mathau o faethu

rhiant a phlentyn

beth yw maethu rhiant a phlentyn?

Mae maethu rhiant a phlentyn yn cynnwys maethu babanod ochr yn ochr â’u rhieni, gan groesawu’r ddau yn eich cartref.

Trwy’r math hwn o faethu, rydych chi’n helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, wrth dysgu sgiliau newydd i rieni mewn gofal maeth, cynnig clust i wrando a meithrin eu perthynas â’u plant.

Nod y math arbenigol hwn o faethu yw i chi ofalu am rieni sydd wir angen cymorth, fel y gallant ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.

dad and baby

pwy all gael ei faethu?

Weithiau gelwir maethu rhieni a phlant yn ‘lleoliad maeth mam a babi’ oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen y rhain ar gyfer mamau ifanc sydd ar fin neu newydd roi genedigaeth.

Ond nid yw hyn bob amser yn wir.

Gallai maethu rhiant a phlentyn olygu darparu lle diogel i dad a’i fabi, mam hŷn neu blentyn bach neu weithiau i’r ddau riant gyda’i gilydd, gyda’u plentyn.

beth a ddisgwylir?

Gyda chymorth yr Awdurdod Lleol, byddwch yn meithrin y genhedlaeth nesaf fel y gallant wneud yr un peth.

Bydd disgwyl i ofalwr maeth rhiant a phlentyn:

  • Addysgu sgiliau magu plant fel bwydo, ymolchi ac arferion amser gwely
  • Annog rhieni i roi sylw cadarnhaol a chynhesrwydd emosiynol a chwarae gyda’r plant
  • Dangos ffyrdd i rieni gael perthynas gadarnhaol gyda’u plant
  • Rhoi esiampl o rianta da fel y gall rhieni ddysgu beth sydd ei angen ar eu babanod a sut i ymateb yn effeithiol
  • Cefnogi rhieni, a allai fod wedi cael plentyndod anodd eu hunain neu sydd wedi profi trais domestig, i wella eu hunan-barch, eu hyder a’u dewisiadau
  • Addysgu sgiliau cartref fel cyllidebu a pharatoi prydau bwyd
  • Darparu amgylchedd cartref diogel ac anogol i rieni ddatblygu eu sgiliau magu plant
  • Arsylwi’r rhyngweithio dyddiol a’r cynnydd rhwng y rhiant a’r plentyn a chadw cofnodion manwl ar gyfer yr asesiad. Goruchwyliwch, ond peidiwch â beirniadu.
  • Mynychu cyfarfodydd gyda gweithwyr cymdeithasol a staff cymorth eraill
  • Cyfrannu at benderfyniadau a wneir ynghylch yr hyn sy’n digwydd nesaf
baby

beth sydd ei angen arnoch i faethu plentyn a rhiant gyda'i gilydd?

Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae angen rhiant maeth gwahanol arnynt hefyd. Yn Maethu Cymru, rydym yn dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth.

Fodd bynnag, er mwyn maethu mam a babi, bydd angen i chi fod yn hyderus a bod yn brofiadol gyda phlant ifanc. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod â phlant biolegol eich hun, ond mae’n rhaid eich bod yn gallu gofalu am fabi ar eich pen eich hun ac addysgu rhywun arall i wneud hynny. Bydd angen i chi fod yn bresennol drwy’r amser.

mother and baby

Fel y rhan fwyaf o faethu, rhaid i chi gael ystafell sbâr gartref. Dylai hyn fod yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y rhiant a’r plentyn gan gynnwys gwely, cot, a dodrefn arall fel bwrdd newid.

Darllenwch fwy:  Pwy all faethu yng Nghymru?

mother and baby in doctors surgery

pa mor hir mae lleoliadau maeth rhiant a phlentyn yn parhau?

Fel arfer, bydd rhiant a phlentyn yn aros gyda chi am 12 wythnos, tra bod asesiad yn cael ei gwblhau ar eu gallu i fagu plant. Er y gellir ymestyn hyn os oes angen ychydig mwy o amser a chefnogaeth ar y rhiant.

Gall lleoliad maethu mam a babi barhau’n hirach os yw’r fam yn ymuno â chi cyn iddi roi genedigaeth.

Gallai canlyniad llwyddiannus fod i’r rhiant a’r plentyn symud i mewn gyda’r teulu, i fathau eraill o fyw â chymorth, neu fyw’n annibynnol, wedi’u paratoi’n dda ar gyfer eu rôl fel mam neu dad.

Toddler baby and family

a oes lwfansau maethu mam a babi?

Cefnogi rhiant a babi newydd mewn angen yw’r prif reswm pam mae llawer o bobl yn dewis dod yn ofalwr maeth rhiant a phlentyn, ond bydd arian yn eich helpu i ddarparu’r diogelwch a’r arweiniad hwn. Felly, rhoddir lwfans i bob gofalwr am bob person yn eu gofal ochr yn ochr â’u lwfansau maethu a budd-daliadau eraill y gallai’r awdurdod lleol eu cynnig.

Darllenwch fwy:  A fyddaf yn cael fy nhalu fel gofalwr maeth?

mother and baby

pa hyfforddiant maethu i rieni a phlant sydd ar gael?

Mae maethu gydag oedolyn arall yn eich cartref ynghyd â’u plentyn eu hunain yn dod â’i heriau unigryw.

Mae cefnogi rhiant gyda’u cryfderau a’u gwendidau unigol, ynghyd â chynnal cyfathrebu proffesiynol a rhoi sgiliau asesu rhianta ar waith, yn fater o gydbwyso.

Mae gofalu am fabi neu blentyn bach hefyd yn gofyn am wybodaeth gyfredol o arferion gorau wrth ofalu am fabanod ac ymddygiadau ymlyniad model.

Yn ogystal ag archwilio’r rolau a’r cyfrifoldebau’n fanwl, mae hyfforddiant maethu i rieni a phlant sy’n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol yn cynnig pynciau megis beichiogrwydd iach, hyrwyddo ymlyniad ac ymatebion trawma.

parent and child smiling

Byddwn yn eich cynorthwyo ar bob cam o’r daith, wrth gwrs. Gyda thîm ymroddedig o’ch cwmpas, bydd cynllunio gofalus ac arweiniad ar waith hyd yn oed cyn i riant a phlentyn symud i mewn, gan amlinellu’r holl ddisgwyliadau a rhoi cyfle i’r rhiant ymweld â’ch cartref a dod i’ch adnabod.

Bydd cymorth parhaus trwy gydol y 12 wythnos, yn ogystal â chyfleoedd i fynychu gwasanaethau cynenedigol neu fabanod yn y gymuned gyda’r rhiant.

Pan fo hyn yn cael ei wneud yn dda, mae’r hyfforddiant a’r cymorth sy‘n cael eu darparu’n galluogi’r maes maethu cymhleth ac arbenigol hwn i arwain at ganlyniadau da.

mother and baby

Rydw i’n gwylio ydi’r rhiant yn ymateb i anghenion y plentyn; ydyn nhw’n cael eu bwydo a’u newid? Hefyd oes yna deimladau annwyl gyda’r babi, oes yna gariad?”

Gofalwr Maeth, Maethu Cymru Sir y Fflint