Boy on beach at aberavon looking out to swansea bay

maethu yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe

Wrth ddod yn ofalwr maeth, rydych chi’n penderfynu helpu plant lleol a rhoi cartref sefydlog, llawn cariad iddynt.

Os ydych chi wedi bod yn ystyried maethu ers amser, neu os ydych chi’n newydd i’r syniad, mae eich timau maethu awdurdod lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe yma i’ch helpu i arwain a’ch cefnogi ar eich taith faethu.

Cliciwch ar eich awdurdod lleol isod i lenwi ein ffurflen gyswllt, a byddwn yn cysylltu â chi i drafod y cyfan.

Dwi'n cofio'r pethau es i drwyddyn nhw yn fy arddegau. Erbyn hyn dwi'n gweld fy hun yn bont dros ddyfroedd cythryblus, yn helpu plant o gyfnod yn eu bywyd lle mae 'na dristwch, dagrau ac amseroedd anodd. Fi yw'r person sy'n eu tywys dros y bont i lle mae 'na ddyfodol gwell iddyn nhw.

Annie, Gofalwr Maeth

eich timau maethu awdurdod lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe