beth yw llety â chymorth?

Mae pobl ifanc yn eu harddegau ledled Cymru am gael eu hannibyniaeth, ac nid yw hyn yn wahanol i blant maeth. Mae llety â chymorth yn helpu pobl ifanc sy’n camu i lawr o ofal maeth i lefel is o ofal a chymorth, ond nad ydynt eto’n barod i fyw’n annibynnol.

Efallai y bydd rhai arddegwyr ac oedolion ifanc sy’n mynd i ofal yn ddiweddarach wedi dod i’r arfer â lefel o annibyniaeth a hunangynhaliaeth, ac efallai y byddant yn teimlo bod cael eu meithrin gan deulu’n cyfyngu arnynt. Gallai llety â chymorth fod yn ddewis gwahanol, gwell.

Mae llety â chymorth yn fath o lety byw i oedolion ifanc sy’n gweithredu fel cam pwysig tuag at fyw’n annibynnol. Maent yn cynnig amgylchedd sefydlog, tebyg i gartref i’r person ifanc wrth iddo ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol fel y gall fentro allan ar ei ben ei hun.

Mae’r lletywyr yn cynnig anogaeth ymarferol ac emosiynol, gan helpu pobl ifanc i fagu hyder gyda hanfodion oedolaeth, fel cyllidebu, coginio, siopa, a bod yn denant da.

O ran cyfrifoldebau, mae bod yn lletywr llety â chymorth yn cynnwys llai o ymglymiad na maethu – felly, os oes gennych chi ystafell sbâr a’r awydd i helpu pobl ifanc i adeiladu eu hyder, gallai hwn fod yr opsiwn perffaith i chi.

teenage boy smiling at adult female

i bwy mae llety â chymorth?

Mae byw â chymorth i oedolion ifanc wedi’i anelu at bobl ifanc yn eu harddegau, 16 oed neu hŷn (gyda therfyn oedran uchaf o 21 neu 25 mewn rhai achosion), y mae angen iddynt fyw’n lled-annibynnol. Efallai eu bod yn symud ymlaen o ofal maeth neu ofal preswyl, neu’n cyrraedd y wlad hon fel ffoadur ifanc.

Yn aml, bydd y bobl ifanc hyn naill ai’n dal i fod yn astudio neu’n hyfforddi, neu’n dechrau eu swydd gyntaf. Mae angen amgylchedd cefnogol ar bob person ifanc lle gall dderbyn cyngor gan oedolyn dibynadwy wrth iddo adeiladu ei annibyniaeth.

pa mor hir y gall person ifanc aros?

Gall byw â chymorth i oedolion ifanc amrywio o ran hyd – o sawl wythnos i sawl blwyddyn, yn dibynnu ar anghenion a dymuniadau’r unigolyn. Byddai lefel y cymorth gan y lletywr llety â chymorth hefyd yn amrywio yn seiliedig ar ofynion y person ifanc.

Bydd y panel paru yn ceisio sicrhau bod lletywr a pherson ifanc yn addas i’w gilydd; fodd bynnag, rydyn ni’n ymwybodol y gall pethau newid wrth gyd-fyw. Yn anffodus, gall trefniadau llety â chymorth weithiau chwalu oherwydd anghytundebau, y person ifanc yn methu â chadw at y Cytundeb Cyd-fyw, yn peidio â gwneud tasgau, neu’n peidio â thalu ei gyfraniad. Rydyn ni’n annog lletywyr i roi gwybod am unrhyw heriau cyn gynted â phosibl, fel y gallwn geisio gweithio trwyddynt.

Nid yw pob trefniant llety â chymorth yn gweithio; weithiau bydd angen i’r lletywr ddod â’r trefniant i ben, neu yn yr un modd, gall person ifanc fod yn barod i symud ymlaen yn gynt na’r bwriad.  Os oes angen iddo ddod i ben, mae angen i ni gael gwybod cyn gynted â phosibl, fel y gallwn edrych ar ddewis arall.

beth mae lletywr llety â chymorth yn ei wneud?

Fel lletywr llety â chymorth, eich prif gyfrifoldeb yw cynnig cartref i oedolion ifanc i fyw ynddo ac amgylchedd cefnogol maen nhw’n teimlo’n ddiogel ynddo. Nid oes angen gofal a rhianta cyson, ond byddech chi’n helpu’r person ifanc i ddysgu sut i ddefnyddio’i arian, coginio a rheoli ei drefn ddyddiol, delio â’r farchnad swyddi, a sgiliau perthnasol eraill ar gyfer byw’n annibynnol, yn ogystal â chynnig cefnogaeth emosiynol.

sut mae llety â chymorth yn wahanol i gartrefi maeth neu gartrefi gofal?

Mae llety â chymorth yn symud y ffocws o ofal i gefnogaeth, gan ganiatáu i oedolion ifanc gael mwy o ryddid a mwy o gyfrifoldebau o ddydd i ddydd. Y prif feysydd lle rydyn ni’n gweld gwahaniaethau rhwng byw â chymorth i oedolion ifanc, maethu a chartrefi gofal yw oedran y plant a lefel y gofal.

