rannu ystafell gyda fy mhlentyn?
Yn fyr, na all.
Un o’r prif ofynion o ran ystafelloedd gwely ar gyfer gofal maeth yw bod yn rhaid i ofalwr fod ag ystafell addas sbâr i gael ei gymeradwyo. Mae hyn er mwyn i blant maeth gael lle diogel sy’n bodloni eu hanghenion preifatrwydd a diogelwch ac er mwyn iddyn nhw gael lle y gallan nhw ei alw eu lle eu hunain.
Gall ystafell wely gynnig:
- Lloches a ffiniau i blentyn sy’n agored i niwed lle mae’n teimlo’n ddiogel.
- Lle tawel a phreifat lle gall plentyn gael amser i’w hun pan fydd ei angen arno.
- Ymdeimlad o berchnogaeth a’r gallu i bersonoli eu lle byw a mynegi ei chwaeth.
- Teimlad o sefydlogrwydd a threfn yn dilyn bywyd cynnar cythryblus.
beth os ydw i’n maethu brawd a chwaer?
Os ydych yn maethu dau frawd neu ddwy chwaer, neu frawd a chwaer dan wyth oed, efallai y bydd yn bosibl iddynt rannu ystafell wely.
Mae’r penderfyniad o ran a all dau frawd neu ddwy chwaer rannu ystafell wely mewn cartref maeth yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn pob awdurdod lleol ac yn unol ag amgylchiadau’r plant unigol. Er enghraifft, os yw’r plant bob amser wedi rhannu ystafell, gall fod yn ofidus eu gwahanu. Bydd pob sefyllfa’n cael ei hystyried yn ofalus i ganfod yr hyn sydd orau i’r plant a’r risgiau cysylltiedig.
Mae’r rheoliadau maethu ar rannu ystafelloedd gwely yn dweud y dylai’r ystafell fod yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y ddau blentyn yn gyfforddus gan sicrhau hefyd eu lle personol a’u preifatrwydd eu hunain. Hefyd, dim ond i frodyr neu chwiorydd cyn y glasoed y caniateir hyn fel arfer.
beth os yw’r plentyn yn faban?
Gallai babanod dan 6 mis oed gysgu mewn cot yn ystafell wely gofalwr maeth. Fodd bynnag, mae angen ystafell wely sbâr o hyd. Pam? Oherwydd efallai na fydd y broses gynllunio/gyfreithiol i blentyn ddychwelyd i’w deulu neu gael ei fabwysiadu wedi’i chwblhau erbyn i’r plentyn droi’n flwydd oed.
Hefyd, mae’n well gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ofalwyr gael dewis ehangach o ran ystod oedran plant, er enghraifft 0-5 oed, yn hytrach na babanod yn unig.
oes rhaid i mi fod yn berchen ar fy nghartref i faethu?
Does dim ots os ydych chi’n rhentu neu’n berchen ar eich cartref, cyhyd â’ch bod yn gallu cynnig cartref diogel a sefydlog i blentyn. Ble bynnag rydych chi’n ei alw’n gartref, byddwn yn gweithio i gefnogi pawb sy’n byw yno. Ond os ydych chi’n rhentu, byddem yn eich cynghori i sôn wrth eich landlord am faethu.
oes angen i mi ail-addurno ar gyfer pob plentyn newydd?
Peidiwch â phoeni am waith ar y tŷ. Nid oes angen i chi ail-addurno cyn i bob plentyn newydd gyrraedd. Yn gyffredinol, byddem yn cynghori cadw ystafell yn niwtral ac yn syml, ond ddim yn llwm. Fel hyn, gall pob plentyn maeth roi ei bersonoliaeth ei hun ar y lle.
Fodd bynnag, efallai y byddwch yn dewis ychwanegu rhai pethau arbennig i’r ystafell i wneud iddi deimlo’n fwy cartrefol.
Os hoffech wneud hyn, meddyliwch am oedran y plentyn – mae’n debyg y bydd gan blentyn yn ei arddegau a phlentyn bach ofynion a diddordebau gwahanol iawn. Mae gan rai gofalwyr maeth gyflenwad o ddillad gwely i blentyn ddewis ohonynt pan fydd yn cyrraedd gyntaf, ac yna byddan nhw’n cynllunio taith siopa lawn er mwyn iddo allu creu ystafell mae’n ei hoffi.
Gallai rhai syniadau gynnwys:
- Dillad gwely newydd neu glustogau addurnol
- Fframiau lluniau
- Hysbysfwrdd neu fwrdd sialc
- Lamp neu olau nos
- Deunydd ysgrifennu
- Tegan meddal
- Basged groeso yn cynnwys nwyddau ymolchi
oes angen i ystafell wely fod o faint penodol?
Os nad yw eich cartref yn fawr, peidiwch â phoeni. Nid oes gofyniad cyfreithiol i ystafell wely gofal maeth fod o faint penodol.
Dylai ystafell wely ganolbwyntio ar swyddogaeth a chysur. Er enghraifft, rhaid iddi fod yn ddigon mawr ar gyfer dodrefn hanfodol, fel gwely, a chwpwrdd dillad neu ddroriau i storio dillad, a rhaid iddi fod â ffenestr.
I roi syniad o faint ystafelloedd gwely, edrychwch ar ganllawiau maint gwelyau ar-lein.
fydd ystafell flwch, gwely soffa, ystafell wydr neu ystafell lofft yn gwneud y tro?
Gall ystafell flwch fod yn addas ar gyfer plentyn dan 12 oed. Ond, wrth iddo dyfu’n berson ifanc yn ei arddegau, efallai y bydd angen mwy o le arno a desg ar gyfer gwaith cartref neu i astudio ar gyfer arholiadau. Meddyliwch am oedran y plentyn y gallech fod yn ei faethu, ac am ba hyd.
Nid yw ystafell wydr neu wely soffa mewn man cymunedol yn ystafell wely addas i blentyn, gan nad yw’n cynnig preifatrwydd na lle iddyn nhw eu hunain, hyd yn oed gyda llen wedi’i thynnu.
Gall addasiad lofft fod yn addas yn dibynnu ar oedran y plentyn. Byddem fel arfer yn argymell lleoli plant ifanc ar yr un llawr ag ystafell wely’r gofalwr maeth, a rhaid bod allanfa ddiogel rhag ofn y bydd tân.
rydyn ni ychydig yn flêr, ydy hynny’n iawn?
Dydyn ni ddim yn disgwyl i gartref maeth fod yn hollol daclus.
Fodd bynnag, bydd mynd i le cynnes a thaclus yn helpu plentyn i deimlo croeso. Rhaid i gartref hefyd fod â safon dda o lendid a hylendid ym mhob rhan o’r eiddo. Efallai y byddai’n ddoeth tacluso cyn dechrau’r broses.
mae gen i ystafell sbâr. Sut alla i faethu?
Os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am faethu, cymerwch olwg ar ein canllaw ar bwy all faethu ac archwiliwch yr adnoddau sydd ar gael ar y wefan hon. Yng Nghymru, mae pob plentyn a phob rhiant maeth yn wahanol. Felly, rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn credu y gall bron pawb wneud gwahaniaeth. Os ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf, cysylltwch â’ch tîm maethu lleol a gallant roi gwybodaeth i chi sy’n benodol i’ch ardal leol yng Nghymru. Byddwn wrth eich ochr bob cam o’r ffordd.