ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o faethu

Cartref. Lle i fyw, lle i ddysgu, a lle i chwerthin. Lle llawn cariad.

Mae gwahanol fathau o ofal maeth ond mae hyn yn gyffredin i bob un ohonyn nhw. Maen nhw’n cynnig cartref, lle diogel lle gall plant dyfu.

Gall maethu olygu aros dros nos, seibiant byr neu rywbeth mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae’r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw hefyd yn wahanol. Does dim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol.

gofal maeth tymor byr

Ym maes maethu, gall tymor byr olygu awr, diwrnod, mis neu flwyddyn!  Mae’n golygu bod y cynlluniau ar gyfer plentyn yn dal i gael eu hystyried.

Fel gofalwr maeth tymor byr, rydych yn gweithio gyda ni ar y daith tuag at sicrhau’r ‘tymor hir’ (sydd weithiau’n cael ei alw’n sefydlogrwydd).  Mae hyn yn golygu bod yno bob amser i helpu plentyn pan fydd eich angen chi arno, a’i helpu i symud ymlaen hefyd; at ei deulu, at deulu maeth arall neu i gael ei fabwysiadu.

Dydy seibiant byr ddim yn golygu effaith fach. Gall arwain at rywbeth gwych – y cam diogel cyntaf ar daith sy’n newydd i bob plentyn yn ein gofal, a phob gofalwr maeth hefyd.

gofal maeth tymor hir

Mae gofal maeth tymor hir yn golygu paru ystyrlon, gan gysylltu’r plentyn maeth iawn â’r gofalwr iawn am gyhyd ag y bydd eich angen chi arno.

Mae’n ymwneud â darparu amgylchedd diogel a lle diogel, a chynnig sefydlogrwydd. 

I blentyn, mae’n golygu teulu maeth sefydlog am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae maethu tymor byr a thymor hir yn cwmpasu pob math o ofal maeth, gan gynnwys rhai mathau mwy arbenigol, y mae angen math penodol o gymeradwyaeth ar eu cyfer. Gallai’r rhain gynnwys…

Man and teenage boy in kitchen

seibiant byr

Gall seibiant byr olygu derbyn plentyn dros nos, yn ystod y dydd neu ar benwythnosau.

Mae’r rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw a gallan nhw fod yn rheolaidd hefyd.

Mae’n ymwneud â chynnig profiadau a chyfleoedd newydd. Mae’n golygu dod at eich gilydd i wneud gwahaniaeth.

rhiant a phlentyn

Gyda lleoliadau i rieni a phlant, rydych chi’n rhannu eich profiad magu plant eich hun gyda rhywun sydd wir angen y gefnogaeth honno. Rydych chi’n meithrin y genhedlaeth nesaf fel eu bod yn gallu gwneud yr un peth. Mae’n ymwneud â helpu rhieni i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.

gofal therapiwtig

Mae angen math gwahanol o ofal weithiau ar blant sydd ag anghenion mwy cymhleth, a dyna lle mae lleoliadau therapiwtig yn bwysig. Mae gofalwyr therapiwtig a’u plant yn cael lefel ychwanegol o gefnogaeth.

ffoaduriaid ifanc

Boed am ddiwrnod, wythnos, mis neu flwyddyn, gallwch gynnig cefnogaeth, sefydlogrwydd ac arweiniad i ffoadur ifanc.

Gall eich cefnogaeth gynnig y sgiliau bywyd sydd eu hangen ar ffoadur ifanc.

Dysgwch sut y gallwch gefnogi ffoadur ifanc

llety â chymorth

Mae gadael cartref yn brofiad brawychus a chyffrous i unrhyw berson ifanc. Pan fydd person ifanc yn gadael gofal maeth neu os nad oes ganddo deulu i'w gefnogi, gall hyn fod yn fwy heriol.

Gallech helpu person ifanc 16-21 oed drwy ddarparu pont rhwng gofal a byw’n annibynnol. Byddech yn cefnogi’r person ifanc mewn ffordd debyg i letywr. Ni fyddech yn cael eich cofrestru fel gofalwr maeth a byddwch yn cael eich asesu’n wahanol.

Byddech yn cynnig ystafell wely sbâr iddo ond hefyd yn ei helpu i fynychu addysg a chwilio am swydd neu hyfforddiant a chyda sgiliau bywyd fel coginio a chyllidebu. Mae llety â chymorth yn ffordd wych o ddechrau gofalu am bobl ifanc, ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill.

dod o hyd i’ch tîm maethu cymru lleol

Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.

Your nearest local authority is:

Please enter a postcode Sorry, we were unable to find a local authority near that postcode.