Er enghraifft, er bod cartrefi gofal a theuluoedd maeth yn cynnig gofal i blant iau ac arddegwyr hŷn, mae llety â chymorth fel arfer yn darparu ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed yn unig.

Mae lefel yr ymglymiad hefyd yn amrywio – mae cartrefi gofal yn darparu gofal preswyl grŵp, tra bod trefniant maethu yn y cartref yn canolbwyntio ar fwy o rianta llawn-amser unigol; mae llety byw â chymorth i oedolion ifanc, yn y cyfamser, yn golygu mwy o annibyniaeth i’r person ifanc, gyda chefnogaeth gan oedolyn pan fo angen.

Two ladies and a teenage girl

pa gymorth sydd ar gael i letywyr?

Nid yw llai o gyfrifoldebau rhianta yn golygu y byddech chi ar eich pen eich hun os penderfynwch gynnig eich cartref ar gyfer llety â chymorth.

Bydd eich pwynt cyswllt ar gyfer cymorth i letywyr yn amrywio ledled Cymru. Mewn rhai achosion, tîm eich awdurdod lleol i bobl ifanc 16 oed neu hŷn fydd yn gyfrifol, neu dîm o fewn y gwasanaeth maethu. Ar achlysuron eraill, gallai gael ei gontractio i ddarparwr nid-er-elw neu elusennol.

Gall y tîm cymorth ddarparu hyfforddiant ychwanegol ar gais y lletywr, neu os gwelwn fod angen amdano, yn dibynnu ar ofynion y bobl ifanc.

Gall yr hyfforddiant parhaus, sydd fel arfer ar-lein neu’n cynnwys sgwrs gydag arbenigwr ar y pwnc, eich helpu i gefnogi’r person ifanc rydych chi’n ei letya trwy unrhyw heriau y mae’n eu hwynebu. Efallai y byddwch chi eisiau mwy o wybodaeth am gamddefnyddio sylweddau, awtistiaeth ac anawsterau dysgu, neu hyd yn oed y broses o geisio lloches i ffoaduriaid – beth bynnag rydych chi eisiau ei ddysgu i’w cefnogi’n well, byddwn ni’n eich cynorthwyo.

 ydych chi’n cael eich talu am lety â chymorth?

Bydd y taliadau y byddwch chi’n eu derbyn fel lletywr llety â chymorth yn helpu i dalu’r biliau ychwanegol, gan gynnwys bwyd. Bydd y bobl ifanc fel arfer allan yn y coleg neu’n gweithio yn ystod y dydd ac yn prynu eu cinio eu hunain, felly bydd ond angen i chi gynnig brecwast sylfaenol a phryd poeth gyda’r hwyr. Nid oes disgwyl i chi ddarparu snacs i bobl ifanc yn eu harddegau. Weithiau mae’n ddefnyddiol i’r person ifanc gael ei gwpwrdd ei hun yn y gegin ar gyfer bwyd y mae wedi’i brynu i’w hun.

Gall cyfanswm y taliad lletywr llety â chymorth amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi yng Nghymru, a lefel y cymorth sydd ei angen ar y person ifanc.

Dylai’r oedolion ifanc fod yn gweithio tuag at gyflogaeth neu addysg.  Bydd disgwyl iddynt gyfrannu swm bach ychwanegol tuag at y biliau a’r siopa wythnosol, o’u cyflogau, lwfans cynhaliaeth addysg, neu gredyd cynhwysol. Mae hyn yn helpu i adeiladu arferion o dalu biliau ar amser a bod yn denantiaid da, yn barod ar gyfer y byd go iawn.

a allaf weithio’n llawn-amser a dal i gynnig llety â chymorth?

Gallwch. Does dim disgwyl i letywyr llety â chymorth roi’r gorau i’w swydd lawn-amser; yn  wir, mae llawer o bobl sy’n cynnig gwasanaeth byw â chymorth i oedolion ifanc yn parhau i weithio, gan fod yno i’w lletywyr ifanc pan fo angen.

Mae llety â chymorth yn ffordd ddelfrydol o gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, tra hefyd yn gweithio’n llawn-amser. Mae angen i letywyr fod yno i’r person ifanc, ond nid yw’n ofyniad i fod gartref bob amser.

Bydd lefel y cymorth sydd ei angen yn cael ei gyfateb i’ch argaeledd fesul achos. Gallwn ni hefyd wneud yn siŵr bod cefnogaeth ar gael os ydych chi’n mynd ar wyliau.

pwy all gynnig llety â chymorth?

Rydyn ni’n croesawu lletywyr llety â chymorth o bob cefndir ledled Cymru – beth bynnag yw eich statws perthynas, profiad rhianta, ethnigrwydd, sefyllfa gyflogaeth, rhywedd a rhywioldeb. Does dim ots chwaith os ydych chi’n berchennog tŷ neu’n denant eich hun, ond bydd angen caniatâd gan eich landlord arnom os mai dyna’r achos.

