canllaw i blant a phobl ifanc

A-Y

am beth maen nhw'n sôn?

Gallwn ddweud wrthyt beth mae'r cyfan yn ei olygu

geiriau a beth maen nhw'n ei olygu

adolygiad

Mae adolygiad fel cyfarfod arbennig i drafod ti yn unig! Mae’n gyfle i bobl sydd eisiau’r gorau i ti – fel dy weithiwr cymdeithasol, dy ofalwyr, ac weithiau dy deulu – ddod at ei gilydd i drafod sut mae pethau’n mynd. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr dy fod ti’n hapus, yn ddiogel, ac yn cael popeth sydd ei angen arnat.

Rydyn ni’n ystyried llawer o bethau, fel:

  • Bywyd cartref – Ydy dy gartref yn gyfforddus ac yn ddiogel?
  • Ysgol – Wyt ti’n dysgu’n dda ac yn mwynhau?
  • Teulu a ffrindiau – Wyt ti’n gweld y bobl sy’n bwysig i ti?
  • Gweithgareddau – Wyt ti’n cael hwyl ac yn gwneud pethau rwyt ti’n hoff ohonynt?
  • Iechyd – Sut mae dy gorff a dy deimladau? Wyt ti’n teimlo’n iawn ar y tu mewn a’r tu allan?
  • Cynlluniau ar gyfer y dyfodol – Oes angen i ni newid unrhyw beth i wneud pethau hyd yn oed yn well?

Rydyn ni hefyd yn gwirio a yw’r cynllun gofal – y cynllun mawr ar gyfer dy fywyd – yn dal i weithio i ti. Os oes angen newid rhywbeth, byddwn yn siarad amdano ac yn gwneud cynllun newydd gyda’n gilydd.

Gwrando ar yr ateb:

asesiad risg

Pan fydd cynllun i fynd i rywle neu wneud rhywbeth,  byddwn yn gwirio bod y bobl sydd gyda ti a’r gweithgaredd ei hun yn ddiogel. Mae’n ymwneud â meddwl am bopeth, cyn i ti fynd.

Gwrando ar yr ateb:

cyfoedion

Mae hwn yn golygu plant eraill tua’r un oedran neu sydd â hoffterau a diddordebau tebyg.

Gwrando ar yr ateb:

cynllun llwybr

Mae hwn yn gynllun pan fyddi di’n 16 oed ac yn cynllunio ar gyfer byw’n annibynnol.

Gwrando ar yr ateb:

cyswllt (neu mae'n well gennym Amser Teulu)

Ymweliadau â dy deulu geni, mam, tad, neiniau a theidiau, brodyr neu chwiorydd. Rydyn ni’n hoffi galw hyn yn ymweliadau neu amser teuluol.

Gwrando ar yr ateb:

CAMHS

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Gwrando ar yr ateb:

eiriolaeth

Rwyt ti’n gofyn am rywun sy’n gallu siarad drosot ti mewn cyfarfodydd

Gwrando ar yr ateb:

GGA

Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig.  Mae Gwarcheidwad Arbennig fel arfer yn aelod o’r teulu neu’n ofalwr maeth hirdymor sydd wedi gwneud cais i ofalu am y plentyn nes ei fod yn 18 oed ac mae’r plentyn yn byw gydag e’n barhaol.

Gwrando ar yr ateb:

gorchymyn gofal (ICO)

Os yw’r cyngor eisiau cymryd plentyn i ofal i’w gadw’n ddiogel, ni allant wneud hynny ar unwaith. Mae yna broses gyfreithiol y mae’n rhaid iddynt ei ddilyn. Mae dechrau’r broses gyfreithiol hon yn cael ei alw’n cychwyn ‘achos gofal’.

Y cam cyntaf yw gwneud cais am orchymyn gofal dros dro (ICO).

Gall y cyngor wneud cais am orchymyn gofal dros dro trwy fynd i’r llys teulu. Rhaid iddynt brofi bod y plentyn yn cael ei niweidio, neu mewn perygl o gael ei niweidio, ac y bydd ei roi mewn gofal yn atal hynny rhag digwydd.

Os yw’r barnwr yn cytuno, bydd y plentyn yn mynd i ofal y cyngor.

