gall pawb gynnig rhywbeth
gweithio gyda gweithiwr cymdeithasol gofal maeth
gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol gofal maeth: mythau a ffeithiau
Fel rhan o’n hangen i recriwtio 800 yn fwy o deuluoedd maeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rydym yn rhannu straeon bywyd go iawn o wahanol rannau o’r gymuned faethu yng Nghymru.
Rydym am fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau ymddangosiadol mwyaf cyffredin sy’n atal pobl rhag holi am faethu. Yn aml, gall y rhain gynnwys diffyg hyder, camddeall y meini prawf maethu, neu ragdybiaethau ynghylch pa ffyrdd o fyw sy’n addas ar gyfer maethu.
Mae cam diweddaraf ein hymgyrch yn tynnu sylw at fywyd gweithiwr cymdeithasol gofal maeth, gan dynnu sylw at y ffyrdd y maent yn gweithio gyda theuluoedd maeth i roi cymorth hanfodol a rhannu eu harbenigedd gwerthfawr.
Mae niferoedd arolwg diweddar YouGov yn dangos mai dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy’n teimlo bod eu rolau yn cael parch da. Ac mae gweithwyr cymdeithasol gofal maeth yn credu bod gan eu rôl ganfyddiadau negyddol oherwydd diffyg dealltwriaeth o’r hyn y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud.
Felly, rydym yn rhoi mwy o wybodaeth, gan ofalwyr maeth eu hunain, am y berthynas bwysig sydd ganddynt â’u gweithiwr cymdeithasol gofal maeth.
“mae ‘na lot o sylw negyddol yn y wasg. Mae rhai pobl yn dal i gredu bod gweithwyr cymdeithasol yno dim ond i dynnu plant o deuluoedd a’u bod yn cael eu talu’n ychwanegol i wneud hynny.”
Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o waith gwych ein gweithwyr cymdeithasol, rydym am atgoffa pawb ein bod yma i gefnogi teuluoedd maeth a’r bobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt.
Rydym yn gobeithio ysbrydoli pobl i ddod yn ofalwr maeth, gan eu sicrhau y gallant ddibynnu ar swigen gefnogaeth faethu gref.
arolwg gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol
Yn ddiweddar, comisiynwyd ymchwil fanylach i ddelwedd gyhoeddus gweithiwr cymdeithasol gofal maeth, a chawsom nifer drawiadol o ymatebion, a oedd yn amlygu rhai themâu cyffredin.
Er enghraifft, mae mwy na chwarter y gweithwyr cymdeithasol gofal maeth yn credu bod darpar ofalwyr maeth yn ofni y byddent yn cael eu barnu ar eu ffordd o fyw neu eu gorffennol. Ar yr ochr arall, mae bron i 80% o weithwyr cymdeithasol gofal maeth a arolygwyd yn cael eu cymell yn bennaf gan eu hawydd i helpu i gefnogi teuluoedd.
Dywedodd y gofalwyr maeth y gwnaethom eu cyfweld eu bod wedi rhagdybio, cyn gwneud cais i faethu, bod gweithwyr cymdeithasol yn cael eu gorweithio ac yn boddi mewn gwaith papur (29%). Dywedodd llawer wrthym eu bod yn credu bod y rhagdybiaethau negyddol yn cael eu creu gan adroddiadau newyddion ar rôl gweithwyr cymdeithasol.
Ar ôl cwrdd â nhw, maent yn sylweddoli bod eu gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol yn fodau dynol sy’n gofalu, yn cefnogi, yn rhoi sicrwydd ac yn cydweithio â nhw. Mae ein teuluoedd maeth wedi rhannu straeon teimladwy am eu profiadau cadarnhaol gyda’n gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol.
“mewn bron i 18 mlynedd o faethu, rydym wedi cael rhai gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol rhagorol, mewn gwirionedd. Pryd bynnag rydw i wedi galw heibio, boed hynny ar gyfer gwaith papur neu ddim ond sgwrs gyflym, rydw i bob amser wedi cael fy nghroesawu a’m parchu.
