dod yn ofalwr maeth

Mae dod yn ofalwr maeth yn newid bywyd. Mae’n benderfyniad i roi rhywbeth yn ôl a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol.

Mae’n rhaid i chi sicrhau mai hwn yw’r penderfyniad iawn i chi a’ch teulu. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n cael eich paru â phlentyn sy’n iawn ar gyfer eich personoliaeth a’ch sgiliau penodol, sefyllfa eich teulu.

Fodd bynnag, mae maethu’n fwy hyblyg (a gwerth chweil) nag y byddwch yn meddwl o bosibl.

Young boy and female foster carer

sut mae dod yn rhiant maeth

Rydym bob amser yn chwilio am fwy o bobl sy’n awyddus i’n helpu i newid bywydau plant. Os ydych yn ymchwilio i sut mae dod yn ofalwr maeth, rydych eisoes yn cyflawni’r cam cyntaf. Mae eich diddordeb wedi dod â chi atom ni.

Ym Maethu Cymru, rhinwedd bwysicaf rhiant maeth yw ei barodrwydd i gael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny.

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth angenrheidiol am y broses o ddod yn ofalwr maeth, o gyflwyno eich cais i ffactorau rydym yn eu hystyried wrth benderfynu pwy all faethu plentyn, a’r hyn i’w ddisgwyl ar ôl i’ch cais maethu gael ei gymeradwyo.

Darllenwch fwy:  Sut mae dod yn ofalwr maeth?

 

pwy sy’n gallu dod yn rhiant maeth

Mae gan rieni maeth ffyrdd o fyw, proffesiynau a phrofiad amrywiol. Mae croeso i bawb yn y gymuned faethu, ni waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu sefyllfa deuluol.

Y prif ofyniad yw bod gennych ystafell sbâr lle gall y plentyn rydych yn ei faethu ymgartrefu, yn ogystal â’r awydd i roi i bobl ifanc y cariad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Darllenwch fwy:  Pwy sy’n gallu maethu?

Single man and two young children eating ice cream by the beach

faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth?

Yn gyffredinol, ar ôl i chi ddechrau’r broses ymgeisio, bydd yn cymryd tua hanner blwyddyn i gael eich cymeradwyo ac i ddod yn ofalwr maeth. Gall hyn ymddangos yn hir – a theimlo’n eithaf rhwystredig os ydych yn barod i groesawu plentyn i’ch cartref – ond mae’n bwysig i’ch awdurdod lleol gynnal yr holl wiriadau angenrheidiol fel y gallwn fod yn siŵr bod y bobl ifanc rydym yn eu rhoi yn eich gofal yn ddiogel ac yn hapus.

Mae’r broses yn cynnwys asesiad meddygol, casglu rhai geirdaon cymeriad fel ein bod yn dod i’ch adnabod yn well, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) i sicrhau bod gennych gofnod troseddol glân, cwrs hyfforddi, a sawl ymweliad tŷ.

Ar ôl i’r panel adolygu eich cais a’ch cymeradwyo, rydych yn barod i ddod yn ofalwr maeth, a byddwn yn dechrau chwilio am blentyn i’w baru â chi.

Darllenwch fwy:  faint o amser mae’n ei gymryd i ddod yn ofalwr maeth?

 

faint mae gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Er nad yw hyn byth yn brif gymhelliant dros ddod yn rhiant maeth, mae’n dda gwybod pa fath o gymorth ariannol sydd ar gael.

Mae gennych hawl i lwfans penodol fesul plentyn rydych yn ei faethu, yn ogystal â thaliad ychwanegol i chi’ch hun – diben y rhain yw helpu gydag anghenion o ddydd i ddydd ac anturiaethau teuluol gyda’ch gilydd.

Pan fyddwch yn maethu plentyn, gallwch hefyd fanteisio ar gefnogaeth a manteision eraill, gan amrywio o adnoddau lleol i ostyngiadau.

Darllenwch fwy: cefnogaeth a manteision

 

beth sy’n eich gwahardd rhag dod yn rhiant maeth?

Fel rheol, rydym eisiau cymeradwyo pawb sydd eisiau dod yn rhiant maeth – ond mae gennym ddyletswydd i’r plant yn ein gofal hefyd i sicrhau eu bod yn ddiogel, felly mae’n rhaid i ni wneud ein diwydrwydd dyledus.

