amdanom ni

Lansiwyd Maethu Cymru ym mis Gorffennaf 2021, gyda’r nod o ddod â 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol at ei gilydd fel rhwydwaith i wella recriwtio a chadw gofalwyr maeth yng Nghymru.

 

Fel un brand cyson, ein nod yw annog mwy o bobl yng Nghymru i ystyried maethu gyda’u hawdurdod lleol a chefnogi cadw gofalwyr maeth trwy ddod â chysondeb a gwella’r cynnig o gefnogaeth, hyfforddiant a buddion ychwanegol ledled Cymru.

 

Ein prif nod yw rhoi cyfle i blant aros yn lleol, ffynnu a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd trwy ofalwyr maeth sy’n cael cymorth da.

 

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae ein gwaith yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i ofal plant yng Nghymru gael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan awdurdodau lleol a sefydliadau nid-er-elw a chael gwared ar wneud elw o ofal yng Nghymru erbyn 2027.