canllaw i blant a phobl ifanc

cwestiynau cyffredin

cwestiynau?

Gallwn ateb dy gwestiynau

pethau a ofynnir yn aml

beth yw adolygiad PDG?

Cyfarfod i ti gael dweud dy ddweud yw hwn. Byddi di a dy weithiwr cymdeithasol yn cwrdd â’r Swyddog Adolygu Annibynnol. Byddwch chi’n trafod dy sefyllfa bresennol ac unrhyw gynlluniau. Byddi di’n cael dy adolygiad PDG cyntaf yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl i ti ddechrau derbyn gofal. Byddwch chi’n cwrdd eto ar ôl 3 mis. Yna bob 6 mis.

Gwrando ar yr ateb:

gyda phwy ydw i’n cysylltu mewn argyfwng?

Yn ystod y dydd (9am-5pm), gelli di ffonio dy weithiwr cymdeithasol ar [Rhif].

Yn gynnar yn y bore neu’n hwyr yn y nos, gelli di ffonio’r gwasanaethau cymdeithasol ar [Rhif].

Gelli di hefyd ffonio dy ofalwr maeth neu weithiwr preswyl.

Mae llinellau cymorth ar y dudalen hafan os wyt ti am siarad.

pwy sy'n penderfynu beth allaf a beth na allaf ei wneud

Bydd dy ofalwr maeth yn gwneud rhai penderfyniadau am fywyd bob dydd yn y cartref – fel amseroedd gwely, amseroedd bwyd a rheolau’r tŷ.  Gyda phenderfyniadau eraill byddant yn eu trafod gyda dy weithiwr cymdeithasol a dy deulu. Bydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd i benderfynu beth sy’n ddiogel a beth sydd orau i ti.  Byddant yn gwrando ar dy safbwyntiau.

Gwrando ar yr ateb:

a fydd yn rhaid i mi newid ysgol?

Byddwn yn ceisio gwneud yn siŵr y galli di aros yn dy ysgol dy hun, os dyma yw dy ddymuniad, fel y galli di weld dy ffrindiau a pharhau â’r gweithgareddau rwyt ti’n eu mwynhau. Weithiau nid yw hyn yn bosibl a bydd dy ofalwr maeth, gweithiwr cymdeithasol ac athrawon yn dy helpu i ymgartrefu mewn ysgol newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Gwrando ar yr ateb:

a fyddaf yn gweld fy nheulu a'm ffrindiau?

Edrychir ar sefyllfa pob plentyn a pherson ifanc yn unigol.  Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn gallu esbonio pa drefniadau sydd wedi’u gwneud ar dy gyfer.  Mae llawer o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn cadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u ffrindiau.  Dy weithiwr cymdeithasol yw’r un sy’n cytuno ar unrhyw ymweliadau ac yn eu cynllunio.  Siarad â dy weithiwr cymdeithasol a dy ofalwr maeth am bobl rwyt ti eisiau eu gweld a siarad â nhw. Dyweda wrthynt hefyd os oes rhai pobl nad wyt ti eisiau eu gweld, a dyweda pam. Galli di drafod hyn gyda dy ofalwyr maeth, gweithiwr cymdeithasol neu eiriolwr ar unrhyw adeg, os wyt am siarad â dy deulu fwy neu lai aml.

Gwrando ar yr ateb:

beth sy'n digwydd os nad ydw i'n hapus gyda'r teulu maeth?

Os wyt ti wedi byw gyda dy deulu maeth am gyfnod ac nad wyt ti’n hapus yn byw yno, rho wybod i dy weithiwr cymdeithasol neu’r Swyddog Adolygu Annibynnol. Gall fod yn amser anodd iawn gadael dy deulu di dy hun, symud i dŷ newydd, efallai newid ysgol a cholli dy ffrindiau.  Bydd siarad â dy weithiwr cymdeithasol yn dy helpu i sortio dy deimladau.