Y rheswm mwyaf clir dros eich gwahardd rhag dod yn rhiant maeth yw eich bod chi, neu rywun yn eich cartref, ag euogfarn droseddol ddifrifol. Byddai hyn yn drosedd dreisgar neu rywiol.

Nid yw mân droseddau a ddigwyddodd ddegawdau yn ôl bob amser yn broblem, yn enwedig os ydym yn gallu trafod y manylion â chi. Mewn unrhyw achos, y ffordd orau o fynd i’r afael ag euogfarnau yn y gorffennol yw gyda thryloywder llawn.

Mae ffactorau eraill a allai olygu bod eich cais yn cael ei wrthod yn cynnwys bod yn rhy brysur (gan gynnwys llawer o deithio), diffyg tŷ addas, iechyd gwael, neu anifeiliaid anwes a allai fod yn beryglus. Os nad yw gweddill yr aelwyd yn cefnogi’r syniad o faethu plentyn, efallai y bydd angen i ni ddweud na.

Darllenwch fwy:  5 rheswm cyffredin a all eich gwahardd rhag bod yn ofalwr maeth

Girl in garden

pam maethu gyda maethu cymru?

Os ydych yn barod i gymryd y cam cyntaf ar eich ffordd i ddod yn rhiant maeth, rydym yma i roi cefnogaeth, gan eich paratoi ar gyfer y llawenydd – a’r cyfrifoldebau – sy’n rhan o faethu plentyn.

Pan fyddwch yn ymuno â’n cymuned faethu, ni fyddwch yn gweithio gyda sefydliad pell ymhell i ffwrdd o’ch cymuned. Rydym yn rhwydwaith o wasanaethau awdurdodau lleol, pob un â chysylltiad uniongyrchol â chymunedau lleol ledled Cymru.

Mae hyn yn golygu y bydd tîm ymroddedig gyda gwybodaeth leol wrth law bob amser i’ch tywys, bob cam o’r ffordd, o’ch cais hyd at pan fyddwch yn maethu plentyn.

Mae lles yr holl bobl ifanc yn ein gofal yn hynod bwysig i ni ac rydym yn gwneud pob ymdrech i gadw plant yn lleol lle gallwn, a phan fydd hynny’n iawn iddyn nhw. Rydym hefyd yn ddielw, felly rydych yn gwybod bod ein holl adnoddau yn mynd tuag at greu dyfodol gwell i’n cymuned.

Darllenwch fwy:  Pam ein dewis ni?

 

dod yn rhiant maeth gyda maethu cymru

Mae gennym 22 o dimau lleol sy’n cwmpasu gwahanol ardaloedd ledled Cymru sy’n gallu rhoi gwybodaeth amhrisiadwy am y plant lleol yn eu gofal, yn ogystal â’ch cyflwyno i’r gymuned rhieni maeth leol.

Os ydych yn barod i ddod yn ofalwr maeth gyda ni, dewch o hyd i’ch awdurdod lleol a chysylltwch ag ef i gael sgwrs gyfeillgar. Bydd yn rhoi i chi yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn eich tywys trwy’r camau nesaf.

Family of two adults and 3 children walking away

Rydyn ni’n eu helpu drwy roi’r holl bethau rydyn ni’n credu y mae plant yn haeddu eu cael, fel cartref, pobl sy’n eu caru a lle i deimlo’n ddiogel.”

Jack, Colin a Mary – Blaenau Gwent

cwestiynau cyffredin

am faint y gallaf faethu plentyn?

Mae gwahanol fathau o ofal maeth, yn amrywio o seibiannau byr i faethu byrdymor a gofal maeth hirdymor, yn ogystal â lleoliadau mwy arbenigol, fel maethu rhiant a phlentyn. Bydd math y gofal sydd ei angen ar berson ifanc yn dibynnu ar y plentyn unigol a’i gefndir.

Yn ystod eich asesiad fel gofalwr maeth, byddwn yn mynd dros bob math o faethu gyda chi, fel y gallwn benderfynu beth sy’n orau i chi a’ch anwyliaid. Wrth gwrs, wrth i amser fynd yn ei flaen, efallai y bydd eich sefyllfa yn newid – ond byddwch yn dawel eich meddwl, bydd modd addasu sut rydych yn maethu yn dibynnu ar eich anghenion.

eich awdurdod lleol

Chwiliwch eich côd post i ddod o hyd i ddolen i'ch tîm gofal maeth lleol.

Your nearest local authority is:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi cod post dilys dim canlyniadau