maethu cymru yn cyhoeddi galwad frys am gymorth i ffoaduriaid ifanc yng Nghymru
Bob blwyddyn mae tua 36 miliwn o bobl ifanc yn cael eu dadleoli ledled y byd oherwydd gwrthdaro a thrais.
Bydd mwy na 100 o’r ffoaduriaid ifanc hyn yn dod i Gymru i geisio lloches a chymorth.
Mae llawer o ofalwyr maeth awdurdodau lleol eisoes yn darparu cymorth hanfodol, ond mae angen mwy i fynd i’r afael â’r argyfwng parhaus.
Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol, fel Maethu Cymru, yn cyhoeddi galwad frys i bobl ddod ymlaen i helpu’r bobl ifanc hyn mewn angen.
“Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy ngeni yma”
“Pan ddes i i Gymru, doeddwn i ddim yn gallu siarad Saesneg, roeddwn i’n gweld pethau nad oeddwn i wedi’u gweld o’r blaen yn fy mywyd ond nawr mae’n wahanol.
“Mae fy ngweithwyr cymdeithasol wedi bod yn berffaith; maen nhw wedi fy helpu i ddod i arfer â phopeth, y diwylliant, y ffordd o fyw.
“Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy ngeni yma, fe wnes i godi pethau’n gyflym. Mae gen i lawer o ffrindiau yma ac rwy’n adnabod llawer o bobl.
“Rwyf wedi bod mewn sawl lle o gwmpas y wlad, ond mae Sir Benfro yn gartref i fi.”
“Pan ddaw rhywun i Gymru, yn methu siarad Saesneg, ddim yn deall y diwylliant, maen nhw’n teimlo’n ddall. Ni allant wneud dim.
“Rwyf wedi bod yn y sefyllfa honno, ac rwyf bob amser yn cynghori eraill i ddysgu, i fynd i’r ysgol.
“Pan ddes i i’r DU doeddwn i ddim yn gallu siarad Saesneg, doeddwn i ddim yn gallu ysgrifennu, ond bob nos roeddwn i’n ymarfer.
“Pe na bawn i’n gwneud y gwaith caled, ni fyddai gen i swydd nawr, ni fyddai gennyf fy nhrwydded yrru. Dyna’r peth pwysicaf.”
– Ffoadur ifanc, Sir Benfro
“Mae’r rhain yn bobl ifanc sydd angen cymorth ac amddiffyniad”
Mae Casnewydd yn gartref i tua thraean o ffoaduriaid digwmni Cymru.
“Mae wedi ehangu fy nealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau ac wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor debyg yw pawb. Rydyn ni i gyd eisiau’r un pethau.
“Fe wnes i ofalu am un dyn ifanc a briododd y llynedd, roedd gyda mi am dair blynedd. Mae’n dal i siarad â mi bob wythnos.
“Mae’n fy nhrin i fel ffigwr tadol ac mae yna eraill hefyd sy’n dal i fyw yn yr ardal leol ac rwy’n eu gweld yn rheolaidd.
“Mae’r rhain yn bobl ifanc sydd angen cymorth ac amddiffyniad, ac rwy’n gweld hynny’n bwysig iawn. Rwy’n gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth.”
– Gofalwr Maeth, Casnewydd
“Naid o ffydd”
Mae mwyafrif y ffoaduriaid ifanc sy’n cyrraedd Cymru yn fechgyn yn eu harddegau; daw llawer o Affganistan, Irac, Syria, a Swdan.
Mae eu galluogi i barhau ag arferion crefyddol yn helpu i roi parhad, cysur a lles iddynt.
“Mae’r Quran yn dweud y dylen ni helpu’r anghenus. Dywedodd y ferch roeddwn i’n gofalu amdani ‘Dim ond Allah sydd gyda fi nawr, dim teulu na ffrindiau.
“Mae’n helpu os ydw i’n gallu deall eu ffydd a darparu’r hyn maen nhw’n gofyn amdano, fel nad oes rhaid iddyn nhw esbonio.
“Ewch am yr hyfforddiant a ddarperir, ymchwiliwch eu ffydd a’u ffordd o fyw. Gall helpu i addasu eich cartref yn unol â’u hanghenion.
“Pan adawodd y ferch ifanc fy nghartref, fe adawodd yn hapus. Dywedodd wrthyf pan fydd hi’n tyfu i fyny, mae hi’n mynd i faethu hefyd! Roedd hynny mor braf ei glywed. Roedd yn golygu ei bod yn deall ac yn gwerthfawrogi’r hyn a wnaethom drosti.
“Rwy’n teimlo’n fodlon iawn y gallwn helpu rhywun, hyd yn oed am gyfnod byr, gallwn i helpu.”
– Gofalwr Maeth, Bangor
“Cenedl Noddfa”
Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru y byddai Cymru yn dod yn ‘Genedl Noddfa’ gyntaf y byd.
Mae gan y wlad hanes balch o ddod i gymorth y rhai mewn angen ac yn ystod y misoedd diwethaf, mae wedi dangos haelioni mawr i gefnogi ffoaduriaid Wcráin.
Wrth i’r argyfwng ffoaduriaid ddwysau, mae Maethu Cymru yn annog parhad yr haelioni hwn i sicrhau bod pob person ifanc sy’n ceisio noddfa yng Nghymru yn cael y cyfle i ffynnu.
Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:
“Mae’n daith na fyddech chi’n dymuno i unrhyw un ei chymryd, yn enwedig merch ifanc yn ei harddegau, ar ei phen ei hun. Mae’n rhaid i lawer o ffoaduriaid ifanc adael eu teulu cariadus ar ôl i ddianc rhag rhyfel, trais a gormes gyda’r gobaith o fywyd gwell.
“Rydyn ni’n gwybod bod yna bobl wych yng Nghymru a allai, gyda’n cefnogaeth ni, arwain pobl ifanc i ddechrau bywyd newydd yma.
“Yn ogystal â chefnogi plant lleol o Gymru sydd angen gofal maeth, darparu diogelwch i unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd angen ein cymorth, dyna hanfod Maethu Cymru.”
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallech chi helpu ffoadur ifanc.