Gwrando ar yr ateb:

gorchymyn gofal (CO)

Y cam nesaf yw gwneud cais am orchymyn gofal (CO).

Os yw’r barnwr yn cytuno i’r gorchymyn gofal, bydd y plentyn yn aros yng ngofal y cyngor. Nid oes terfyn amser ar ba mor hir y gall gorchymyn gofal bara. Bydd y plentyn yn aros yng ngofal y cyngor nes:

y gall fynd yn ôl at ei rieni
bod gorchymyn arall yn cael ei wneud sy’n nodi â phwy ddylai fyw
bod y plentyn yn troi’n 18 oed

Tra bod gorchymyn gofal dros dro neu orchymyn gofal ar waith, mae’r rhieni yn rhannu cyfrifoldeb rhianta gyda’r cyngor. Ond gall y cyngor wneud penderfyniadau heb gynnwys y rhieni, os yw’n meddwl ei fod er budd gorau’r plentyn.

Gwrando ar yr ateb:

lles

Pan fydd pum angen sylfaenol person yn cael eu diwallu – cymdeithasol, corfforol, emosiynol, diwylliannol, dysgu.

Gwrando ar yr ateb:

lleoliad (neu lle rwyt ti'n byw gyda gofalwyr maeth)

Mae lleoliad yn cyfeirio at ble rwyt ti’n byw gyda gofalwyr maeth.

Gwrando ar yr ateb:

oedolyn dibynadwy

Rhywun dros 18 oed y mae gen ti ffydd ynddo i wrando arnat a dy gefnogi di yw hwn. Gall fod yn rhywun yn yr ysgol, rhywun sy’n gysylltiedig â chwaraeon neu hobïau, rhywun yn y gymdogaeth neu rywun sy’n gysylltiedig â gweithgareddau eraill. Rhywun y gelli droi ato, os wyt ti’n pryderu neu’n poeni.

Gwrando ar yr ateb:

person sy’n gadael gofal

Person ifanc sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol ac sydd bellach yn byw gyda’i deulu neu’n byw ar ei ben ei hun yw rhywun sy’n gadael gofal neu sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Dyma ychydig o’r jargon neu’r derminoleg y gallet ti ei chlywed:

Mae Person Perthnasol neu Gymwys sy’n Gadael Gofal yn cyfeirio at berson 16-17 oed sy’n gadael gofal ac sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos, gan gynnwys o leiaf un diwrnod ar ôl dy ben-blwydd yn 16 oed. Mae’n rhaid i dy gyngor lleol roi cymorth i ti.

Mae Cyn-Ymadawyr Gofal Perthnasol yn bobl 18-24 oed a oedd mewn gofal rhwng 14 a 16 oed (am o leiaf 13 wythnos). Rhaid i hyn gynnwys o leiaf un diwrnod ar ôl dy ben-blwydd yn 16 oed. Mae’n rhaid i dy gyngor lleol roi cymorth i ti.

Gwrando ar yr ateb:

pan fydda i’n barod

Mae hwn yn ymwneud ag aros mewn lle diogel pan fyddi di’n troi’n 18 oed. Gall olygu aros gyda dy ofalwr maeth presennol neu symud at ofalwr maeth arall a all dy gefnogi di ar ôl i ti droi’n 18 oed.

Gwrando ar yr ateb:

PDCLl

Mae PDCLl yn sefyll am Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches.

Mae hyn yn golygu ffoaduriaid ifanc sy’n dod i Gymru o Affganistan, Irac, Syria, a Swdan oherwydd gwrthdaro a thrais.

Bob blwyddyn, bydd mwy na 100 o ffoaduriaid ifanc yn dod i Gymru i geisio lloches a chefnogaeth.

Gwrando ar yr ateb:

brodyr / chwiorydd

Mae hyn yn golygu dy frodyr neu chwiorydd, a hanner brodyr a chwiorydd, os oes gennyt rai.

Gwrando ar yr ateb:

seibiant neu ysbaid

Dyma pryd y galli di fynd at ofalwr maeth arall am benwythnos neu am ymweliad byr – rydyn ni’n hoffi ei alw’n seibiannau byr.

Gwrando ar yr ateb: