
Rydyn ni’n credu mewn cydweithio, rhannu gwybodaeth, ac adeiladu dyfodol gwell i blant – gyda’n gilydd. Felly, gyda rhwydwaith o 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae digon o wynebau cyfeillgar y tu ôl i’r llenni (ac o’u blaenau) sydd â phrofiad y gallan nhw ei rannu.
Yma, mae Mel, ein Rheolwr Datblygu Rhanbarthol, yn rhannu ei stori o weithio ym maes gofal cymdeithasol, yr hyn wnaeth ei ysbrydoli i ymuno â’r maes gwaith hwn, a phwysigrwydd meithrin perthnasoedd cryf.
gofalu o’r cychwyn cyntaf: fy mywyd cynnar a fy ngyrfa
Rwyf wedi bod yn ymwneud â gofal cymdeithasol ers pan oeddwn i’n ifanc iawn. Roedd fy mam yn ddifrifol anabl yn gorfforol am y rhan fwyaf o’i bywyd gyda lefel uchel iawn o arthritis. Wrth dyfu i fyny, gwnes i fy ngolchi, fy siopa a fy nghoginio fy hun. Felly, mae helpu pobl nad ydyn nhw’n gallu gwneud rhywbeth eu hunain bob amser wedi’i feithrin ynof fi. Mae hynny wastad wedi bod yng nghefn fy meddwl. Dyna’r hyn wnes i dyfu i fyny gydag ef.
Es i i’r coleg i astudio cyfuniad rhyfedd o ddrama a pholisi cymdeithasol. Yna, ar ôl y coleg, sefydlais i gwmni theatr gyda ffrind. Roedd yn wych! Roeddwn i’n mwynhau dod o hyd i wahanol ffyrdd o rannu pethau sy’n digwydd yn y byd.
Ond yna gwnes i frifo fy nghefn yn eithaf gwael ac roedd yn rhaid i fi stopio a meddwl.
Dechreuais i weithio fel gwirfoddolwr gwasanaeth cymunedol, gan roi cymorth corfforol i bobl ag anableddau corfforol difrifol, fel eu bod yn gallu byw yn eu cartrefi eu hunain.
Dyna pryd dechreuais i feddwl am bwysigrwydd perthnasoedd oherwydd, yn y rôl honno, yn eithaf cyflym rydych chi’n ymwneud â gofal personol rhywun.
Rwy’n cofio un dyn roeddwn i’n gweithio gydag ef yn aml. Roedd ganddo barlys yr ymennydd, roedd mewn cadair olwyn, roedd ganddo reolaeth gyfyngedig o symudiadau anwirfoddol, ac roedd ei leferydd yn nodedig iawn. Roedd ganddo swydd â chyflog da, ac roeddwn i’n ei alluogi i fyw ei fywyd.
Felly, yng nghanol fy 20au, gwnes i gael fy hun yn gweithio mewn sefydliad gofal cymdeithasol a oedd yn cefnogi pobl ag anableddau corfforol. Yna symudais i ymlaen i weithio gydag oedolion ag anawsterau dysgu a oedd yn swydd yn y gymuned.

Rwy’n cofio meddwl pa mor hynod bwysig oedd ansawdd y perthnasoedd y gallech chi eu cynnal gyda phobl, yn enwedig i bobl a oedd efallai yn cael anawsterau eu hunain wrth gynnal eu perthnasoedd eu hunain a’u helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu rhwydwaith cymdeithasol.
Mae’n eithaf heriol rheoli ochr bersonol a phroffesiynol pethau, ond rwy’n caru’r her o gynnal y perthnasoedd hynny fel person proffesiynol.
cymryd y cam nesaf: sut ydw i’n dod yn weithiwr cymdeithasol
Gweithiais i mewn gwasanaethau darparwyr anabledd, yn bennaf yn Llundain, Hackney ac Islington, amgylchedd gwahanol iawn i pan symudais i i Ogledd Cymru a phenderfynu cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol gan astudio o dan yr hen Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol yng Ngholeg Menai, Bangor.
Roeddwn i’n bwriadu gweithio ym maes iechyd meddwl oedolion ac roedd gen i leoliad anhygoel mewn uned iechyd meddwl. Roedd fy ail leoliad gyda thîm plant Ceredigion a gwnaeth y gwaith gipio fy nghalon, roedd gweithio gyda theuluoedd a gwneud gwaith uniongyrchol gyda phlant, yn aml yn ystod amseroedd oedd yn gymhleth iddyn nhw yn emosiynol, yn teimlo mor werth chweil.
O’r profiad hwnnw, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio ym maes amddiffyn plant rheng flaen a gwaith llys, ac fe wnes i ei fwynhau am 14 mlynedd.