Fel gyda’n gofalwyr maeth, byddai angen i ni redeg GDG a gwiriadau meddygol. Ar wahân i hynny, y prif ofyniad yw eich bod chi’n gallu cynnig amgylchedd diogel a chefnogaeth i’r person ifanc sy’n byw gyda chi.

Mae angen i letywyr gael gofod byw addas i ddarparu ar gyfer person ifanc a rhoi lefel o annibyniaeth iddo. Mae hyn fel arfer yn golygu ystafell wely sbâr, y mae angen iddi gynnwys gwely, bleindiau neu lenni, a rhywle i’r person ifanc storio dillad, fel cwpwrdd dillad, droriau, neu reilen. Nid oes angen i’r gwely fod yn un dwbl. Byddai angen mynediad i’r person ifanc hefyd i ystafell ymolchi, cegin a gofod byw.

Family playing card game

manteision llety â chymorth

Gall llety byw â chymorth i oedolion ifanc fod yn fuddiol i’r bobl ifanc a’r lletywyr.

Bydd gan oedolion ifanc, er enghraifft, le sefydlog i fyw lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel.  Byddant yn gallu dibynnu ar arweiniad oedolyn dibynadwy pan fo angen, tra’n dal i gadw lefel o annibyniaeth. Hefyd, yn ogystal â rhoi hwb i’w hyder, gall y trefniant hwn hefyd wella eu canlyniadau mewn addysg a chyflogaeth.

Mae lletywyr yn cael y cyfle i gael effaith barhaol a chefnogi person ifanc wrth iddo baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn. Yn ogystal â’r ymdeimlad o bwrpas a chysylltiad y mae hyn yn ei gynnig, mae lletywyr llety â chymorth yn derbyn hyfforddiant, cymorth ariannol, a’r cyfle i adeiladu perthnasoedd yn eu cymuned leol.

sut i ddod yn lletywr llety â chymorth

Mae’r broses o gymhwyso i gynnig llety â chymorth fel arfer yn dechrau gyda sgwrs gychwynnol rhwng eich aelwyd a’ch tîm awdurdod lleol; mae’n debyg y byddai hyn yn cynnwys ymweliad cartref, lle gallwch ofyn cwestiynau wrth i ni ddod i’ch nabod chi.

Yna mae angen i ymgeiswyr gwblhau’r hyfforddiant gorfodol sy’n cynnwys fideos sy’n benodol i lety â chymorth.  Mae’r hyfforddiant gorfodol fel arfer ar-lein a gall gynnwys dull sy’n ystyriol o drawma o gefnogi pobl ifanc, amddiffyn plant, hylendid bwyd, GDPR, cydraddoldeb a diogelu oedolion.

Os oes gennych wybodaeth neu brofiad blaenorol o letya myfyrwyr tramor, addysgu, gweithio gyda phobl ifanc, neu rianta, mae’r ddealltwriaeth flaenorol hon o anghenion pobl ifanc yn ddefnyddiol – ond nid yw’n hanfodol.

Yn dilyn hyn, byddwn ni’n cynnal ein hasesiad, gan ofyn am eich safbwyntiau a’ch barn i greu darlun ohonoch chi a’ch profiad bywyd eich hun, gan gynnwys yr holl wiriadau cefndir angenrheidiol, yn ogystal â dau eira cymeriad ac un geirda cyflogwr.

Mae’r broses gymeradwyo fel arfer yn gyflymach nag ar gyfer dod yn ofalwr maeth, fel arfer yn cynnwys dau neu dri ymweliad, ac – os bydd popeth yn mynd yn dda – cymeradwyaeth o fewn tri i bedwar mis.  Gall hyn fod yn ffordd wych o “brofi’r dyfroedd” ac ennill profiad fel cam cyntaf i ofal cymdeithasol.

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, byddwch chi’n cael hyfforddiant, fel y gallwch chi ehangu eich sgiliau a bod yno pan fydd eich angen chi ar eich lletywyr ifanc.

Yn olaf, byddwn ni’n dod o hyd i’r person ifanc sy’n cyd-fynd orau ag amgylchedd eich cartref a’ch cefndir, fel bod pawb yn cael y gorau o’r trefniant llety â chymorth. Efallai na fydd hyn yn digwydd ar unwaith, ond mae’r canlyniadau gorau yn digwydd pan fyddwn ni’n eich paru chi â pherson ifanc rydyn ni’n teimlo y gallwch chi ei helpu.

barod i gynnig gwasanaeth byw â chymorth i oedolion ifanc yn eich ardal chi?

Os yw dod yn lletywr llety â chymorth yn swnio fel y dewis iawn i chi, estynnwch allan at dîm eich awdurdod lleol – byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs am y camau nesaf.