nawr yw'r amser
“Mae yna lawer o blant a fyddai’n elwa o’ch profiadau bywyd, o ba bynnag gefndir rydych chi’n dod.”
Adleoli, ymddeol, ailbriodi, neu’n syml iawn, eisiau rhoi yn ôl i’r gymuned leol.
Mewn cyfres newydd sbon o vlogiau, mae gofalwyr maeth o bob rhan o Gymru wedi dod at ei gilydd i archwilio’r rhesymau, profiadau bywyd a newidiadau a arweiniodd at ddod yn ofalwyr.
Bydd y gyfres chwe phennod yn galluogi darpar ofalwyr maeth i gydnabod y profiadau bywyd gwerthfawr sydd ganddynt eisoes, a allai eu helpu i ddod yn ofalwyr maeth cyflawn a chefnogol yn eu cymunedau.
Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw, sy’n cynnwys y 22 o dimau awdurdodau lleol yng Nghymru.
Bydd y penodau’n cael eu rhyddhau’n wythnosol ar wefan Maethu Cymru, cyfryngau cymdeithasol a sianeli YouTube, ac yn darparu sgwrs onest ac agored rhwng gofalwyr maeth o bob cefndir.
Recordiwyd y sgyrsiau ym mis Rhagfyr 2022, gyda’r newyddiadurwr a’r cyflwynydd profiadol Mai Davies yn cynnal y sgyrsiau.
Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:
“Mae gennym ni ofalwyr maeth o bob cefndir yn gofalu am ein plant o fewn Maethu Cymru.
“Rydym angen pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau ac sydd ag amrywiaeth o brofiadau bywyd i faethu oherwydd mae gennym ystod amrywiol o blant sydd angen y gofal, y gefnogaeth a’r cariad hwnnw o fewn ein hawdurdodau lleol – plant sydd angen y cyfle i ffynnu ac aros yn eu cymunedau lleol eu hunain. Dyna hanfod maethu ar gyfer eich awdurdod lleol.
P’un a ydych wedi meddwl am faethu yn ddiweddar neu am y deng mlynedd diwethaf, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n cysylltu â’ch tîm Maethu Cymru lleol. Byddwn yn eich helpu i ystyried ai nawr yw’r amser i chi a byddwn yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd ar hyd eich taith faethu.”