blog

pam mae nyrsys yn gwneud gofalwyr maeth gwych

Mae bod yn nyrs yn gofyn am ddawn naturiol o ran gofalu. Mae angen i chi fod yn empathetig a chael dealltwriaeth gynhenid o anghenion pobl ar unrhyw adeg benodol. Gall llawer o sgiliau nyrsio hefyd fod yn sgiliau arbennig o ddefnyddiol i ofalwyr maeth, sy’n aml yn gwneud nyrsys yn addas iawn ar gyfer maethu.

Os ydych chi’n nyrs ac yn ystyried bod yn ofalwr maeth, darllenwch isod i ddysgu pam y gallai eich sgiliau a’ch profiad wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn.

sgiliau nyrsio trosglwyddadwy ar gyfer gofalwyr maeth

Mae nyrsio a gofal yn mynd law yn llaw, ac mae yna lawer o agweddau ar nyrsio sydd hefyd yn sgiliau gofal maeth dymunol, fel:

cyfathrebu

Mae cyfathrebu effeithiol yn sgil hanfodol i unrhyw nyrs ei feistroli. Ar ôl ymdrin â channoedd os nad miloedd o gleifion bob dydd, mae’r gallu i addasu eich arddull gyfathrebu yn hollbwysig; boed ydych chi’n egluro triniaeth neu’n rhoi newyddion.

Mae’r gallu hwn hefyd yn sgil hynod werthfawr i ofalwyr maeth. Mae cyfathrebu da yn helpu i chwalu’r rhwystrau rhwng rhiant maeth a phlentyn maeth, gan helpu i sefydlu cysylltiad fel y gall perthynas gadarn ddatblygu. Boed yn gwrando, yn esbonio pethau mewn ffordd maen nhw’n ei ddeall, eirioli drostynt, eu helpu i leisio eu teimladau, neu’n ysgafnu moment anodd gyda jôc a gwên, mae cyfathrebu’n hollbwysig.

Fel gofalwr maeth, efallai y byddwch hefyd yn siarad ag oedolion o bob math – o weithwyr cymdeithasol a rheolwyr tîm, i rieni geni, swyddogion y llysoedd, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, darparwyr meddygol a staff ysgol, yn ogystal â chyd-ofalwyr maeth. Dyna pam mae cyfathrebu da ymhlith y prif sgiliau nyrsio trosglwyddadwy ar gyfer maethu.

empathi

I fod yn rhiant maeth da, rhaid i chi fod yn empathetig. Gall gallu synhwyro’n gyflym sut mae plant maeth yn teimlo, a pham, eich helpu i ymateb mewn ffordd sy’n gwneud iddynt deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu deall. Gallwch hefyd eu helpu i wneud synnwyr o’u hemosiynau eu hunain.

Yn ffodus, mae gan nyrsys ddawn naturiol o ran empathi fel arfer. Mae hyn yn caniatáu iddynt ddeall sut y gallai unigolyn fod yn teimlo, neu pa ofal sydd ei angen arno i deimlo’n well – yn union fel y byddai rhieni maeth yn ei wneud gyda’r bobl ifanc yn eu gofal.

datrys problemau

Er efallai nad yw’n ymddangos felly, mae sgiliau datrys problemau yn hanfodol i unrhyw riant maeth. Mae rhieni maeth yn wynebu llawer o wahanol sefyllfaoedd – y rhai sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gofalu am blant maeth, yn ogystal â’r cyfrifoldebau gweinyddol eraill sy’n gysylltiedig â bod yn rhiant maeth.

Felly, mae’r gallu i oresgyn rhwystrau o’r fath yn effeithiol yn hanfodol, gan ei fod yn galluogi delio â materion yn gyflym. Wrth gwrs, mae’r sgil hwn sy’n hanfodol i ofalwyr maeth yn rhan naturiol o set sgiliau unrhyw nyrs; wedi’r cyfan, mae delio â gwaith papur gweinyddol a phobl heriol yn rhan o’r swydd bob dydd.

Byddai nyrs yn naturiol yn dda am feddwl am syniadau am bethau gwahanol i’w trio i gefnogi plentyn yn ei gofal. Efallai taw gosod y bwrdd cyn iddynt fynd i’r ysgol fyddai hynny, neu greu cynllunydd prydau gweledol i helpu plant ag ansicrwydd bwyd i wybod pryd mae eu pryd nesaf yn dod.

gwybodaeth feddygol

Mae gwybodaeth feddygol yn ddefnyddiol ar draws pob rhan o fywyd, nid yn unig fel sgil gofal maeth. Gallu delio â mân anafiadau yn gyflym ac yn effeithiol, a deall beth allai alw am sylw mwy proffesiynol.

