Canllaw i blant a phobl ifanc
pwy sy'n gwneud beth?
Byddwch chi'n cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau eich helpu chi. Dyma eu rôl a'r hyn maen nhw'n ei wneud.
pobl sy'n gallu eich helpu
Mae yna lawer o bobl i siarad â nhw.
Prif rôl pawb sy’n gyfrifol am ofalu am blant a phobl ifanc yw eu cadw’n ddiogel rhag niwed.
gweithwyr cymdeithasol
Mae gweithiwr cymdeithasol yn rhywun sydd wedi cael ei hyfforddi i helpu plant a’u teuluoedd drwy gyfnodau anodd.
Bydd yn egluro pethau i chi ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn deall beth sy’n digwydd.
Gall fod yn syniad da rhoi gwybod i’ch gweithiwr cymdeithasol sut rydych chi’n teimlo am fod mewn gofal maeth a gyda’ch gilydd, gallwch siarad am beth yw’r cynllun i chi.
Dyma’r person i fynd ato, i ofyn cwestiynau os nad yw’ch gofalwr maeth yn gwybod yr ateb. Gall eich gofalwr maeth eich helpu i gysylltu â nhw, neu dylech gael eu rhif ffôn os ydych am gysylltu â nhw. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol hefyd yn ymweld â chi yn rheolaidd.
ymgynghorydd personol
Bydd Ymgynghorydd Personol yn eich helpu i gynllunio ar gyfer eich dyfodol a’ch cefnogi i gyflawni eich nodau.
Bydd yn gweithio’n agos gyda chi pan fyddwch tua 15 neu 16 oed, gan wneud yn siŵr bod eich cynllun tuag at ddod yn oedolyn yn realistig ac yn parhau i ddiwallu eich anghenion.
Dylai eich Ymgynghorydd Personol sicrhau bod eich cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd, sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch, a chadw mewn cysylltiad â chi ar eich taith i ddod yn oedolyn.
Eiriolwr
Oedolyn dibynadwy yw hwn a fydd yn dod i gwrdd â chi a gwrando ar eich barn.
Mae’r hawl gennych ofyn am eiriolwr ar unrhyw adeg.
Nod eiriolaeth yw grymuso pobl ifanc trwy roi llais iddynt rannu eu meddyliau a’u teimladau a sicrhau eu bod yn cael eu clywed.
Dydyn nhw ddim yn weithwyr cymdeithasol nac yn gweithio i’r gwasanaethau cymdeithasol, felly byddant yn siarad ar ran eich barn, a’ch barn chi yn unig.
Gallant helpu i gyfathrebu ag oedolion eraill, gan gynnwys eich gweithiwr cymdeithasol a’ch Swyddog Adolygu Annibynnol a chyfleu’r hyn rydych chi ei eisiau a sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch chi’n teimlo’n llai hyderus i wneud hynny. Gallant hefyd eich helpu i wneud cwyn neu wneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed mewn cyfarfodydd.
SAA (Swyddog Adolygu Annibynnol)
Weithiau bydd eich Swyddog Adolygu Annibynnol yn cael ei alw’n SAA neu IRO yn Saesneg.
Maent yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr holl oedolion yn gwneud yr hyn maen nhw’n dweud y byddant yn ei wneud.
Dylai eich Swyddog Adolygu Annibynnol siarad â chi cyn pob cyfarfod adolygu i wneud yn siŵr eich bod yn hapus o ran ble rydych chi’n byw ac i wirio sut mae pethau’n mynd ym mhob rhan o’ch bywyd, gan gynnwys yr ysgol, amser gyda’ch teulu a phethau eraill rydych chi’n eu gwneud sy’n bwysig i chi.
Gallwch gysylltu â’ch Swyddog Adolygu Annibynnol ar unrhyw adeg; bydd yn rhoi ei fanylion cyswllt i chi. Does dim rhaid i chi aros tan eich cyfarfod adolygu os ydych am siarad am unrhyw beth neu roi gwybod am rywbeth sydd wedi digwydd neu sydd heb ddigwydd ers eich cyfarfod diwethaf.
gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol maethu
Mae gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol yn gweithio gyda’r teulu maeth, yn eu cefnogi a’u harwain.
Maen nhw yno i wneud yn siŵr bod pawb yn hapus, a bod pawb yn y cartref wedi ymsefydlu.
Bydd y gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol hefyd yn rhoi gwybod i’ch gofalwyr am gyfarfodydd lle gallant glywed gan uwch reolwyr y cyngor am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth maethu, yn ogystal â chael gwahoddiad iddyn nhw a chi fynd i ddiwrnodau hwyl a gweithgareddau eraill gyda theuluoedd a phlant maeth eraill.
gweithiwr cymorth
Mae gweithiwr cymorth yn rhywun sy’n gweithio ochr yn ochr â’r gweithwyr cymdeithasol a’r gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol. Efallai y byddant yn dod i’ch helpu chi a bod yno i’ch cefnogi chi a’ch teulu maeth gydag unrhyw beth, fel diwrnodau allan neu ymweliadau.