croeso mawr i bob plentyn maeth yng Nghymru

Mae pob plentyn maeth sy’n mynd i gartref teulu maeth newydd yn haeddu croeso cynnes, personol.  Dyma lle mae’r porth maethu Big Welcome yn helpu – mae’n rhoi cyfle i blant a gofalwyr maeth ddechrau eu taith gyda’i gilydd yn y ffordd mwyaf cadarnhaol posibl.

beth yw big welcome?

Crëwyd Big Welcome fel ffordd i deuluoedd maeth gyflwyno eu hunain i blentyn newydd cyn iddo ymuno â’r aelwyd. Trwy broffil maeth rhyngweithiol, gallant rannu gwybodaeth – a lluniau – o aelodau o’r teulu, anifeiliaid anwes, y cartref ei hun, a hyd yn oed yr ardal leol.

Gyda chymorth y porth gofal maeth Big Welcome bydd plant a phobl ifanc yn gallu edrych trwy broffil gofalwyr maeth cyn iddynt gwrdd â nhw. Mae’r adnodd syml ond pwerus hwn yn troi ansicrwydd yn gyffro.

Mae Big Welcome yn rhan o’n hymrwymiad i wneud maethu gydag awdurdod lleol mor gefnogol a phersonol â phosibl gan ganolbwyntio ar y plentyn.

pam bod yr adnodd maethu big welcome yn gwneud gwahaniaeth

P’un ai dyma eu tro cyntaf gyda theulu maeth, neu’r cam nesaf ar eu taith, mae cyrraedd cartref maeth newydd yn teimlo fel cam mawr i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Dyluniwyd y porth maethu Big Welcome i hwyluso’r pontio trwy gyflwyno proffil gofalwr maeth rhyngweithiol iddynt cyn iddynt gyrraedd.

Dywedodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru: “Fel y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau maethu awdurdodau lleol di-elw, mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc sydd angen gofal.

“Dywedodd ein plant wrthym ni eu bod eisiau mwy o wybodaeth am ble roeddent yn mynd i fyw. Roeddent eisiau gwybod sut olwg fyddai ar eu hystafell wely, beth oedd anifail anwes y teulu a’r hyn mae’r gofalwyr maeth yn hoffi ei wneud yn eu hamser sbâr.

“Rydym eisoes wedi clywed gan ein gweithwyr cymdeithasol am y gwahaniaeth enfawr y mae hyn yn ei wneud. Mae’r Big Welcome yn darparu’r sicrwydd a’r cysylltiad sydd eu hangen i gychwyn perthynas yn y ffordd orau posibl.”

Child's bedroom image

big welcome: gofal maeth, gyda phlant wrth ei wraidd

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth rhwng yr elusen Action For Children a’r asiantaeth arloesi cymdeithasol Super Being Labs, cynlluniwyd y Big Welcome trwy gyfres o weithdai a chyfweliadau 1:1 gyda 120 o bobl ifanc profiadol mewn gofal a dros 75 o ofalwyr maeth. Gofynnodd yr ymchwil sut y gallai gofalwr maeth wneud i blentyn deimlo’n gartrefol a beth oedd yn gwneud i berson ifanc deimlo’n bryderus. Aeth y dylunwyr i’r afael ag anghenion a nodwyd gan gynnwys medru sicrhau y gallai plentyn weld sut olwg fyddai ar ei ystafell wely. Mae’n rhoi cyfle i blant ddechrau adeiladu cysylltiad a allai newid eu bywyd.

 

“dyma’n union beth rydyn ni wedi bod yn gofyn amdano. Byddai wedi bod yn dda cael hyn pan oeddwn i’n tyfu i fyny mewn gofal” Voices From Care Cymru

Ysbrydolwyd cydweithrediad Big Welcome Maethu Cymru gan yr awydd hwnnw i wneud rhywbeth yn benodol i’r plant, mewn ffordd sy’n anrhydeddu eu taith ac yn rhoi ymdeimlad cryfach o berthyn iddynt o ddechrau’r broses.

straeon gan deuluoedd maeth

Mae gofalwyr maeth ledled Cymru eisoes yn cymryd rhan ac yn creu eu proffil maeth rhyngweithiol.

Aeth Amy Davies i ofal maeth am y tro cyntaf yn 11 oed cyn byw gyda’i nain o 16 oed ymlaen. Yna, dechreuodd Amy ar ei thaith ei hun fel gofalwr maeth trwy ofalu am ei chwaer iau fel gofalwr sy’n berthynas pan oedd ond yn 21 oed. Mae hi bellach wedi bod yn maethu ers 23 mlynedd, yn gofalu am blant hŷn yn bennaf gyda’i gŵr Gavin.

Dywedodd Amy y bydd y Big Welcome yn helpu plant i deimlo’n fwy cyfforddus cyn cwrdd â gofalwr ac unrhyw frodyr a chwiorydd maeth newydd.

“pan oeddwn i’n iau ac yn mynd i ofal maeth, pe bawn i wedi gallu gweld pwy roeddwn i ar fin cwrdd, byddai wedi gwneud i fi deimlo’n llai pryderus. Fel arfer, roeddwn i’n eithaf pryderus ynglŷn â phwy oedden nhw neu sut bobl fydden nhw, ond mae gweld proffil yn helpu i gael gwared ar ychydig o’r ofn yna.”

beth am weld beth mae Amy, Gav, a'u teulu gwych yn ei gyfrannu?

Mae eu stori yn un o lawer sy’n dangos sut mae’r platfform maethu Big Welcome yn helpu plant maeth i fagu hyder a dod yn gyfarwydd â’u gofalwyr newydd a’u hamgylchoedd, gan adeiladu ymddiriedaeth a pherthnasoedd cadarnhaol o’r diwrnod cyntaf.

sut i gymryd rhan ym menter big welcome Maethu Cymru

Diolch i’r porth gofal maeth Big Welcome gall plant sy’n mynd i ofal maeth ddod i adnabod y cartref maen nhw’n mynd iddo cyn iddynt gyrraedd.  Mae’n helpu i setlo unrhyw nerfau ac yn gwneud eu taith faethu ychydig yn haws.

Dewch yn rhan o’r fenter maethu Big Welcome – dod o hyd i’ch awdurdod lleol a chymryd y cam cyntaf heddiw.