gall pawb gynnig rhywbeth
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru’n galw ar bobl ledled Cymru i ystyried dod yn ofalwyr maeth. Maent yn gwneud hyn drwy rannu profiadau maethu go iawn a ryseitiau yn Gall pawb gynnig rhywbeth – eu llyfr coginio sydd â chefnogaeth gan enwogion.
Mae Gall pawb gynnig rhywbeth yn llawn dop â dros 20 rysáit, gan enwogion gan gynnwys enillydd MasterChef, Wynne Evans; Beirniad Young MasterChef, Poppy O’Toole; a’r cogydd, Colleen Ramsey.
Mae hefyd yn cynnwys ryseitiau o’r gymuned gofal maeth, gan gynnwys yr athletwraig a’r ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a’r gofalwyr maeth – cystadleuydd y GBBO Jon Jenkins, a’r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean.
Drwy dynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig – megis sicrwydd amser bwyd rheolaidd, amser gyda’r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd – nod Maethu Cymru yw dangos bod gan lawer o bobl eisoes y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi person ifanc drwy faethu awdurdod lleol.
‘weithiau, mae mor syml â gwybod y bydd brecwast, cinio a swper ar y bwrdd bob amser’ gofalwr maeth
“Mae cydweithio â’r gymuned faethu a chynnwys ein pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ganolog i’n gwaith. Mae’n ffordd i ni barhau i chwalu’r camsyniadau sy’n bodoli ynglŷn â phobl ifanc sydd mewn gofal a phwy all fod yn ofalwr maeth.
“Ein nod yw rhannu profiadau realistig o ofal maeth a dangos mai’r profiadau beunyddiol – megis coginio swper bob nos – sy’n gwneud i bobl ifanc deimlo’n ddiogel, sy’n adeiladu eu hyder a’n creu atgofion parhaol.” Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru
mynnwch eich copi AM DDIM o’r llyfr ryseitiau ‘gall pawb gynnig rhywbeth'
Cofrestrwch i dderbyn ein e-newyddion i dderbyn eich copi PDF.