
cwrdd â thîm maethu cymru
digwyddiad gwybodaeth maethu ar-lein
Mae Maethu Cymru yn eich croesawu i ymuno â ni mewn sesiwn gwybodaeth ar-lein. Mae’n sesiwn anffurfiol sy’n rhoi’r cyfle i chi ddysgu mwy am faethu gyda’ch awdurdod lleol.
Byddwn yn siarad am y gwahanol fathau o ofal maeth, y daith i ddod yn ofalwr maeth a pha gymorth a manteision a gewch drwy faethu gyda ni. Bydd gennym hefyd ein gofalwyr maeth presennol yn ymuno, gan roi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych, a chlywed profiadau pobl sydd eisoes yn maethu!
Os ydych yn credu bod gennych rywbeth i ddod ag ef i’r bwrdd ar gyfer plentyn/person ifanc, yna ymunwch â ni.