mathau o faethu

beth yw maethu hirdymor?

Pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am faethu, maen nhw’n dychmygu llawer o blant yn mynd a dod. Ond pan fyddwn yn siarad â phobl am faethu, y syniad o fynd yn “rhy gysylltiedig” a “gadael i blant fynd” sy’n eu hatal rhag dod yn ofalwyr maeth.

Ond mae yna ffordd arall o faethu.

Maethu heb y ffarwelio.

Yn hytrach na maethu llawer o blant am gyfnod byr, gallech roi teulu I blentyn trwy faethu hirdymor. Mae hyn yr un mor werthfawr ac angenrheidiol.

 

dinner table

beth yw maethu hirdymor?

Mae maethu hirdymor, a elwir hefyd yn ofal maeth sefydlog, yn golygu gofalu am blentyn am nifer o flynyddoedd. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan na all plentyn neu berson ifanc mewn gofal ddychwelyd at ei deulu biolegol ac nad yw mabwysiadu’n bosibl neu nid dyna’r peth iawn i’r plentyn.

manteision gofal maeth hirdymor

Mae gofal maeth hirdymor yn golygu bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei fagu gan un teulu maeth. Maen nhw’n cael cysondeb ac ymdeimlad o berthyn i deulu gyda chyfeiriad cartref sefydlog ac addysg mewn ysgol.

Mae hyn fel arfer yn digwydd ar ôl i’r plentyn eisoes fod mewn gofal maeth tymor byr. Ein nod yn y pen draw yw i deuluoedd gael eu haduno. Fodd bynnag, mewn achosion lle nad yw hyn wedi bod yn bosibl am unrhyw reswm, bydd ateb mwy hirdymor yn cael ei ystyried.

Mae’n ymwneud â rhoi eich ymrwymiad i blentyn, gan addo y byddwch yno ar eu cyfer yn yr hirdymor, trwy’r amseroedd anodd, bod ar eu hochr ac yn eu cornel nes eu bod yn oedolyn neu hyd yn oed yn hwy.

Eu hystyried yn rhan o’ch teulu, fel eu bod yn gallu dod gartref o’r Brifysgol ar gyfer y Nadolig. Bod yn deulu iddyn nhw, hyd yn oed os yw’r elfennau cyfreithiol yn wahanol i fabwysiadu.

a fyddaf yn cael cwrdd â’r plentyn yn gyntaf?

Weithiau bydd plentyn yn cyrraedd mewn argyfwng neu fel rhan o gynllun byrdymor, ond mae’r angen neu’r sefyllfa yn datblygu’n rhywbeth mwy hirdymor. Mae’r gofalwr maeth presennol yn gallu dewis cynnig maethu hirdymor i’r plentyn hwnnw.

Os nad yw’r gofalwr maeth yn gallu rhoi’r sefydlogrwydd neu’r cymorth hirdymor sydd ei angen ar y plentyn, mae modd cynllunio cyflwyniad graddol i’w ofalwyr maeth hirdymor newydd. Rhywun sy’n gallu bod yno i’r plentyn nes ei fod yn oedolyn.

Rydyn ni hyd yn oed wedi gweld achosion lle mae’r gofalwr maeth tymor byr (yn eu 70au eu hunain efallai) yn aros ym mywydau’r plant fel math o fam-gu a thad-cu.

Felly os ydych wedi mynegi diddordeb mewn maethu hirdymor, byddwn yn cysylltu â chi os ydyn ni’n credu eich bod yn bariad hirdymor da i blentyn. Byddwch yn derbyn llawer o wybodaeth amdanyn nhw gan eu gofalwyr maeth presennol ac yn cael cwrdd â’r plant yn gyntaf.

a yw plant mewn gofal maeth hirdymor byth yn dychwelyd at deulu?

Mae siawns bob amser y gall amgylchiadau teuluol biolegol newid yn sylweddol, ac efallai y bydd y plentyn eisiau ceisio byw gyda’i riant eto yn ei arddegau. Yn aml, bydd y plentyn neu’r person ifanc yn parhau i gael perthynas ag aelodau o’u teulu biolegol, y gallai fod eisiau eu gweld.

