datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd yn berthnasol i https://maethucymru.llyw.cymru/

Cynhelir y wefan gan Maethu Cymru. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl ddefnyddio’r wefan. Er enghraifft fe dylech allu:

  • Newid lliw, lefelau cyferbynnedd a ffont
  • Chwyddo’r testun 150% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gyda bysellfwrdd yn unig
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gyda chyfleuster darllen sgrin (yn cynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud yn siŵr bod testun y wefan mor hawdd â phosibl i’w ddeall.  Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch ydi’r wefan hon

Gwyddwn nad ydi rhannau o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  • Mae’n rhaid galluogi Javascript er mwyn i rai elfennau gweledol weithio’n iawn
  • Nid yw fidoes sydd wedi’u mewnblannu wedi’u sgrindeitlo
  • Nid yw botymau a dolenni sy’n cysylltu testun bob amser yn unigryw
  • Efallai y bydd rhai elfennau ffocws yn anweladwy
  • Efallai y bydd cyd-destun/cefndir a amlygir â bysellfwrdd heb gyferbyniad lliw digonol
  • Efallai na fydd digon o gyferbyniad rhwng y testun a ddewisir dan amodau arddangos penodol
  • Gan ddibynnu ar gynnwys y dudalen, efallai na fydd rhai lefelau penawdau mewn trefn semantig
  • Wrth chwyddo testun, fe all orgyffwrdd â’r cynnwys gerllaw
  • Mae problemau cyferbynnedd/darllenadwyaeth gyda’r prif logo

Adborth a manylion cyswllt

Os hoffech dderbyn gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall, megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad llais neu braille:

  • Anfonwch Ebost i: marketing@fosterwales.gov.wales
  • Ffoniwch: 029 2087 3797
  • Ysgrifennwch at: Maethu Cymru, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 28 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd ar y wefan hon. Os dewch o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os nad ydych chi’n credu’n bod ni’n cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

  • Anfonwch Ebost i: [email protected]
  • Ffoniwch: 029 2087 3797
  • Ysgrifennwch at: Maethu Cymru, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

Y Weithdrefn Gorfodi

Mae’r Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y rheoliadau hygyrchedd’.) Os nad ydych chi’n hapus â’n hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni wyneb yn wyneb

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfnewid testun ar gyfer pobl sydd yn fyddar, trwm eu clyw neu â nam ar eu lleferydd.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd neu, os wnewch chi gysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu dehonglwr BSL ar eich cyfer.

I gael gwybod mwy am sut i gysylltu â ni ewch i: https://cardiff.fosterwales.gov.wales/contact-us/.

Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon

Mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i wneud y wefan hon mor hygyrch â phosibl, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai cydrannau gweledol yn gofyn am JavaScript wedi’i alluogi i weithredu’n llawn yn gywir:

  • Cwymplenni llywio sylfaenol
  • Delweddau wedi’u ‘llwytho’n ddiog’ gyda JavaScript i gynyddu cyflymder llwytho
  • Llywio dyfais sgrin fach
  • Llywio dyfais sgrin fach ‘Cwestiynau cyffredin’
  • Chwarae fideo gan chwaraewyr sydd wedi’u gwreiddio

Nid yw rhai botymau a chynnwys testun elfen gyswllt yn unigryw ac mae’n cynnwys testun generig.

Mae rhai elfennau y gellir canolbwyntio arnynt, megis rheolaethau hygyrchedd, yn cael eu datgelu’n weledol drwy fotwm.  Er eu bod yn hygyrch drwy lywio bysellfwrdd, gall rhai elfennau y gellir canolbwyntio arnynt fod yn anweledig i ddechrau.

Gall y lliw sy’n dangos ffocws gan ddefnyddio llywio bysellfwrdd fod o ymddangosiad cyferbyniad isel, yn dibynnu ar gyd-destun/lliw cefndir, ac felly’n methu â bodloni gwiriadau cyferbyniad hygyrchedd AA. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar liwiau cefndir tywyll.

Pan fydd testun yn cael ei ddewis, gall fod o ymddangosiad cyferbyniad isel, yn dibynnu ar gyd-destun/lliw cefndir, ac felly’n methu â bodloni gwiriadau cyferbyniad hygyrchedd AA. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar liwiau cefndir tywyll.

Gall rhai penawdau lefel is fod allan o drefn semantig, yn dibynnu ar gynnwys/cyd-destun y dudalen. I’r ymwelwyr hynny sy’n defnyddio technolegau cynorthwyol, gall hyn greu problemau gyda llywio cynnwys.

Pan gaiff testun ei ehangu i raddfeydd mwy, gall testun orgyffwrdd yn weledol, yn dibynnu ar gynnwys/cyd-destun y dudalen.

Mae gan y testun yn ein logo (a logos awdurdodau lleol) destun sy’n llai na’r canllawiau a argymhellir, ac mae’n cynnwys testun cyferbyniad isel yn dibynnu ar liw cefndir.

Baich anghymesur

Llywio a chyrchu gwybodaeth

Nid yw’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun y tu hwnt i 150% heb fod rhywfaint o gynnwys cyfyngedig yn gorgyffwrdd.  Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir newid y testun i tua 250% heb broblemau, er yn dibynnu ar faint y sgrin efallai y bydd rhai problemau posibl gyda’r prif lywio.

Rydym wedi asesu’r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a chael mynediad at wybodaeth.  Credwn y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.  Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fyddwn yn adolygu ac yn gwella’r safle yn y dyfodol.

Cynnwys nad yw yng nghwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Gwasanaethau mapio trydydd parti

Rydym yn defnyddio Google Maps fel darparwr gwasanaeth mapio trydydd parti. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth hwn wedi’i eithrio o’r rheoliadau hygyrchedd

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Gorffennaf 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 15 Mehefin 2022. Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 15 Mehefin 2022. Cynhaliwyd y prawf gan Illustrate Digital.

Defnyddiwyd y dull canlynol i benderfynu ar ba dudalennau i’w profi:

  • Fe wnaethom nodi’r prif gydrannau rhyngwyneb defnyddiwr a phrofi’r tudalennau canlynol:
    • Hafan
    • Tudalen cynnwys mewnol
    • Archif testun post wedi’i addasu
    • Tudalen destun post wedi’i haddasu
  • Defnyddiwyd y gweithdrefnau a’r offer profi canlynol:
    • Estyniadau porwr amrywiol i brofi hygyrchedd, gan gynnwys AXE a WAVE
    • Profi llywio bysellfwrdd â llaw
    • Adolygiad cod â llaw gan ddatblygwyr gwefannau