pobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal

“Mae’r label arnom ein bod ni’n creu trwbwl,

Ond nid yw hynny’n deg o gwbwl.”

 

Cyn Fardd Plant Cymru, Connor Allen, yn partneru â Maethu Cymru i herio canfyddiadau o bobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal trwy furlun newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

O’r bron i 5,000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru, mae dros eu hanner yn 11 oed neu’n hŷn.

Er gwaethaf wynebu caledi sylweddol, canfyddiadau negyddol o’r gymdeithas ehangach sy’n eu brifo fwyaf.

Teenage girl with long hair walking, wearing a light blue jumper

Mae Molly* yn 14 oed ac mewn gofal maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr:

“Fel pobl ifanc mewn gofal, rydyn ni’n cael ein barnu cyn i bobl ddod i’n hadnabod ni, mae pobl yn meddwl ein bod ni’n creu helynt, yn cymryd cyffuriau ac yn beichiogi o dan oed. Nid yw hyn yn wir.

“Rydyn ni fel unrhyw un arall, dim ond gyda straeon bywyd gwahanol. Rydyn ni i gyd yn ddynol a gwneud camgymeriadau, y mae rhai ohonynt yn deillio o’r trawma rydyn ni wedi’i ddioddef.”

Mewn ymdrech i chwalu camsyniadau cyffredin, bu grŵp o bobl ifanc 11-16 oed o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael profiad o ofal maeth, yn cydweithio â chyn Fardd Plant Cymru, Connor Allen. Fe wnaethon nhw greu cerdd am eu profiadau bywyd i oleuo’r cyhoedd am realiti gofal maeth.

 

Connor Allen standing in front of a mural

Bwriad y gerdd hon, sydd i’w harddangos yn gyhoeddus ar Stryd Bracla ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yw ysbrydoli ystyriaeth o faethu plant hŷn 11+.

Mae gennym ni lais
Maethu a mabwysiadu, mae’n dipyn o frwydr,
Pobl yn gweld bai, ni o dan y chwyddwydr,
A llawer yn tybio nad yw ein rhieni’n ein caru,
Does dim syniad ‘da nhw beth yw ein stori.
Mae’r label arnom ein bod ni’n creu trwbwl,
Ond nid yw hynny’n deg o gwbwl,
Tu ôl i bob craith, mae yna hanes i’w hadrodd,
Ac mae rhannu teimladau’n eithriadol o anodd.
Clywch ein straeon, clywch ein hadlais,
Mae ein bywydau o bwys, mae gennym ni lais.

Fostering and adoption is not the same
You always think you are to blame
People think your parents don’t love you
But most people don’t have a clue
There’s a stereotype its just trouble we make
And that’s something that we all hate
There are stories behind our scars
Yet we hide our feelings in jars
So listen to our stories, Respect our choices
These are our lives, These are our voices

Rhannodd Molly, a gyd-ysgrifennodd y gerdd, ei phrofiad o fod yn berson sy’n derbyn gofal:

“Mae cael gofalwr maeth sy’n gweld trwy ganfyddiadau ffug ac yn cydnabod fy ngorffennol ond sy’n parhau i gefnogi ac yn fy annog i gymryd camau cadarnhaol ymlaen yn ddefnyddiol ar gyfer fy lles.”

Man and teenage boy in kitchen

Dywedodd Ben*, 13, fod ei ofalwr maeth wedi bod yn hanfodol i’w les:  

“Mae fy ngofalwr maeth yn fy helpu i deimlo’n ddiogel, maen nhw’n fy annog i roi cynnig ar chwaraeon neu hobïau newydd ond hefyd yn gofyn i mi wneud pethau o gwmpas y tŷ, fel rhoi’r llestri i gadw, sydd ddim bob amser yn hwyl ond yn gwneud i mi deimlo bod gen i lle yn eu cartref.”

 

Darllenwch stori Ben

Connor Allen

I Connor, a gafodd lencyndod heriol, mae’n deall effeithiau stereoteipiau negyddol ar bobl ifanc yn eu harddegau. Trwy’r prosiect hwn, mae’n anelu at rymuso pobl ifanc i fynegi eu profiadau unigryw trwy gelf a chreadigrwydd.

“Mae gan bawb stori, ac mae gan bawb lais ac rwy’n ffodus i fod yn gweithio ar brosiect mor bwysig gyda Maethu Cymru sy’n caniatáu i leisiau hollbwysig gael eu clywed a’u gweld. Rwy’n gobeithio eu bod yn falch o’u cerdd sy’n adlewyrchu eu gwir brofiadau.”

Dywed Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, fod llawer o fanteision i faethu person ifanc 11+ oed.

Man in suit jacket and lady in purple hoody in front of mural

“Pan fydd pobl yn meddwl am faethu, yn aml mae ganddyn nhw hoffter o blant iau, ond mewn rhai ffyrdd mae’n haws gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau, a dyna lle mae ein hangen mwyaf. Mewn sawl ffordd, mae pobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal yn haws na maethu plant iau. Mae ganddyn nhw fwy o ddealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau, ac yn gallu gwneud pethau ar eu pen eu hunain.

“Mae angen iddyn nhw gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a man lle gall eu lleisiau gael eu clywed, eu cefnogi, eu mentora, rhywun i sefyll wrth eu hymyl ac eiriol drostynt.”

“Mae’r bobl ifanc ar y trywydd iawn i fod yn oedolion, felly mae gofalwyr maeth yn mwynhau bod yn rhan o bethau gwerth chweil fel eu cael trwy eu harholiadau neu eu cefnogi i’r brifysgol, swydd, ac efallai hyd yn oed teulu eu hunain un diwrnod.

“Mae pob awdurdod lleol, fel Maethu Cymru, eisiau creu newid parhaol cadarnhaol lle mae pobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal yn cael eu gweld yn gadarnhaol, yn cael llais, ac yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi gan deuluoedd maeth i gyflawni eu gwir botensial.”

Voices from Care Cymru

Ychwanegodd Emma Phipps-Magill, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Voices From Care Cymru:

“Mae pobl yn cymryd yn ganiataol, er mwyn i berson ifanc fod mewn gofal, mae’n rhaid ei fod wedi gwneud rhywbeth drwg neu fod rhywbeth o’i le arno. Pan fyddwch chi’n meddwl o ble mae’r stigma’n dod, mae llawer o bethau ar y teledu ac yn y newyddion am bobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal yn llwm ac yn ddu heb ddathlu eu llwyddiannau.

“Mae pobl ifanc yn ceisio rhwygo’r labeli a roddwyd iddynt a chael eu cydnabod fel pobl ifanc yn eu harddegau. Gyda chymorth priodol, gallant ffynnu fel eu cyfoedion nad ydynt wedi cael profiad o ofal maeth. Mae’r prosiect hwn gyda Maethu Cymru yn hollbwysig o ran rhoi llais iddynt a mynd i’r afael â stereoteipiau negyddol.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, dewch o hyd i’ch tîm Maethu Cymru lleol yma!