Dinner table

pa mor hir mae lleoliad gofal maeth hirdymor yn parhau?

Os byddwch yn penderfynu maethu plentyn yn yr hirdymor, mae’n debygol y bydd yn aros gyda chi tan ei fod yn oedolyn, neu’n hwy.

Os yw’r plentyn yn ifanc, gallai fod gyda chi am flynyddoedd lawer wrth iddo dyfu i fyny. Neu i berson ifanc sydd eisoes yn ei arddegau, mae’n rhoi sefydlogrwydd iddo nes ei fod yn barod i fyw’n annibynnol.

Nid yw maethu hirdymor o reidrwydd yn golygu eich bod yn ffarwelio yn 18 oed. Mae llawer o ofalwyr maeth yn parhau i fod yn berson y mae’r person ifanc yn mynd ato ymhell ar ôl iddo symud allan.

Beth sydd ei angen ar blentyn o faethu hirdymor?

Buom yn siarad â rhai o’n gofalwyr maeth sydd wedi dewis maethu yn yr hirdymor ac fe wnaethon nhw rannu eu profiad a’u cyngor.

family sitting outside caravan

dylech gynnwys eich teulu a’ch ffrindiau estynedig

“Gyda gofal maeth hirdymor, mae mwy i’w ystyried, nid yn unig i’ch teulu agos ond i’ch teulu estynedig a’ch ffrindiau, gan eich bod yn gofyn iddyn nhw fod yn rhan o’r daith. Mae cefnogaeth teulu a ffrindiau yn amhrisiadwy, dyna pam ei bod yn bwysig eu bod yn cyd-fynd â’ch penderfyniad. Mae angen iddyn nhw dderbyn y plentyn fel rhan o’r teulu, cymaint â chi.”

Man wearing blue jacket and jeans helping a boy wearing a blue hoody on a scooter at a skate park.

buddsoddwch yn y daith hir

“Mae gwneud ymrwymiad hirdymor yn golygu eich bod yn buddsoddi yn y daith hir, nid dim ond hyd at 18 oed ac mae angen i’r plentyn wybod hynny, er mwyn iddyn nhw gael teimlad o berthyn a diogelwch.

Bydd heriau bob amser yn rhan annatod o’r berthynas, maen nhw’n rhoi eich ymrwymiad chi a’r teulu ar brawf.  Os ydyn nhw’n synhwyro unrhyw wendid, efallai na fydd modd adfer hyn, ond os yw eich ymatebion yn gwneud iddynt nhw deimlo diogelwch a chariad, bydd y gwobrau’n helaeth.”

Three people sit outdoors on a patio, engaged in conversation. One person, wearing a hoodie, holds a glass, while another person holds a mug. Lush greenery surrounds them.

byddwch yn deulu iddyn nhw

“Mae’n bwysig bod pawb yn gwybod i bwy maen nhw’n perthyn.

Weithiau, pan fydd plant yn teimlo’n rhan o’r teulu wrth faethu yn yr hirdymor, maen nhw’n dewis cymryd cyfenw eu gofalwr maeth – ond mae’n rhaid mai dewis y plentyn yw hyn.”

Family with child on shoulders and baby in pushchair

estynnwch allan i’ch cymuned faethu am gefnogaeth

“Mae maethu hirdymor fel cael aelod ychwanegol o’r teulu ond gyda chymorth ac arweiniad pan fydd ei angen arnoch. Mae’r gefnogaeth gan gyd-ofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol yn dal i fod ar gael i chi yn rheolaidd.”

