Fi bellach yn byw bywyd diogel, hapus

‘fi bellach yn byw bywyd diogel, hapus.’

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofalu plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru yn pwysleisio manteision partneru ag awdurdod lleol ar gyfer maethu. Mae’r symudiad hwn yn rhan o drawsnewidiad cynhwysfawr o wasanaethau plant yng Nghymru.

 

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru:

“Mae’r newidiadau hyn yn gyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirhoedlog i’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru – er budd pobl ifanc sy’n derbyn gofal heddiw ac yn y dyfodol. Mae gofalwyr maeth yn allweddol i wneud y newid hwn yn llwyddiant gan fod eu profiad a’u harbenigedd yn hollbwysig.

“Mae gofal maeth awdurdod lleol yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys cefnogaeth gan dîm arbenigol lleol, cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, lwfans hael i’ch cefnogi gyda gofal y plentyn sydd wedi’i leoli gyda chi, a chymuned barod o ofalwyr eraill gerllaw.

“Yn bwysicaf oll, mae’n helpu pobl ifanc i aros yn eu cymuned leol. Gwyddom, pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol, a bod ganddynt rywun i gadw atynt yn y tymor hir, ein bod yn gweld canlyniadau gwell.

“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru gamu ymlaen. Yn Maethu Cymru, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gael effaith genedlaethol, gan wneud gofal maeth yng Nghymru y gorau y gall fod i’n pobl ifanc, drwy wrando ar y rhai sy’n gofalu amdanynt.

 “Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb mewn gofalu am blant, neu’r rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gyda sefydliad er elw, i wneud ymholiad heddiw, a bod yn rhan o’r newid cadarnhaol hwn i greu dyfodol gwell i blant maeth lleol yng Nghymru.”

symudodd y gofalwr maeth Jo o asiantaeth faethu annibynnol i Faethu Cymru Conwy yn gynharach eleni. Esboniodd ei thaith – a’r gwahaniaeth y mae hi wedi’i weld wrth faethu gyda’r awdurdod lleol:

“Ar ôl troi’n ddeugain, dechreuais faethu pobl ifanc yn eu harddegau drwy asiantaeth.

I ddechrau, roedd llawer yn dod o’r tu allan i’n hardal, gan eu gadael wedi’u datgysylltu oddi wrth eu ffrindiau a’u hamgylchedd cyfarwydd.

Nawr, rwy’n maethu gyda’n hawdurdod lleol. Mae’r plant yn aros yn lleol, gan gynnal cysylltiadau sy’n rhoi cysur a diogelwch. Mae hyn yn hwyluso ymweliadau, mynediad, ac amser teulu gwerthfawr.”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

 

cafodd Tayler ei maethu gan ei hawdurdod lleol yn Sir Gaerfyrddin, esboniodd:

“Do’n i ddim yn gwybod bod rhai busnesau preifat yn gwneud elw o ofal. Mae hynny’n gwneud i fi deimlo nad plant bregus yw’r flaenoriaeth, ond yr arian.

“Diolch i fy awdurdod lleol, fe wnes i raddio o’r brifysgol yn ddiweddar, a fi bellach yn byw bywyd diogel, hapus.

dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol:

“Mae Cymru’n arwain y ffordd gyda’i chynlluniau i ddileu elw o ofalu am blant sy’n derbyn gofal ac rydym yn falch o fod yn gwneud hyn yn flaenoriaeth i helpu i greu canlyniadau gwell i blant.

“Mae maethu awdurdod lleol yn sicrhau bod anghenion y plentyn a’r gofalwr yn cael eu diwallu’n llawn fel bod plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi’n llwyr ac yn gallu ffynnu yn ei gymuned leol.”

i gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i:

https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/

Supported by Welsh Government

Cefnogir gan Lywodraeth Cymru