Gwrando ar yr ateb:

beth yw cynhadledd amddiffyn plant?

Swydd gweithiwr cymdeithasol yw cadw plant yn ddiogel.

Felly os oes pryder difrifol bydd gofyn i bawb sy’n nabod y plentyn fynd i gynhadledd (cyfarfod) amddiffyn plant a phenderfynu beth ellir ei wneud i helpu’r plentyn; yr enw am hyn yw cynllun amddiffyn plant.

Efallai y galli di fynd i’r cyfarfod hwn a galli di siarad â dy weithiwr cymdeithasol amdano.

Weithiau mae oedolion neu bobl ifanc eraill yn brifo plant trwy eu niweidio mewn ffordd gorfforol neu emosiynol ac nid yw hyn yn iawn. Mae brifo plentyn yn anghywir ac mae amddiffyn plant yn ymwneud â stopio plentyn rhag cael ei frifo. Mae’r gyfraith yn nodi bod brifo plant yn anghywir.

Gwrando ar yr ateb:

beth yw cynllun gofal a chymorth?

Mae dy gynllun gofal yn ddogfen ysgrifenedig bwysig.  Mae’n esbonio sut y dylet gael dy ofalu amdanat ac yn disgrifio dy hoff bethau, casbethau a chynlluniau i’r dyfodol. Mae’r cynllun gofal yn ddogfen gyfreithiol ac yn gwneud yn siŵr dy fod di’n cael popeth sydd ei angen arnat i fyw bywyd hapus ac iach mewn gofal.  Mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda ti.  Mae cael cynllun gofal yn hawl gyfreithiol, felly galli di ofyn cwestiynau i dy weithiwr cymdeithasol amdano.

Gwrando ar yr ateb:

beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn 18 oed?

Os hoffet barhau i fyw gyda dy ofalwyr maeth ar ôl i ti droi’n 18 oed, galli di drafod yr opsiwn hwn gyda nhw. Mae’n rhaid dy fod di wedi bod mewn gofal am ddigon hir i fod yn gymwys i adael y gwasanaethau gofal. Os byddan nhw’n cytuno hefyd, yna gellir gwneud Trefniant Pan Fydda i’n Barod rhyngddot ti fel oedolyn a dy gyn-ofalwyr maeth.  Bydd hyn yn cael ei drafod gyda ti mewn da bryd cyn dy ben-blwydd yn 18 oed, fel y gellir ei gynllunio.  Os wyt ti’n bwriadu mynd i’r brifysgol, gallwn edrych ar ba drefniadau fyddai orau i ti, gan gynnwys lle gallet ti fyw yn ystod gwyliau.

Bydd gennyt dy incwm annibynnol dy hun fel oedolyn tra byddi di mewn Trefniant Pan Fydda i’n Barod naill ai oherwydd dy fod:

  • Yn gyflogedig
  • Yn y Brifysgol
  • Yn hawlio budd-daliadau (y galli di ei wneud os wyt ti’n fyfyriwr Blwyddyn 12 neu 13 yn yr ysgol neu mewn Addysg Bellach)
  • Yn cael dy gefnogi’n ariannol gan y gwasanaethau cymdeithasol gan nad oes gennyt hawl i hawlio budd-daliadau.

Ni fydd dy ofalwr maeth yn dy gefnogi’n ariannol mwyach ond gall barhau i dy gefnogi mewn ffyrdd eraill tra dy fod yn byw yn y cartref teuluol. Galli di aros yn rhan o Drefniant Pan Fydda i’n Barod naill ai nes dy fod yn 21 oed neu hyd at 25 oed (os wyt ti mewn addysg lawn-amser).