Rwy’n aml yn edrych yn ôl ar y blynyddoedd cynnar hynny pan fyddaf yn mynd i golegau i siarad â gweithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant.
Fel gweithwyr cymdeithasol, mae’n rhaid i ni ddatblygu perthynas yn eithaf cyflym, gan wneud hynny’n broffesiynol, ond yn ddiffuant. Wedi’r cyfan, pan gawson nhw eu creu gyntaf, enw’r gwasanaethau cymdeithasol oedd ‘y gwasanaethau personol a chymdeithasol’. Rydyn ni’n ymwneud gymaint â bywydau personol pobl, ni allwn ni wneud hynny yn amhersonol.
Allwch chi ddim mynd i mewn ac asesu rhywun a’i wneud fel ymarfer ticio blychau.
Mae angen i chi allu ymgysylltu a gwneud hynny’n broffesiynol ac yn bersonol i roi’r cyfle iddyn nhw weld ffordd ymlaen. Os ydych chi’n ei wneud gan fynd i mewn gyda’ch clipfwrdd, dydych chi ddim yn mynd i ddeall yr hyn sy’n digwydd i’r teulu hwn oherwydd maen nhw’n mynd i ddweud wrthych chi yr hyn sydd angen i chi ei wybod i dicio’r blwch hwnnw.
pam rwyf wrth fy modd yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol: enghraifft o achos
Un o brif fanteision bod yn weithiwr cymdeithasol yw’r berthynas rydyn ni’n ei meithrin a’r cymorth rydyn ni’n ei roi i blant a theuluoedd.
Rwy’n teimlo’n anhygoel o freintiedig i gael y cyfle i gwrdd â phobl o sawl cefndir gwahanol na fyddwn i efallai yn cwrdd â nhw fel arall. Os gallaf roi gobaith, anogaeth, neu gyngor ymarferol clir fel eu bod yn ymddiried ynof i, rwyf wedi gwneud fy ngwaith.
Ond, mae tynnu plant o deuluoedd yn her.
Gweithiais i gydag un fenyw oedd yn gaeth i heroin, a thad y plant hefyd, a chafodd y plant eu cymryd i ofal.
Byddech chi’n meddwl y byddai hi’n fy nghasáu. Wedi’r cyfan, fe wnes i dynnu ei phlant oddi arni.
Ond, mae’r berthynas sydd ganddi gyda fi yn bwysig iawn iddi oherwydd mae hi’n ymddiried yn yr hyn rwy’n ei ddweud, hyd yn oed os yw hynny’n rhywbeth nad yw hi eisiau ei glywed.
Yn y pen draw, fe wnaeth hi stopio defnyddio cyffuriau a daeth y berthynas i ben, ac roedd hi ar lwybr cadarnhaol ymlaen.
Daeth hi i bob cyswllt â’i phlant ar amser, gan gyflwyno canlyniadau profion cyffuriau (glân bob tro), a dechrau perthynas newydd gyda rhywun heb unrhyw hanes gyda chyffuriau.
Roedden nhw’n gwneud yn wych.
Roedd y plant eisiau bod gyda’u mam, a’u brodyr a’u chwiorydd.
Ac mae wedi gweithio allan iddi hi.
Roedd y system ofal yno iddi hi a’i phlant pan gafodd hi ei dal mewn storm. Gyda’r cymorth cywir, daeth hi o hyd i harbwr diogel, a chyrraedd lle da lle gallan nhw fyw gyda’i gilydd fel teulu eto.
Mae’n stori braf.
Mae hi’n nain erbyn hyn. Rwy’n eu gweld o gwmpas ac maen nhw’n dal i stopio a gwenu a nodio.
Darllenwch fwy: Personol a Phroffesiynol: Pwysigrwydd perthnasoedd mewn gofal maeth
fy rôl nawr
Ar ôl 14 mlynedd fel gweithiwr cymdeithasol cymwys a rheolwr tîm, manteisiais i ar y cyfle i ddod i reoli’r gwasanaeth maethu yng Ngwynedd. Roeddwn i eisiau cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd tymor hwy gyda phobl, ac rwyf wedi adnabod llawer o’n gofalwyr maeth ers blynyddoedd lawer.

Wedyn roedd fy nymuniadau fy hun i ddatblygu’r gwasanaeth maethu yng Ngwynedd yn cyd-fynd â datblygiad yr hyn a elwid bryd hynny’n Fframwaith Maethu Cenedlaethol. Roeddwn i wedi bod yn ymwneud yn agos ag ef bron o’r dechrau a gwnes i ddod o hyd i thema gyffredin yn ei nodau a’i amcanion.
Rwyf bellach yn falch o fod yn Rheolwr Datblygu Rhanbarthol i Maethu Cymru, ochr yn ochr â fy rôl fel rheolwr tîm.
allech chi helpu i wneud gwahaniaeth?
Os yw stori Mel yn eich ysbrydoli ac os hoffech chi ymuno â thîm Maethu Cymru, gallwch weld ein swyddi gwag presennol ar wefan Gofalwn Cymru.
Neu, i gael mwy o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth, ewch i’r wefan hon a chysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol. Gyda rhwydwaith ledled Cymru, rydych chi’n siŵr o gael eich rhoi mewn cysylltiad ag wyneb cyfeillgar yn eich ardal chi.