Yn ystod rhai amgylchiadau anodd y llynedd, lle aeth fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau, rwyf wedi sylweddoli pa mor bwysig yw cael gweithiwr cymdeithasol sy’n cymryd amser i arsylwi, a dod i adnabod eich teulu, a’r plant.” gofalwyr maeth
“mae gweithwyr cymdeithasol yn arwyr nad ydynt yn aml yn cael y gydnabyddiaeth a’r parch y maent yn eu haeddu. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau amhosib bob dydd na allwn i. Rwy’n gweld yr oriau hir a’r straen maen nhw’n eu cario bob dydd. Ond dwi hefyd yn gweld y gwytnwch, y ddealltwriaeth a’r gofal sydd ganddyn nhw i’r plant yma.” gofalwyr maeth
clywsom hefyd gan ein gweithwyr cymdeithasol gofal maeth eu hunain, a rannodd eu negeseuon ar gyfer pobl sy’n ystyried dod yn deuluoedd maeth gyda maethu cymru.
“Mae gennych lawer o brofiadau bywyd a fydd yn berffaith i ryw plentyn. Os gallwch gynnig cynhesrwydd, empathi a thiriondeb, gallwch ddysgu popeth arall ar hyd y ffordd. Nid yw plant yn chwilio am ‘arbenigwyr’, maen nhw’n chwilio am rywun i’w cadw’n ddiogel a chreu atgofion hapus gyda nhw.” Gweithiwr Cymdeithasol
“Gall gofalwyr maeth fod yr eiriolwyr gorau dros y plant na allant leisio eu dymuniadau a’u teimladau drostynt eu hunain” Gweithiwr Cymdeithasol
“rydych chi’n gyfartal yn y broses ac mae eich barn yn cael ei chroesawu a’i pharchu.” Gweithiwr Cymdeithasol
“Os ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth, yna mae gennych chi rywbeth yn gyffredin gyda gweithwyr cymdeithasol yn barod; mae plant yn bwysig i’r ddau ohonom ac rydym am eu helpu. Gyda’n gilydd, gallwn wneud i hyn ddigwydd.” Gweithiwr Cymdeithasol
“Os byddwch yn penderfynu dod yn ofalwr maeth, byddwch yn dod yn rhan o deulu llawer ehangach o unigolion o’r un anian.” Gweithiwr Cymdeithasol
“Mae gan bob unigolyn a theulu rywbeth unigryw a rhyfeddol i’w gynnig i blentyn” Gweithiwr Cymdeithasol
Mae Laura wedi gweithio fel gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol gyda Maethu Cymru Bro Morgannwg ers naw mlynedd.
“mae fy mam hefyd yn ofalwr maeth, a gadarnhaodd fy mod i eisiau bod yn weithiwr cymdeithasol. Rwy’n mwynhau fy swydd yn fawr iawn, rwyf wrth fy modd yn meithrin perthynas â gofalwyr maeth.”
Mae Ingrid yn weithiwr cymdeithasol gyda Maethu Cymru Wrecsam, wedi cymhwyso ers dros 36 mlynedd.
“mae dod yn ofalwr maeth yn newid bywydau, ond nid yw’n ymwneud â gweithio ar eich pen eich hun. Rydych chi’n gweithio fel rhan o dîm”
mae’n cymryd pentref: gwaith tîm cymuned gofalwyr maeth
Rhannodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: “Mae cam diweddaraf ein hymgyrch arobryn ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth’ yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae cymuned faethu Cymru gyfan yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc. Mae’r ymchwil rydym wedi’i chynnal wedi bod yn bwysig i’n helpu i ddeall yn well yr heriau y mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth yn eu hwynebu wrth gyflawni eu rolau hanfodol – ond hefyd y perthnasoedd anhygoel sydd wedi ffynnu ar draws cymuned faethu Cymru, i ddatblygu rhwydwaith cymorth go iawn ar gyfer gofalwyr maeth a phobl ifanc.”
Ydych chi wedi’ch ysbrydoli i ymuno â’r gymuned faethu?