sut i gymryd rhan yn y pythefnos gofal maeth?
Mae digon y gallwch ei wneud i gydnabod yr hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth i daith faethu plentyn.
Yn ystod PGM, bydd ein timau Maethu Cymru lleol yn dathlu’r gwaith caled y mae gofalwyr maeth yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn. O anfon tusw hardd o flodau at ofalwyr maeth a chynnal gweithdai creu torchau haf, i daith i’r sw neu gystadleuaeth bobi i ofalwyr maeth, mae ein timau lleol yn dod o hyd i ffyrdd anhygoel o ddangos ein gwerthfawrogiad.
Yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth, bydd eich timau lleol o Faethu Cymru yn chwifio baneri y tu allan i swyddfeydd y cyngor ac yn y gymuned, o gaffis lleol i ganolfannau siopa – dewch i ddweud helo!
Mae aelodau o dîm Maethu Cymru a gofalwyr maeth lleol hefyd ar gael ar gyfer ymweliadau ysgol neu i siarad â chlybiau a chymdeithasau lleol am yr angen am ofalwyr maeth.
Efallai y byddwch chi’n gweld rhai o’n timau mewn parc neu ar daith gerdded maethu i fyny Pen y Fan, ar hyd promenâd Bae Colwyn neu o amgylch canol dinas Caerdydd, gan gynnal digwyddiadau dathlu, goleuo adeiladau a chodi arian – ac ymwybyddiaeth! Dewch i ymuno â ni, ein noddi neu ein hannog yn ein blaenau.
Gall hyd yn oed cyflogwyr sy’n hwyluso maethu [dolen] ymuno â’r dathliadau. O siarad am PGM ar y cyfryngau cymdeithasol a chydnabod gweithwyr gofalwyr maeth i addysgu’ch tîm ehangach am faethu a threfnu codi arian, mae pob ychydig yn helpu’r achos.
eisiau gwybod mwy am faethu?
Ymunwch â ni ar-lein i sgwrsio am faethu gyda’ch awdurdod lleol.
Darllenwch fwy am faethu yng Nghymru, a dod o hyd i’ch awdurdod lleol.
Byddwn yn ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd. Cymerwch ran gyda #PGM26 a thrwy ein dilyn ar Facebook, Instagram