Os oes gan eich plentyn maeth unrhyw broblemau iechyd neu os yw’n datblygu rhai, bydd eich dealltwriaeth feddygol yn amhrisiadwy, boed ydych yn delio â phethau fel asthma a diabetes, yn gofalu am fabi gyda thiwb bwydo neu ddim ond yn ymateb yn fwy pwyllog os ydych yn darganfod llau pen.

hyfforddiant proffesiynol

Mae maethu a nyrsio ill dau yn rhannu angen cyffredin am ddealltwriaeth ddigonol o egwyddorion diogelu. Bydd llawer o nyrsys yn derbyn hyfforddiant diogelu gan eu cyflogwyr, ac mae hyfforddiant rydych chi eisoes wedi’i gwblhau mewn mannau eraill yn drosglwyddadwy i’ch cynllun dysgu a datblygu ar gyfer maethu.

Mae angen i bob gofalwr maeth gael hyfforddiant ar y pynciau hyn, felly gall cael y wybodaeth ymlaen llaw fel nyrs fod yn arbennig o fuddiol, gan roi cyfle i chi achub y blaen ar y daith o gaffael yr holl sgiliau gofal maeth angenrheidiol.

hyblygrwydd

Mae nyrsio’n aml yn cynnwys gwaith anrhagweladwy, felly mae angen llawer o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion cleifion. Gellir dweud yr un peth am faethu – mae gallu ymdopi â’r ansicrwydd sy’n dod gyda’r rôl yn sgil gwerthfawr i ofalwyr maeth. Wedi’r cyfan, mae pob plentyn yn wahanol, felly gall eu hanghenion amrywio’n fawr. Gall gallu addasu i’r anghenion hyn yn hyderus a bod yn bwyllog wneud gwahaniaeth mawr i’w bywyd, a’ch profiad fel rhiant maeth.

Wrth gwrs, gall fod yn heriol cydbwyso shifftiau nyrsio â chyfrifoldebau maethu, neu unrhyw fath o rianta. Mae’n sicr yn bosibl gyda’r gefnogaeth briodol a digon o gynllunio, ond gall alw am waith tîm – fel rhannu dyletswyddau gofal maeth (fel mynd â’r plentyn i’r ysgol) gyda’ch partner, plant sy’n oedolion, neu eich rhieni chi.

mother and baby in doctors surgery

profiad gofal amrywiol

Nid mater o gynnig cartref gofalgar i blant ifanc yn unig yw maethu bob amser. Weithiau, efallai y bydd angen gofal maeth rhiant a phlentyn i sicrhau bod rhieni’n derbyn cymorth i ofalu am eu plant heb gael eu gwahanu.

Gall y profiad y mae nyrsio yn ei gynnig, yn enwedig trwy’r ystod amrywiol o unigolion y mae nyrsys yn gofalu amdanynt, fod yn arbennig o ddefnyddiol fel sgil gofal maeth trosglwyddadwy mewn sefyllfaoedd o’r fath. Mae’n golygu bod gofalwyr mewn sefyllfa well i ofalu am blant maeth, yn ogystal â darparu digon o gefnogaeth i’r rhieni.

Mewn llawer o achosion, efallai y byddwch yn cefnogi mam sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar ac yn ei dysgu hi sut i ofalu am ei baban, o fwydo i newid cewynnau. Bydd hyn yn dod yn naturiol i nyrsys sydd â phrofiad fel ymwelwyr iechyd neu fydwragedd, a allai fod wedi gweld mamau ifanc ar eu wardiau yn gadael heb fawr o gefnogaeth deuluol, neu wedi gweld gweithwyr cymdeithasol yn ymweld â mamau ar y ward.

ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth?

Mae llawer o nyrsys yn addasu i faethu yn hynod gyflym, oherwydd y sgiliau sydd ganddyn nhw’n barod yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Os ydych chi’n nyrs neu’n gyn-nyrs sy’n ystyried dechrau ar y daith i ofal maeth, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. I ddysgu mwy am lwybrau eraill i faethu, a phwy all wneud cais, ewch i’r dudalen pwy all faethu yng Nghymru.

Story Time

Stories From Our Carers