dod yn ofalwr maeth
budd-daliadau a chymorth ariannol
sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
Rydyn ni yma i’ch cefnogi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.
Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.
Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:
- arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
- tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
- cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
- cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
- a llawer mwy o fuddion.
mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

lwfans gofal maeth
ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys
- nifer y plant rydych chi’n eu maethu
- oedran y plant
- a ydych chi’n byw yng Nghymru
- ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.
Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.
I gael rhagor o atebion i’ch cwestiynau am dâl gofalwyr maeth, edrychwch ar ein blog: y canllaw gorau i dâl gofalwyr maeth
Yn Maethu Cymru rydyn ni’n poeni am blant sy’n derbyn popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 2 ran: y lwfans plant wythnosol a ffi’r gofalwr.
lwfans plentyn
ffi gofalwr maeth
taliadau ychwanegol
sut rydyn ni’n siarad am arian
Fel sefydliad, dydyn ni ddim yn gwneud elw o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Dydyn ni erioed wedi gwneud hynny, a fyddwn ni byth yn gwneud hynny. Mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn cefnogi’n uniongyrchol y plant yn ein gofal a’r gofalwyr maeth sy’n gofalu amdanyn nhw. Rydyn ni hefyd yn cynnal trafodaethau uniongyrchol â Llywodraeth Cymru ar ran ein cymuned ynglŷn â chymorth ariannol i ofalwyr maeth.
taliadau a buddion eraill
Y tu hwnt i roi cartref diogel a chariadus i blentyn, mae llu o fuddion eraill ar gyfer maethu yng Nghymru gyda ni, gan gynnwys:
Gostyngiadau – Mae gofalwyr maeth yn gallu gwneud cais am Gerdyn Golau Glas sy’n rhoi cynilion ar-lein a gostyngiadau ar y stryd fawr gyda miloedd o fanwerthwyr.
Aelodaeth o Cadw – Byddwch yn cael aelodaeth am ddim o Cadw sy’n rhoi mynediad am ddim i’r teulu cyfan i leoliadau hanesyddol a pharciau gwledig ledled Cymru.
Aelodaeth o New Family Social – I unrhyw un sy’n chwilio am gymorth LHDTC+ penodol, byddwch yn cael aelodaeth o New Family Social ar gyfer digwyddiadau, cymorth cymheiriaid, a chymuned ar-lein brysur
Aelodaeth o AFKA Cymru – Pan fyddwch yn ymuno â Maethu Cymru, byddwch yn cael aelodaeth o’r Gymdeithas Maethu, Perthnasau a Mabwysiadu (AFKA)) Cymru. Mae’r aelodaeth hon yn cynnwys gweithdai, hyfforddiant, fforymau a mwy.
Aelodaeth o The Fostering Network – Byddwch hefyd yn cael aelodaeth i fanteisio ar linellau cymorth annibynnol, hyfforddiant treth a chyngor cyfreithiol The Fostering Network, yn ogystal â’i gymuned ar-lein ei hun a gostyngiadau.
Cynigion lleol ychwanegol – Y tu hwnt i’r taliad maethu arferol a’r buddion cenedlaethol hyn, mae llawer o awdurdodau lleol yn darparu buddion ychwanegol. Er enghraifft, tocynnau canolfannau hamdden lleol, trwyddedau parcio a gostyngiadau’r dreth gyngor.
Siaradwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth am y buddion penodol yn eich ardal.
pam ein dewis ni?
Mae mwy o fanteision i faethu gyda’ch awdurdod lleol: mynediad i wybodaeth ac adnoddau lleol, cyfleustra tîm ymroddedig gerllaw, cymuned leol o ofalwyr maeth, a helpu plant lleol i aros yn lleol. Darllenwch fwy am pam ein dewis ni.
Dal ddim yn siŵr a yw maethu gyda ni yn iawn i chi a’ch teulu? Yna darllenwch ein blog: 10 rheswm i faethu gyda’ch awdurdod lleol