Cymorth i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a gofalwyr maeth

maethu nid-er-elw ac aros yn lleol

Mae cymuned faethu Cymru yn tynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru gychwyn ar y broses o ddileu elw o’r system gofal plant.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU gyda chynlluniau i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.

Aros yn Lleol

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut fydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i gadw cysylltiad â’u siblingiaid, eu hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau, a’u hysgol.

Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc sydd â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sydd mewn gofal asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.

arhosodd 85 y cant o bobl ifanc sydd â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal”

Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sydd mewn gofal asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol,

pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal

Mae Em Hattersley, a oedd yn byw gyda gofalwyr maeth yn ystod ei harddegau, bellach yn gweithio i gefnogi pobl ifanc mewn gofal i archwilio llwybrau addysg.

Em

“Mae aros yn lleol wir yn cael effaith ar hunaniaeth person ifanc, felly mae medru aros yn yr un ysgol yn gallu bod yn hynod bositif,” meddai Em.

Wrth fyfyrio ar ble y dylid gwario arian, dywedodd Em:

“Baswn i’n dweud ar wella bywydau pobl ifanc a chryfhau’r berthynas rhwng gofalwyr maeth a phobl ifanc gyda phethau fel gweithgareddau a grwpiau cymorth.”

Sophia

Cafodd Sophia Warner, 29, ei rhoi mewn gofal maeth am y tro cyntaf yn ddwy oed ac roedd mewn gofal parhaol erbyn iddi droi’n wyth oed. Er ei bod yn dweud i’w blynyddoedd cynnar fod yn “chaotic”, yn ystod y cyfnod hwn darganfyddodd gariad tuag at gelf. Fel rhan o’r ymgyrch Aros yn Lleol, mae hi wedi cynhyrchu darlun sy’n symbol o’r effaith y mae’r system gofal maeth wedi’i chael arni hi a’i theulu.

Dywedodd Sophia y gall gofal maeth awdurdodau lleol helpu i gynnal perthynas rhwng siblingiaid, a dylai hyn fod yn flaenoriaeth yn ei barn hi.

“Mae yna fanteision i aros yn lleol,” meddai Sophia. “Gall cynnal cysylltiadau â’ch cymuned, eich ysgol a’ch amgylchedd cyfarwydd helpu i leddfu rhywfaint ar y newid hwnnw. Ond, wrth galon hyn, mae’n ymwneud â’r perthnasoedd a’r cysylltiadau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ffynnu, yn enwedig gyda’u brodyr a’u chwiorydd.

“Dylai cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd fod yn flaenoriaeth bob amser. Mae’n helpu pobl ifanc i deimlo’n llai unig, ac mae’n rhoi’r cymorth emosiynol sydd ei angen arnynt yn ystod cyfnod sydd mor anodd.”

gofalwyr maeth awdurdod lleol

Dechreuodd y gofalwyr maeth, Tim a Victoria, o Bontypridd, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2015. Fe benderfynon nhw drosglwyddo i Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn 2021 – cam a ddisgrifiwyd ganddynt fel “y penderfyniad gorau a wnaethon ni erioed”.

eisoes yn maethu?

Darllenwch fwy am fanteision maethu gyda’ch awdurdod lleol

gofalwyr maeth awdurdod lleol

Mae gofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent, Gwynedd a RhCT yn rhannu sut y gwnaeth trosglwyddo i'w hawdurdod lleol roi cymuned faethu leol bwysig iddynt ar garreg eu drws.

maethu nid-er-elw yng Nghymru

MS Dawn Bowden

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

“Rydym am drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru mewn ffordd radical, a bydd y Bil hwn yn ein galluogi i ddileu elw o ofal plant mewn cartrefi plant a gwasanaethau maethu.

“Rydym yn cydnabod y rôl allweddol y mae Maethu Cymru yn ei chwarae wrth gefnogi ein gweledigaeth, a byddwn yn parhau i gefnogi gwasanaethau gofal maeth awdurdodau lleol yng Nghymru i ddod yn fwy cynaliadwy.”

Man in suit jacket and lady in purple hoody in front of mural

Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope

“Mae maethu awdurdodau lleol yn sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei gadw o fewn llywodraeth leol i gefnogi canlyniadau gwell a gwasanaethau cynaliadwy i blant. Mae’n golygu y gall pobl ifanc aros o fewn eu cymunedau lleol ac yng Nghymru, sy’n hynod o bwysig.

“Rydym am i unrhyw un sy’n ystyried maethu wybod bod ein timau maethu lleol yn mynd y tu hwnt i sicrhau bod gofalwyr maeth a phobl ifanc yn derbyn cefnogaeth lawn. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu awdurdodau lleol, cysylltwch â’ch awdurdod lleol heddiw.”

dewch o hyd i’ch tîm maethu cymru lleol

Fel rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol ledled Cymru, byddwn wrth eich ochr ble bynnag yr ydych ac rydym yn wasanaeth nid-er-elw. Rhowch eich cod post i ddod o hyd i'ch tîm gofal maeth lleol.

Your nearest local authority is:

Please enter a postcode Sorry, we were unable to find a local authority near that postcode.