ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu yng nghymru?

Mae plant i gyd yn wahanol, ac mae’r rhieni maeth sydd eu hangen arnyn nhw’n wahanol hefyd.

Y gwir yw, mae yna blant yn eich cymuned leol sydd angen rhywun i wrando arnyn nhw. Rhywun i gredu ynddyn nhw. Rhywun fel chi – p’un ai ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, p’un ai ydych chi’n briod neu’n sengl, beth bynnag yw eich ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth. Eich sgiliau a’ch profiad yw’r pethau pwysicaf. Rydyn ni’n credu bod set sgiliau eang a mwy amrywiol yn rhywbeth cadarnhaol iawn.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Dim ots pwy ydych chi, mae maethu yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i blant yn eich cymuned leol. Mae’n golygu pethau gwahanol – o aros dros nos i rywbeth tymor hirach. Mae angen gwahanol bobl yn y maes maethu hefyd. Dyna pam mae arnon ni angen gofalwyr amrywiol sydd â chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol.

Ni yw eich canolfan arbenigol bwrpasol chi. Rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd, ynghyd â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned, i sicrhau’r gorau i blant.

O ran pwy sy’n gallu maethu, rydyn ni’n gofyn: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Os yw eich bywyd gwaith yn brysur, gallai olygu bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch yn eich rôl fel gofalwr maeth, a hynny gan deulu a ffrindiau. Dydy swydd llawn amser ddim yn rhwystr. Mae’n rhywbeth y gallai fod angen meddwl mwy amdano, fodd bynnag.

Gall maethu ffitio i mewn i’ch bywyd, a gall rhai mathau o faethu fod yn fwy addas nag eraill. Mae rhai rhieni maeth yn gweithio’n llawn amser ac yn maethu’n rhan amser drwy gynnig seibiant byr. Mae eraill yn maethu’n llawn amser, gyda chyflogwr cefnogol.

Mae maethu yn ymrwymiad, ac mae angen mynd ati i weithio fel tîm. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r cymysgedd cywir o weithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

P’un ai ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais, os ydych chi’n teimlo’n ddiogel lle rydych chi’n byw, yna gallai plentyn deimlo felly hefyd. Gallwn weld beth sy’n gweithio orau i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei alw’n gartref.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol, a does dim plentyn maeth nodweddiadol chwaith. Os oes gennych chi blant eich hun, mae gofalu am blant maeth yn golygu ychwanegu at eich teulu a charu a gofalu am fwy o bobl.

Mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn gallu bod yn werth chweil hefyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth i blant, yn eu helpu i ffurfio cyfeillgarwch ac yn meithrin eu gallu i ofalu am eraill.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer maethu mewn gwirionedd. Gallwch fod yn eich ugeiniau neu ymhell yn eich saithdegau. Dim ots beth yw eich oedran, byddwch yn cael y gefnogaeth a’r hyfforddiant lleol arbenigol sydd eu hangen arnoch i baratoi ar gyfer y daith.

ydw i’n rhy ifanc i feathu?

Mae profiad bywyd yn fantais fawr, ond dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch fod yn rhan o’r gymuned faethu. Gyda’n rhwydwaith cefnogi i’ch arwain, gallwch fwynhau’r daith, beth bynnag fo’ch oedran.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Does dim gofynion arbennig o ran bod mewn perthynas, na hyd y berthynas – dydy priodas neu bartneriaeth sifil ddim yn amod chwaith. Mae angen sefydlogrwydd ar blant, felly os ydych chi’n sengl neu mewn perthynas, os gallwch chi gynnig sefydlogrwydd a lle diogel, yna gallech chi faethu.  Bydd eich tîm Maethu Cymru lleol yn eich helpu i weld ai dyma’r amser iawn i chi.

alla i faethu os ydw i’n drawsrywiol?

Gallwch. Dydy eich rhywedd ddim yn cael unrhyw effaith ar a fyddwch chi’n ofalwr maeth da. Eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar sydd bwysicaf.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Dydy yw eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn ffactor o ran maethu. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich ymrwymiad i fod y person sy’n gwrando ac sy’n gofalu, rhywun sy’n cynnig lle diogel i blentyn.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Dydy cael ci, neu unrhyw fath arall o anifail anwes, ddim yn golygu na allwch chi faethu. Mae’n golygu y byddwn yn eu cynnwys yn eich asesiad, er mwyn gwneud yn siŵr y byddan nhw ac unrhyw blant maeth yn y dyfodol yn cyd-dynnu’n dda.

Gall anifeiliaid anwes gynnig gwahanol fath o gefnogaeth a bod o fudd gwirioneddol i deulu maeth.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae gan Awdurdodau Lleol wahanol bolisïau sy’n ymwneud ag ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) a gofal maeth, a’r peth pwysicaf yw bod yn onest. Byddwn yn cynnig arweiniad ar sut i roi’r gorau iddi os hoffech chi wneud hynny. Ym mhob achos, mae’n golygu dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Rydyn ni’n gwybod bod gwaith yn gallu bod yn rhywbeth cyfnewidiol iawn i bawb. O ran bod yn rhiant maeth da, mae bod ar gael i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chariad bob dydd yn bwysig. Felly, os nad ydych chi’n gweithio ar hyn o bryd, fydd hyn ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth. Byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr mai dyma’r amser iawn i chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Mae pob cartref maeth yn wahanol, a dyna sut dylai fod. Does dim angen tŷ enfawr arnoch i faethu plentyn, ond mae angen ystafell sbâr arnoch chi lle gall y plentyn deimlo’n gartrefol.

rhagor o wybodaeth am faethu

mathau o faethu

Mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth. Gall maethu olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu fwy.

mathau o faethu

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl?

mae’r atebion ar gael yma

cefnogaeth a manteision

Mae sawl mantais i faethu. Dewch o hyd i’ch Awdurdod Lleol i ddarganfod yr holl fanteision:

beth rydym yn ei gynnig

eich awdurdod lleol

Chwiliwch drwy’r 22 Awdurdod Lleol sy’n rhan o rwydwaith Maethu Cymru.

Your nearest local authority is:

does dim côd post dim canlyniadau