Dyma rai pethau mae pobl ifanc wedi eu dweud am fod yn rhan o Drefniadau Pan Fydda i’n Barod:

“Rwy’n hoffi’r rhyddid i fynd i weld fy ffrindiau a chael aros drosodd gyda fy ffrindiau yn amlach ac rwy’n dal i gael aros gyda fy ngofalwyr sy’n dda iawn gyda fi. Mae byw gyda fy ngofalwyr wedi caniatáu i mi barhau i weithio’n rhan-amser a pharhau i dreulio amser gyda fy ffrindiau.  Os oes angen unrhyw beth arna i, gall fy ngofalwyr fy helpu”

“Dydw i ddim yn meddwl y bydden i wedi mynd i’r Brifysgol ac wedi gwneud fy nghwrs gwaith cymdeithasol ôl-raddedig heb y gefnogaeth ariannol ychwanegol y mae’r gwasanaethau cymdeithasol wedi’i rhoi i mi”

Gwrando ar yr ateb:

sut ydw i'n cael mynediad at fy nghofnodion?

Galli di gael mynediad at dy gofnodion gofal ar ôl i ti droi’n 18 oed.  Bydd angen i ti gysylltu â’r awdurdod lleol lle roeddet ti’n byw pan ddes ti i ofal am y tro cyntaf.  Byddant yn dy gefnogi i ddarllen a chael mynediad i dy ffeiliau.

Gwrando ar yr ateb:

beth yw ymholiad amddiffyn plant?

Gallai rhywun fod yn poeni am blentyn – athro, meddyg, cymydog, aelod o’r teulu neu weithiwr cymdeithasol er enghraifft. Yna mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol wirio bod y plentyn yn ddiogel.

Gwrando ar yr ateb:

beth yw niwed i blant?

Niwed corfforol

Dyma pryd mae plentyn yn cael ei frifo mewn rhyw ffordd – cael ei fwrw, ei bwnio, ei gicio ac ati.

Niwed emosiynol

Dyma pryd mae rhiant neu ofalwr yn ymddwyn mewn ffordd sy’n debygol o effeithio’n ddifrifol ar emosiynau plentyn, nawr neu yn y dyfodol. Gall amrywio o lawer o wrthod a diffyg anwyldeb i godi twrw. Gall gweld trais yn y cartref hefyd fod yn fath o niwed emosiynol.

Esgeulustod

Dyma pryd nad yw plentyn yn cael y gofal cywir sydd ei angen arno dros lawer o ddiwrnodau.  Mae hyn yn cynnwys peidio â chael ei garu, cael ei gadw’n ddiogel, cael bwyd a diod, cael ei gadw’n gynnes, mynd i’r ysgol yn rheolaidd, gweld y meddyg neu fynd ag ef i’r ysbyty os oes angen, cael ei gefnogi i chwarae, cael gweithgareddau i’w gwneud.

Niwed rhywiol

Dyma pryd y caiff plentyn neu berson ifanc ei orfodi neu ei dwyllo i gymryd rhan mewn unrhyw fath o weithredoedd rhywiol gydag oedolyn neu berson ifanc. Gall hyn gynnwys cusanu, cyffwrdd â rhannau preifat y person ifanc (y rhannau sy’n cael eu gorchuddio gan eich gwisg nofio) neu ofyn iddynt gyffwrdd â rhannau preifat yr oedolyn. Mae hefyd yn niwed rhywiol os caiff plant neu bobl ifanc eu gwneud i wylio oedolion yn cael rhyw yn eu cartref neu yn yr awyr agored, ar y teledu, neu mewn lluniau mewn cylchgrawn.

Caniateir cyffyrddiadau neu gofleidio annwyl, ond dim ond os wyt ti’n gyfforddus gyda hyn.

 

Gwrando ar yr ateb:

beth yw adolygiad CAP?

Mae CAP yn sefyll am Cynllun Addysg Personol. Cynllun yw hwn ar gyfer dy anghenion a’r ffordd orau i dy gefnogi di yn yr ysgol. Mae adolygiad CAP yn gyfarfod gyda ti, dy ofalwr maeth, dy weithiwr cymdeithasol a dy athro/athrawes.

Gwrando ar yr ateb: