Ein Polisi Sylwadau Cyfryngau Cymdeithasol (Maethu Cymru)

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd bostio sylwadau, lluniau a fideos ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond cofiwch bod eich cyfraniadau’n gyhoeddus ac ar gael i unrhyw un sy’n ymweld â’n cyfrifon. Ni ddylid rhannu ffotograffau o blant na phobl ifanc heb ganiatâd y rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant.

 

Mae sylwadau ac atebion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu barn y sawl sy’n eu cyflwyno, ac nid ydynt yn adlewyrchu Maethu Cymru.

 

Sylwer y bydd ymholiadau a wneir drwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu prosesu gan dîm maethu eich Awdurdod Lleol.

 

Mae unrhyw beth a gaiff ei roi ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, neu atebion i’n negeseuon hefyd yn ddarostyngedig i bolisïau’r darparwr e.e. Facebook, Twitter, Instagram, You Tube.

 

Er mwyn diogelu eich preifatrwydd, a phreifatrwydd pobl eraill, peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol na chyfrinachol yn eich sylwadau neu’ch ymatebion – oni bai ein bod yn gofyn am y rhain yn uniongyrchol drwy negeseuon preifat neu uniongyrchol. Ni allwn drafod achosion neu amgylchiadau unigol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn uniongyrchol.

 

Nid yw sylwadau ac atebion ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cymedroli cyn eu postio, ond rydym yn cadw’r hawl i gael gwared ar unrhyw ddeunydd sydd:

  • yn achosi risg i ddiogelwch neu breifatrwydd
  • yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol amdanoch chi eich hun, neu rywun arall
  • yn cyfeirio at weithwyr y cyngor yn ôl eu henw
  • yn cael eu hystyried yn sbam neu’n hysbysebion masnachol
  • yn anghyfreithlon, yn aflonyddu, yn sarhaus neu’n fygythiol
  • yn anllad, yn awgrymog yn rhywiol neu’n cynnwys rhegi
  • yn hiliol, homoffobig, oedraniaethol, rhywiaethol neu’n cael eu hystyried yn sarhaus i unrhyw grŵp o unigolion
  • yn torri cyfraith eiddo deallusol neu gyfraith hawlfraint
  • yn cael ei ystyried yn ddeunydd sarhaus neu amhriodol ar gyfer y dudalen hon mewn unrhyw ffordd arall

 

Bydd torri’r rheolau hyn dro ar ôl tro yn golygu y bydd eich cyfrif yn cael ei atal o’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mewn achosion difrifol, efallai y byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu am sylwadau.

 

Ni fydd sylwadau a wnewch ar gyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar y gwasanaeth a gewch gan Maethu Cymru.

 

Nid yw maethu Cymru  yn cymeradwyo nac yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddeunydd y gellir ei gyrraedd drwy ddolenni a bostiwyd ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Pan fyddwch yn dilyn dolen, cofiwch eich bod yn gadael cyfrifon Maethu Cymru. Gall Maethu Cymru rannu gwybodaeth am grwpiau cymunedol ar y cyfryngau cymdeithasol os yw’n briodol i’n cynulleidfa ac yn cyd-fynd â diben y cyfrif.

 

Dim ond cynrychiolwyr Maethu Cymru , yn gweithredu yn rhinwedd eu swydd swyddogol sydd wedi’u hawdurdodi i weinyddu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol..

 

Mae Maethu Cymru  yn cadw’r hawl i ddileu’r swyddogaeth sylwadau ar unrhyw adeg os yw’n cael ei gamddefnyddio.