
Rydyn ni wrth eich ochr, ble bynnag yr ydych chi yng Nghymru.
Rydyn ni’n dîm sy’n gweithio gyda’n gilydd i ddod â dyfodol gwell i blant yn eich ardal chi.
Ond, er mwyn bod yn effeithiol gyda’n gilydd, mae angen i ni feithrin perthnasoedd personol a phroffesiynol cryf.
Yma, mae ein Rheolwr Datblygu Rhanbarthol, Mel, yn rhannu ei feddyliau am bwysigrwydd perthnasoedd mewn gofal maeth a rhai straeon o’i flynyddoedd yn gweithio gyda theuluoedd yng Nghymru.
y berthynas rhwng rhieni geni a gofalwyr maeth
Y gwir yw bod angen gofal maeth ar rai plant, boed yn fabanod, plant yn eu harddegau, yn yr hirdymor neu yn y tymor byr.
Gallai’r rhesymau a’r amgylchiadau sy’n dod â phlant i ofal effeithio ar unrhyw un. Teuluoedd cyffredin sydd wedi’u dal mewn dyfroedd garw. Ond nid oes gan bob teulu yr un gefnogaeth ar gael iddynt ac maen nhw’n dibynnu ar y systemau sydd ar gael i’w helpu.
Roeddwn i’n gweithio gyda mam a dad a oedd o dan bwysau ariannol anhygoel ac yn aml wedi gorfod gadael eu plant gartref ar eu pennau eu hunain, tra eu bod yn mynd allan i’r gwaith. Roedd ceisio darparu ar gyfer eu teulu yn golygu gwneud dewis. Ond arweiniodd hyn at y plant yn cael eu hesgeuluso a’u rhoi mewn perygl.
Cymerwyd eu plant dros dro i ofal maeth, tra bod y teulu yn cael eu cefnogi i godi yn ôl ar eu traed.

Gydag amser, dechreuodd y fam wneud popeth yn iawn. Daeth o hyd i le gwell i fyw. Cafodd y tad swydd hefyd, ac fe ddechreuodd ychydig o arian ddod i mewn.
Symudodd pethau i gyfeiriad llawer mwy cadarnhaol.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, nid yn unig roedd gofalwr maeth yn gofalu am y plant, ond roedd hi’n cefnogi’r fam hefyd trwy roi dillad iddi eu gwisgo a chadw mewn cysylltiad.
Ar y diwrnod y bu’n rhaid i’r fam fynd i’r llys, aeth y gofalwr maeth draw i’w chefnogi. Roedd presenoldeb y gofalwr maeth yno, yng nghornel y fam, wedi helpu’n fawr. Aeth y tu hwnt i bob disgwyl. Rhoddodd caredigrwydd ac ymdrech y gofalwr maeth gymaint i’r fam.
Yn y diwedd, dyfarnodd y llys o blaid y fam a’r tad a dychwelodd y plant i’w gofal.
Wrth i’r gofalwr maeth ddangos caredigrwydd a datblygu’r berthynas honno gyda’r fam, cafwyd diweddglo da.
mae perthnasoedd yn bwysig, hyd yn oed pan nad yw plant yn dychwelyd adref
Pan fydd angen gofal maeth hirdymor ar blant, ac nad ydynt yn gallu dychwelyd adref, gall eu rhiant biolegol fod yn rhan o’u bywydau, os yw’n berthynas gadarnhaol.
Pan fydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid bod rhyw fath o berthynas rhwng y rhiant maeth a’r rhiant biolegol.
Teulu a fydd bob amser yn aros yn fy nghof yw dau blentyn ifanc.
Roedd gan y fam broblemau iechyd meddwl dwys: roedd yn achosi cymaint o boen a thorcalon iddi ac ar adegau arweiniodd at geisio cymryd ei bywyd ei hun.
Roedd hyn yn anodd ei ddeall i ddau blentyn ifanc.

Ond fe wnaeth eu gofalwr maeth eu helpu i reoli eu disgwyliadau o’u mam. Helpodd nhw i gynnal eu perthynas â’r fam, trwy gadw mewn cysylltiad â’r fam ei hun, a gwybod a oedd hi mewn lle da.
Arhosodd y plant mewn gofal hirdymor tan iddynt droi’n oedolion.
Roedd y berthynas â’u rhiant maeth yn bwysig iawn iddyn nhw. Roedd hi’n darparu cysondeb. Roedd hi bob amser yno iddynt, ac ni fydd hynny byth yn newid.
Yr hyn oedd hefyd yn bwysig iawn oedd ei bod hi’n gallu gweld y fam fel person da a rhannu hynny gyda’r plant i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r problemau iechyd meddwl oedd ganddi.
Maen nhw wedi dod yn bobl dda iawn. Maen nhw bellach yn bobl ifanc gweddus. Ac rwy’n siŵr bod deall eu cefndir a phwysigrwydd perthnasoedd wedi dylanwadu’n fawr ar hynny.
y berthynas rhwng brodyr a chwiorydd a’u gofalwyr maeth
Ni ddylid esgeuluso pwysigrwydd perthnasoedd rhwng brodyr a chwiorydd mewn gofal maeth. Er ein bod yn ymdrechu i wneud hynny, ni allwn bob amser eu rhoi gyda’i gilydd.
Yn syml, does gennym ni ddim y lle i wneud hynny.
Ond, nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid i berthnasoedd ddod i ben.
Enghraifft o hyn oedd brodyr a chwiorydd 12, chwech a dwy oed. Roedd cefndir y fam yn drist iawn. Roedd llawer o gariad, ond roedd hi’n sâl.

Roedden ni mor awyddus i’w cadw gyda’i gilydd.
Ond methon ni.
Doedd dim unman y gallem ni fod wedi’u cadw nhw i gyd gyda’i gilydd.
Ond llwyddodd dau unigolyn a oedd yn byw ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd i wneud bywydau’r plant a’u hamser gyda’i gilydd mor naturiol.
Roeddynt yn byw mewn cartrefi maeth ar wahân, ond yn dal i deimlo’n gysylltiedig.
Roedden nhw’n gwneud iddo weithio mor dda, yn enwedig i’r plentyn hynaf nad oedd yn rhaid gofalu am y ddau arall mwyach, a gallai fod yn blentyn deuddeg oed.
perthnasoedd sy’n allweddol!
Os ydych chi’n ystyried maethu neu eisoes yn maethu gyda sefydliad gwahanol ac eisiau newid, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs gyda chi. Ewch i ddarllen ein llwyddiannau, yna cysylltwch â’ch tîm Maeth Cymru lleol. https://maethucymru.llyw.cymru/llwyddiannau/