mathau o faethu
Mae sawl ffordd o wneud gwahaniaeth. Gall maethu olygu diwrnod, wythnos, blwyddyn neu fwy.
mathau o faethuRydyn ni’n credu mewn cydweithio, rhannu gwybodaeth a chreu dyfodol gwell i blant – gyda’n gilydd.
Ni yw Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Mae gofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent, Gwynedd a RhCT yn rhannu sut y gwnaeth trosglwyddo i'w hawdurdod lleol roi cymuned faethu leol bwysig iddynt ar garreg eu drws.
Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.
Mae’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth go iawn, ar unwaith, i’r plant sydd wrth galon eich cymuned. Mae’n benderfyniad i roi rhywbeth yn ôl.
Er mwyn eich helpu i weithio gyda ni i greu dyfodol gwell i blant lleol, rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol, cefnogaeth benodol a lwfansau ariannol.
Mae’r cyfan yn dechrau gyda hyn. Neges. E-bost. Galwad ffôn. Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Dydyn ni ddim yn sefydliad pell i ffwrdd heb ddealltwriaeth o’ch byd. Rydyn ni’n griw o arbenigwyr ymroddedig o’ch cymuned chi. Felly, os ydych chi’n gofyn sut mae dod yn ofalwr maeth, mae’r ateb yn syml. Cysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol a byddwn yn eich arwain bob cam o’r ffordd. Ymunwch â’n digwyddiad gwybodaeth ar-lein
y camau nesaf
Pan fyddwch chi wedi cymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw, byddwn yn eich tywys drwy weddill y broses. Ar y dechrau, mae’n ymwneud â dod i’ch adnabod chi. eich taith maethu cymru
gweld mwy
Efallai nad arian yw’r peth cyntaf rydych chi’n ei ystyried gyda maethu. Ond mae’n gwestiwn pwysig i’n gofyn i ni. Mae’n rhan o sut rydyn ni’n eich cefnogi chi, i roi’r gofal gorau posib i’n plant.
lwfansau
Byddwch yn cael lwfans ar gyfer pob plentyn maeth yn eich gofal, a byddwch yn cael lwfans fel rhiant maeth hefyd. Mae’n ymwneud â gofalu am bethau bob dydd, yn ogystal â helpu i greu mwy o atgofion arbennig. Y Canllaw i Dâl Gofalwyr Maeth
cefnogaeth arall
Mae manteision eraill, ar wahân i gymorth ariannol, a fydd yn cyfoethogi eich profiad maethu. Rydyn ni’n edrych ar y darlun llawn: cefnogaeth emosiynol, cyfleoedd dysgu ac arweiniad arbenigol hefyd. Dim ein hamser a’n harbenigedd yn unig rydyn ni’n eu cynnig. Fel mudiad dielw, mae ein holl arian yn mynd tuag at gefnogi’r plant yn ein gofal a gwneud y profiad maethu y gorau y gall fod. Mae hynny’n golygu cefnogaeth cylch cyfan. Rydyn ni yma i chi, ym mha bynnag ffordd rydych chi ein hangen ni. Tarwch olwg ar gefnogaeth a manteision eich Awdurdod Lleol i weld beth yn union y gallai maethu gyda Maethu Cymru ei olygu i chi.
gweld mwy
Does dim y fath beth â phlentyn maeth nodweddiadol. Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol, chwaith. Mae gan bob plentyn yn ein gofal ei frwdfrydedd a’i bersonoliaeth ei hun. Mae’r plant wedi dod o wahanol amgylchiadau unigryw, sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau hyd yma. Rydyn ni yma i wneud yn siŵr bod eu dyfodol yn wahanol. Yn well.
ein plant maeth
O fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau, o frodyr a chwiorydd i famau a thadau ifanc, mae yna blant ar hyd a lled Cymru sydd angen y cyfle hwnnw ar hyn o bryd. Y cyfle hwnnw i gamu ar lwybr newydd. Dyna lle gall gofalwyr maeth helpu. Mae pob teulu maeth yn wahanol. Mae rhai yn croesawu brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd, eraill yn gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, ac mae rhai rhieni maeth yn arbenigo mewn gofalu am blant sydd ag anghenion unigryw hefyd. Mae pob math o blant angen gofal maeth. Ein rôl ni yw cefnogi pob un ohonyn nhw. Dod o hyd i deulu sy’n addas iddyn nhw.
brodyr a chwiorydd
Rydyn ni’n credu mewn aros yn lleol, ac aros gyda’n gilydd. Mae cynnal cysylltiadau rhwng brodyr a chwiorydd yn bwysig i blant, felly mae’n bwysig i ninnau hefyd. Dyna pam mae paru brodyr a chwiorydd â theulu maeth, gyda’i gilydd, yn flaenoriaeth. Mae creu dyfodol gwell yn aml yn golygu manteisio i’r eithaf ar y cysylltiadau pwysig sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â datblygu rhai newydd.
pobl ifanc yn eu harddegau
Mae gofalu am blentyn yn ei arddegau yn golygu gwrando, deall, helpu i wneud synnwyr o’r byd – a’i le ynddo. Mae’n ymwneud â darparu sefydlogrwydd a sicrwydd, o blentyndod ac ymlaen i fywyd fel oedolyn. Ystadegau maethu ar gyfer cymru
gweld mwy
Chwiliwch drwy’r 22 Awdurdod Lleol sy’n rhan o rwydwaith Maethu Cymru.
dewch o hyd i’ch tîm lleol