pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Dim eich asiantaeth faethu safonol yw Maethu Cymru. Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol dielw ledled Cymru.

Pam ein dewis ni? Mae’n ymwneud â dewis pwrpas, dim elw. Mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i greu dyfodol gwell i blant lleol drwy eu helpu i aros yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.

Creu dyfodol gwell i blant lleol yw ein nod. Dyna sydd bwysicaf.

ein cenhadaeth

Mae yna blant ledled Cymru sydd ein hangen ni, ac sydd eich angen chi hefyd.

Maen nhw’n fabanod, yn blant bach, yn bobl ifanc yn eu harddegau, yn frodyr a chwiorydd ac yn rhieni ifanc. Mae straeon pob un yn unigryw, ond mae ein cenhadaeth yr un fath ar gyfer pob plentyn: creu dyfodol gwell.

ein cefnogaeth

Ni yw’r rhwydwaith cefnogi lleol cyflawn ar eich cyfer, yn eich cefnogi chi a’r plant yn ein gofal.

Beth bynnag fydd eich dyfodol maethu, byddwn wrth eich ymyl bob cam o’r ffordd gyda’r holl arbenigedd, y cyngor a’r hyfforddiant pwrpasol y bydd eu hangen arnoch ar eich taith maethu.

ein ffyrdd o weithio

Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i blant lleol, ac mae cysylltiad a chydweithio wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

Dydyn ni ddim yn sefydliad pell. Rydyn ni’n rhan o’ch cymuned. Rhan o wead eich bywyd bob dydd.

Mae pob plentyn yn unigolyn gydag anghenion unigryw. Mae ein gofalwyr maeth yn unigryw hefyd, a’n rôl ni yw eu helpu i fod y gorau y gallan nhw fod drwy fod yn nhw eu hunain, gwneud y gorau o’u doniau presennol a’u cefnogi i dyfu a datblygu gyda phob cam.

eich dewis

Mae dewis Maethu Cymru yn golygu dewis gweithio gyda phobl sy’n malio. Pobl sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n ymroddedig. Pobl go iawn sy’n byw lle rydych chi’n byw ac sy’n deall realiti bywyd yn eich cymuned.

Dewch o hyd i’ch Awdurdod Lleol a chymryd y cam cyntaf heddiw.

eich awdurdod lleol

Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.

Your nearest local authority is:

does dim côd post dim canlyniadau