Wedi i’w thad farw, dyma Mary, yn bum mlwydd oed, yn darganfod y cariad a’r sefydlogrwydd oedd ei angen arni gyda’i theulu maeth cyntaf. Yn 31 oed erbyn hyn ac yn byw yn Wrecsam, mae Mary Ainsworth wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Miss Universe Prydain Fawr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.

Mae hi’n Swyddog Datblygu a Chyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam ac mae’n arwain nifer o ymgyrchoedd codi arian, gan gynnwys cefnogi A-Sisterhood Miss Universe, sy’n ariannu nifer o elusennau fel Cymorth i Ferched Cymru, Llamau a Smalls For All yn y DU. Fel artist cain talentog, mae Mary hefyd wedi codi arian ar gyfer elusennau trwy ei busnes Your Pet Portraits ac Ainsworth Art.
Mae gwaith cymunedol Mary yn cynnwys cefnogi elusennau gofal maeth Comfort Cases UK a The Fostering Network. Y llynedd, trefnodd ymgyrch gasglu arian gyda Phrifysgol Wrecsam fel rhan o genhadaeth ddinesig y sefydliad i gefnogi grwpiau ymylol.
Yn drist iawn, pan yn dair oed, collodd Mary ei thad a phrofodd ofal maeth am y tro cyntaf yn bump oed, gan bara tua dwy flynedd.

“Roeddwn i wrth fy modd,” meddai Mary. “Roedd gen i bopeth oedd ei angen ac roedd fy set gyntaf o ofalwyr maeth yn anhygoel.
“Siaradais â fy ngofalwr y llynedd. Dywedodd wrthai mai’r unig ddillad oedd gen i pan es i atyn nhw oedd y dillad yr oeddwn i’n eu gwisgo ac roedd gen i fag bach o bensiliau lliw nad oeddwn i’n fodlon eu gollwng.
“Gwnaeth Amanda ac Eddie fi i deimlo mor gartrefol. Dwi’n cofio nôl gan wybod eu bod nhw wir wedi gofalu amdanai, ac yn gwneud hyd heddiw.”
Aeth Mary i ofal maeth eto am yr eildro pan yn 11 oed. Dyma pryd y dechreuodd weld ei hamser yn yr ysgol fel “achubiaeth”, gan benderfynu ei bod hi eisiau rhagori a mynd i’r brifysgol. Aeth ymlaen i ennill ei graddau israddedig a meistr ym Mhrifysgol Wrecsam mewn Celfyddyd Gain lle y darganfyddodd ei gyrfa hefyd.

“Byddwn i’n mynd i’r ysgol yn gynnar yn y bore ac yn aros yno yn y llyfrgell mor hir ag y gallwn i nes y byddai’n rhaid i mi fynd adref i gael bwyd,” meddai. “Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi’i wneud heb yr ysgol. Paid â ngham-ddallt i, doeddwn i ddim y plentyn mwyaf poblogaidd, ro’n i’n anghyfforddus iawn yn gymdeithasol. Roedd addysg jest yn achubiaeth i mi, wna i byth anghofio caredigrwydd dieithriaid wnaeth fy nghefnogi drwy fy mhrofiadau.”
Fel person ifanc balch â phrofiad o fod mewn gofal, dywedodd Mary ei bod hi eisiau annog pobl i ystyried dod yn ofalwyr maeth.
“Mae plant angen modelau rôl cyson er mwyn iddyn nhw ffynnu, a chyfathrebu’n agored er mwyn iddyn nhw deimlo’n ddigon diogel i siarad am unrhyw beth wrth iddyn nhw dyfu,” meddai Mary. “Mae angen iddyn nhw deimlo’n ddigon diogel i fedru dweud eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad neu wneud rhywbeth o’i le, neu fod angen help arnyn nhw. Dyma’r hyn dwi di cael trafferth ag o, hyd yn oed rŵan. Fy nod i rŵan ydi helpu plant i gael eu clywed pan mae penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu gofal.”
Dywedodd Mary fod ei thaith tuag at Miss Universe Prydain Fawr wedi bod yn bosibl diolch i’w noddwyr.
“Mae’n fraint bod yn gysylltiedig â sefydliadau mor flaengar ac sy’n credu mewn cyfrifoldeb cymdeithasol,” meddai. “Mae eu cefnogaeth yn caniatáu i mi hyrwyddo achosion dwi’n poeni yn eu cylch ochr yn ochr â Miss Universe ac A-Sisterhood, a dwi’n wirioneddol ddiolchgar.”

Mae noddwyr cais Mary ar gyfer Miss Universe yn cynnwys: MBO Safety Services, Translate-A-Bill, Cowshed/Maethu Cymru.