Foster family playing cards

dylech eu trin yr un fath

“Mae angen i chi drin y person ifanc fel rhan o’r teulu, gwneud cyfran o’r tasgau, derbyn ei farn, ystyried ei  anghenion a’i ddymuniadau wrth wneud penderfyniadau teuluol a’i drin yn gyfartal fel aelod o’r teulu. Mae hynny hefyd yn golygu peidio â rhoi mwy iddo na’ch plant biolegol, ei drin yr un ffordd o ran arian poced neu ddillad gan ddylunwyr.”

stori abbey

Roedd Abbey yn byw gyda’i theulu maeth o’r amser yr oedd hi’n bedair oed nes iddi droi’n 17 oed. Mae’n cofio nad oeddent erioed wedi ceisio rhoi rhywun newydd yn lle ei mam, ond yn hytrach roedden nhw wedi darparu’r gofal a’r cymorth ychwanegol yr oedd eu hangen arni.

Adult and teen laughing

Dwi’n cofio fy ngofalwyr maeth yn eistedd mewn cyfarfodydd ysgol gyda fi, pan o’n i’n mynd i drwbl. Bydden nhw’n dweud na fyddai mam eisiau i mi ddilyn ôl ei throed. Bydden nhw’n tynnu fy ffôn oddi arna i ond doedden nhw ddim yn fy ngwthio i ffwrdd pan o’n i’n chwarae fyny. Fe wnaethon nhw fy helpu, nid fy ngwrthod i am nad oeddwn i’n blentyn iddyn nhw.

Abbey

Er nad yw hi’n byw gyda nhw bellach, mae cwlwm Abbey gyda’i theulu maeth yn dal i fod yn gryf – maen nhw’n gweld ei gilydd drwy’r amser, ac yn dathlu cerrig milltir bywyd mawr gyda’i gilydd.

Darllenwch ei stori’n llawn: Stori Abbey

Lady in a yellow waterproof with a teenage boy and teenage girl on woodland walk

mae pobl yn eu harddegau angen rhywle i’w alw’n gartref hefyd

Mae pobl yn eu harddegau angen teulu hefyd.

Mae cynnig cartref i blentyn yn ei arddegau am ei flynyddoedd olaf mewn gofal yn rhoi rhywle iddo ei alw’n gartref, lle i ledaenu ei adenydd, a dysgu sut i fod yn barod ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Nid yw hirdymor yn dod i ben yn 18 oed. Faint o blant sy’n gadael cartref mewn gwirionedd yn 18 oed y dyddiau hyn?

Gyda’r hyn a elwir yn Pan Dwi’n Barod (neu Staying Put yn Lloegr), gall y person ifanc aros gyda chi nes iddo gyrraedd 21 oed, a hyd yn oed wedyn nid yw’r gefnogaeth yn dod i ben nes ei fod yn cyrraedd 25 oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc fynd i’r coleg, y brifysgol neu ddod o hyd i waith a bod yn barod am annibyniaeth, a bod yn debycach i’w cyfoedion.

Darllenwch Stori Jake

gofal maeth byrdymor yn erbyn hirdymor

Mae gofal maeth byrdymor yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cyfnodau o faethu sy’n gallu rhychwantu unrhyw beth o fod dros nos i ddwy flynedd. Mae angen y math hwn o ofal tra bod sefyllfa plentyn yn cael ei hasesu a bod cynllun mwy cynhwysfawr yn cael ei roi ar waith.

I blant nad ydynt yn gallu dychwelyd i’r teulu, gallant symud o ofal maeth byrdymor i ofal maeth hirdymor, gan roi cymorth a sefydlogrwydd iddynt nes eu bod yn oedolion.

maethu hirdymor v mabwysiadu: beth yw’r gwahaniaeth?

Rydym yn amlinellu’r prif wahaniaethau rhwng maethu a mabwysiadu yn ein blog ‘5 gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu ond dyma gipolwg ar ein saith uchaf:

  1. Cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol – Pan fydd plentyn mewn gofal maeth sefydlog, mae cymuned o gymorth o’u cwmpas nhw a’u teulu maeth gan y gwasanaethau cymdeithasol, Maethu Cymru, a theuluoedd maeth eraill. Fodd bynnag, pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu, mae’r cyfranogiad rheolaidd o’r gwasanaethau cymdeithasol yn dod i ben, ond mae’n dal i fod ar gael pan fydd ei angen trwy gymorth mabwysiadu.
  2. Cyfrifoldeb Cyfreithiol – Nid yn unig y mae cyfranogiad y gwasanaethau cymdeithasol yn pennu’r cymorth rheolaidd a ddarperir, ond y cyfrifoldeb cyfreithiol dros y plentyn hefyd. Pan fydd plentyn mewn gofal maeth hirdymor, mae hyn yn parhau gyda’r awdurdod lleol, ond, ar ôl mabwysiadu, mae’r cyfrifoldeb cyfreithiol yn trosglwyddo’n llawn i’r teulu mabwysiadol. Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn, byddwch yn dod yn rhiant i’r plentyn.
  3. Penderfyniadau– Bydd rhiant mabwysiadol yn gwneud pob penderfyniad dros blentyn. Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb rhieni a gwneud penderfyniadau dros blentyn mewn gofal maeth hirdymor yn cael ei rannu rhwng y rhiant biolegol a’r awdurdod lleol sy’n dirprwyo cyfrifoldeb i’r gofalwr maeth.
  4. Cyllid– Rhoddir lwfans i bob gofalwr maeth i ofalu am y plant. Mae gan rieni mabwysiadol gyfrifoldeb ariannol dros fagu eu plentyn, y gellir ei gefnogi gan lwfans mabwysiadu prawf modd. Darllenwch fwy:  Tâl gofalwr maeth (y canllaw sylfaenol!)
  5. Cysylltiadau Teuluol – I blant iau, yn enwedig pan fydd plentyn yn fabi neu’n fach, efallai mai mabwysiadu yw’r dewis iawn iddyn nhw yn yr hirdymor gan y bydd yn cynnig dechrau newydd iddyn nhw ac yn aml yn golygu newid cyfenw. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd gan blant hŷn ymdeimlad gwell o bwy ydyn nhw, eu hunaniaeth eu hunain, gyda pherthnasau teuluol cryf. Yn yr achos hwn, gall maethu hirdymor fod yn fwy addas.
  6. Cyswllt â Theulu Biolegol – Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf o achosion mabwysiadu yn ‘agored’. Mae hyn yn golygu bod y plentyn yn gwybod ei fod wedi ei fabwysiadu, pwy yw ei deulu biolegol, ac efallai y bydd yn cael cyswllt achlysurol â nhw e.e. pen-blwydd neu Nadolig. Er bod gofal maeth hirdymor yn darparu sefydlogrwydd, nid oes angen i blant ffarwelio â’u rhieni biolegol nac aelodau eraill o’r teulu. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol, gallai plentyn mewn gofal hirdymor weld ei frodyr a’i chwiorydd, ei fam-gu a’i dad-cu neu ei rieni biolegol mor rheolaidd ag unwaith yr wythnos neu ychydig o weithiau’r mis.
  7. Meddylfryd a Chymhelliant – Boed yn byw gyda rhieni mabwysiadol neu ofalwyr maeth, bydd plentyn yn cael ei garu ac yn derbyn gofal da. Fodd bynnag, yn ein profiad ni, mae gwahaniaeth o ran meddylfryd a chymhellion: Gall rhieni mabwysiadol fod yn chwilio am blentyn i ymuno â’u teulu yn barhaol, cymryd eu henw a bod yn rhiant am y tro cyntaf efallai. Tra bod gofalwyr maeth yn tueddu i agor eu cartrefi i helpu amrywiaeth o blant, eu paratoi ar gyfer eu cam nesaf mewn bywyd neu i ddychwelyd adref, tra’n gweithio ochr yn ochr â’r teulu biolegol a’r gwasanaethau plant.
Teenage girl and boy with a man and lady, looking through a telescope

ydych chi’n ystyried dod yn ofalwr maeth?

Os hoffech wybod mwy am y mathau o faethu, gan gynnwys gofal hirdymor, cysylltwch â thîm eich awdurdod lleol.

Neu, i wybod mwy am fabwysiadu cysylltwch â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.