eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth ac i fod yn ofalwr maeth.
Efallai eich bod eisoes yn maethu gydag awdurdod lleol yn ein rhwydwaith Maethu Cymru, yn ystyried symud i Gymru neu’n maethu gydag asiantaeth faethu annibynnol.
Dysgwch beth sydd gan Maethu Cymru i’w gynnig i chi. Gyda maethu awdurdod lleol, rydym yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth, heb wneud elw.
manteision maethu'n uniongyrchol
Drwy faethu’n uniongyrchol â’ch awdurdod lleol, byddwch yn rhan o dîm sydd â gwybodaeth fanwl am daith y plentyn, gwasanaethau lleol ac ysgolion, sy’n bwysig iawn i ofalwyr maeth.
Bob blwyddyn mae tua 50 o ofalwyr maeth yn trosglwyddo o asiantaethau maethu masnachol i faethu awdurdod lleol yng Nghymru.
ffeithiau maethu yng Nghymru
Mewn 12 mis yn unig, roedd angen gofalwr maeth ar 1857 o blant yng Nghymru (2021-22).
Mewn 70% o’r adegau anodd hynny, gofalwyr maeth awdurdodau lleol wnaeth gamu i’r adwy i helpu. Ni yw’r lle cyntaf ar gyfer pob plentyn lleol sydd angen gofal maeth, plant o bob oed.
Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn lleol, sy’n golygu bod 84% o’n plant ni yn gallu aros yn eu hardal leol, ac aros yn eu hysgol leol.
sut i drosglwyddo i ni
Gall newid deimlo’n frawychus. Felly mae trosglwyddo i ni yn dechrau gyda sgwrs, dim pwysau. Dim ond darganfod, p’un a allwn ni gynnig yr hyn sydd gennych mewn golwg o ran maethu.
Gam wrth gam, nes eich bod chi’n hapus, rydych chi’n gwneud y dewis iawn.
“mae’r awdurdod lleol bob amser yno i chi.”
Dechreuodd Cath a Neil ar eu taith faethu gydag asiantaeth faethu annibynnol (IFA). Yn 2018, fe wnaethon nhw drosglwyddo i Faethu Cymru Wrecsam.
trosglwyddo heddiw
dewch o hyd i’ch awdurdod lleol:
Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.