
beth yw gofal maeth brys? mae teuluoedd maeth yn rhannu eu profiadau
Mae gofal maeth brys yn golygu agor eich cartref ar fyr rybudd. Dysgwch beth i'w ddisgwyl, sut i baratoi, a sut beth yw cael yr alwad honno mewn gwirionedd.
gweld mwyawdur
Jill ydw i, a fi yw Rheolwr Marchnata Cenedlaethol Maethu Cymru. Yn flaenorol, treuliais 15 mlynedd gyda gwasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint.
Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes maethu ers dros 18 mlynedd, ers 2006 (BBC NEWS | Wales | North East Wales | Appeal to find more foster carers). Felly mae’n deg dweud fy mod i wedi cwympo mewn cariad â maethu.
Rwy’n teimlo bod straeon pobl ifanc a gofalwyr maeth yn fraint i’w clywed a’u rhannu.
Rwy’n angerddol dros wneud gofal maeth y gorau y gall fod, i blant a gofalwyr.
Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol yw y gallwn gynnig lle diogel a charedig i blant sydd angen gofal maeth, heb fod yn rhy bell o gartref. A thrwy gydweithio fel awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy’n credu y gallwn gyflawni newid.
Rwyf wedi cael llawer o atgofion maethu annwyl yn ystod y 18 mlynedd diwethaf, ond nid yw’r eiliadau bach hyn i’w gweld ar y newyddion. Dyma ychydig o bethau eraill rwy’n falch ohonynt…
Enwebu a mynd gyda gofalwyr maeth i wobrau rhagoriaeth cenedlaethol yn Llundain yn 2018: Two Flintshire fostering families honoured at a national fostering award ceremony | Deeside.com
Yr awdurdod lleol hwyluso maethu cyntaf yng Nghymru. Sir y Fflint yn dod yr awdurdod lleol hwyluso maethu cyntaf yng Nghymru, gan dderbyn gwobr rhagoriaeth maethu yn 2017 a chwrdd â mam Lydia Bright, Debbie Douglas.
Derbyn gwobr rhagoriaeth maethu am ein gwaith cydweithredol fel Maethu Cymru yn 2022.
Yn 2024, cwrdd â Wynne Evans a Fatima Whitbread
a’n hymgyrch ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ yn ennill yr ymgyrch sector cyhoeddus orau yng ngwobrau Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) 2024.
Diolch enfawr i Kiri Pritchard – McLean am yr holl chwerthin, y ‘sbarcyls’, yr emosiwn, ac yn fwy na hynny, am rannu neges mor galonogol a phwerus am ei thaith bersonol hi o ddod yn ofalwr maeth gyda’i hawdurdod lleol yn Ynys Môn.
Blogiau eraill rydw i wedi’u hysgrifennu: