maethu tymor byr
Prif ffocws gofal maeth tymor byr yw darparu man diogel.
Fe’i gelwir yn ‘maethu tymor byr’ ond gall bara unrhyw beth o ddyddiau i fisoedd. Ni waeth am ba hyd y bydd y plant yn eich gofal, mae’r ffocws bob amser ar gynnig croeso cynnes, man diogel ac amgylchedd sefydlog a chariadus i blant yn ystod cyfnod ansicr yn eu bywydau.
Meddyliwch am faethu tymor byr fel carreg gamu. Mae plant sydd angen y math hwn o ofal mewn cyfnod pontio, gyda phenderfyniadau’n cael eu gwneud ynglŷn â sut olwg sydd ar eu dyfodol yn y tymor hir.

mathau o faethu tymor byr

gofal mewn argyfwng a maethu tymor byr
Weithiau gallai maethu tymor byr ddechrau gydag argyfwng. Mae hon yn sefyllfa lle gall plant ddod i ofal am y tro cyntaf, gan gyrraedd ar fyr rybudd. Yn aml, mae’r math hwn o sefyllfa hefyd yn cynnwys yr heddlu yn tynnu plant o amgylchedd cartref anniogel. Efallai mai chi fydd eu gofalwr maeth cyntaf.
Gall hwn fod yn amser anodd i blant a’ch rôl chi yw bod yno iddyn nhw. Mae gofal mewn argyfwng yn aml yn para ychydig ddyddiau, nos Wener i fore Llun fel arfer.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gweithwyr cymdeithasol yr awdurdod lleol yn nodi a oes unrhyw berthnasau ar gael i ofalu am y plant, neu a oes angen mwy o amser.
Gall gofal maeth mewn argyfwng wedyn ddatblygu’n faethu tymor byr, os gall plant aros mewn man diogel gyda chi tra bod cynllun yn cael ei lunio.
Lle bo’n bosibl, rydym yn anelu at ddychwelyd plant i’w teulu biolegol. Lle nad yw hynny’n bosibl, neu nad yw’n cael ei ystyried yr opsiwn gorau i’r plentyn, byddwch yn darparu bywyd cartref sefydlog i blant tra bod yr holl opsiynau yn cael eu harchwilio.

maethu tymor byr cyn mabwysiadu
Cyn symud ymlaen i fabwysiadu, mae’r rhan fwyaf o blant yn cael eu rhoi mewn gofal maeth tymor byr yn gyntaf. Mae maethu babanod a phlant cyn ysgol yn aml yn golygu gofalu am blentyn am hyd at flwyddyn neu fwy, cyn iddynt ddychwelyd i’w teulu neu symud i deulu mabwysiadol.

maethu tymor byr yn y tymor hir
Gall gofalwyr maeth tymor byr hefyd ddarparu trosglwyddiad hawdd i ofalwr maeth arall sy’n cynnig gofal tymor hwy. Neu, os ydych chi’n bâr da i’r plentyn, gallwch drafod cynnig gofal tymor hwy i’r plentyn eich hun.

maethu tymor byr ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau
Gall gofal tymor byr hefyd fod ar gyfer plentyn yn ei arddegau, a allai fod angen amgylchedd cartref cariadus am yr ychydig fisoedd neu flynyddoedd nesaf, nes eu bod yn 18 neu’n hŷn.
Mae ffoaduriaid ifanc yn aml yn cyrraedd y wlad hon yn 16 oed a hŷn, yn chwilio am le diogel am gyfnod byr.
gallwch chi helpu ffoadur ifanc
Efallai y bydd pobl ifanc sydd wedi bod yn byw mewn cartref plant preswyl hefyd yn cael y cyfle i brofi bywyd teuluol cyn trosglwyddo i fyw’n annibynnol.

gofal tymor byr yn ystod salwch rhiant
Ar gyfer teuluoedd bach, lle mai’r rhiant yw’r unig ofalwr, gellir cynnig gofal maeth tymor byr tra bod y rhiant yn derbyn triniaeth neu yn yr ysbyty.

mathau arbenigol eraill o ofal maeth tymor byr
Byddai maethu rhieni a phlant hefyd yn cael ei ystyried yn ofal maeth tymor byr, gan fod hyn fel arfer yn para tua 12 wythnos.
I bobl ifanc sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, mae maethu remand yn cynnig dewis arall diogel a meithringar yn hytrach na chael eu rhoi yn y ddalfa. Gallai bara ychydig ddyddiau neu gwpl o fisoedd, tra bod pobl ifanc sydd wedi cyflawni trosedd yn aros am ddedfryd.
pam mae maethu tymor byr mor bwysig?
Mae plant sydd angen gofal maeth tymor byr yn aml yn mynd trwy gyfnod anodd, a gall maethu fod yn rhwyd ddiogelwch iddynt, gan gynnig sefydlogrwydd a chysur.
a yw maethu tymor byr yn addas i chi?
Mae gofal maeth tymor byr yn fath o faethu sy’n addas iawn i bobl sydd eisiau helpu ac yn gwybod y gallant roi eu cariad a’u hymrwymiad llawn i blentyn am y blynyddoedd nesaf.
Nid yw tymor byr o reidrwydd yn golygu bod y berthynas â’r plentyn yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod maethu. Mae llawer o ofalwyr maeth tymor byr yn cadw mewn cysylltiad â’r plant maen nhw wedi gofalu amdanynt.
Darllenwch fwy: pwy all faethu?

pa gymorth gofal maeth tymor byr sydd ar gael?
Os penderfynwch gynnig gofal maeth tymor byr, ni fyddwch ar y daith ar eich pen eich hun. O ddechrau’r broses, byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth barhaus gan weithiwr cymdeithasol a’r gymuned faethu o’ch cwmpas. Ym Maethu Cymru, rydyn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.
tâl maethu tymor byr
Yn union fel unrhyw fath arall o faethu, mae cyfrifoldebau gofal maeth tymor byr yn dod â lwfans i’ch helpu i ofalu am y plant maeth yn eich gofal.
Darllenwch fwy: lwfans maethu a hyfforddiant
maethu tymor byr gyda maethu cymru
Teimlo’n barod i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i blentyn nes ei fod yn barod i drosglwyddo i’w ddyfodol? Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i drafod dod yn ofalwr maeth tymor byr.