blog

10 rheswm i faethu gyda’ch awdurdod lleol

Mae penderfynu gyda phwy y byddwch chi’n maethu’n gallu bod yn dalcen caled. 

Mae cymaint o logos a gwefannau’n cynnig cymorth a hyfforddiant gwych, felly sut mae rhywun yn dewis?

Yn y blog hwn byddwn ni’n rhannu 10 rheswm dros faethu gyda’ch awdurdod lleol.  Mae rhieni maeth go iawn hefyd yn rhannu pam mai awdurdodau lleol oedd y dewis gorau iddyn nhw.

  1. Arbenigedd cynorthwyo rhieni maeth
  2. Mae gennym ni gyfrifoldeb cyfreithiol dros y plant yn ein gofal
  3. Ni yw’r un corff â gweithiwr cymdeithasol y plentyn
  4. Cymuned o rieni maeth lleol
  5. Aros yn lleol
  6. Cymorth gofal plant gan rieni maeth lleol rydych yn eu nabod
  7. Opsiynau maethu hyblyg
  8. Maethu plant o bob oed
  9. Cymorth ariannol i rieni maeth, ond nid er elw
  10. byddwch chi’n rhan o’r newid

arbenigedd mewn cynorthwyo rhieni maeth

Pan fyddwch chi’n maethu gyda’r awdurdod lleol, byddwch yn elwa o’n blynyddoedd lawer o brofiad o faethu a’n gwybodaeth am yr ardal leol. 

Mae eich tîm Maethu Cymru lleol wedi bod yn gweithio ym maes maethu ers blynyddoedd lawer, maen nhw wedi gweld amrywiaeth eang o deuluoedd a sefyllfaoedd ac maen nhw’n gyfarwydd â’r cymorth ehangach sydd ar gael yn eich ardal leol.

Yn aml maen nhw’n byw yn lleol hefyd ac yn eich deall chi a’r gymuned o’ch cwmpas

“Mae’r tîm maethu wedi gweithio gyda llawer o’r plant ac yn gwybod eu straeon.  Mae ganddyn nhw lawer o wybodaeth. “

Jenny, gofalwr maeth awdurdod lleol, Sir y Fflint


“Chi’n gwybod bod pobl yn mynd i fod yna, maen nhw’n ‘nabod yr ardal, maen nhw’n ‘nabod yr ysgolion, gallan nhw roi cyngor i chi.  Roedden nhw’n ‘nabod y plant ac roedden nhw’n gallu siarad am yr ardal leol.”

Tim ac Inger, gofalwyr maeth awdurdod lleol, Gwynedd


“Dwi’n byw ac yn gweithio yng Ngwynedd. Weithiau, gyda theuluoedd y bûm yn gweithio gyda nhw, roedd rhaid i’r plant ddod i ofal maeth yn ifanc iawn. Drwy aros yn lleol a chadw cysylltiad, roedd y plant yn gallu dychwelyd i ofal mam mewn ffordd bositif iawn, pan roedd yr amser yn iawn. Dwi’n eu gweld nhw nawr yn eu harddegau hwyr a’u 20au yn fy nghymuned, yn deulu hapus iawn.  Mae’r fam bellach yn nain, felly mae maethu yn helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd hefyd.”

Mel, Rheolwr gwaith Cymdeithasol, Gwynedd.


y cyfrifoldeb cyfreithiol dros y plant yn ein gofal

Mae gennym ni gyfrifoldeb cyfreithiol dros y plant yn ein gofal. 

Felly pan fyddwch chi’n maethu gyda’r awdurdod lleol, byddwch chi’n maethu’n uniongyrchol gyda’r tîm sy’n gwneud cynlluniau ar gyfer y plentyn, eu teulu a’u hysgol.

O’r alwad ffôn bryderus gyntaf am blentyn, drwy’r broses llys, i ganlyniad positif i’r plentyn – mae’r awdurdod lleol yn rhan o’r daith lawn. 

Rydyn ni’n adnabod y plentyn, ei stori gyfan.

“Nid mater o wneud eu gwaith a dyna ni oedd hi, roedd rhywun yn gweld hynny yn eu ffordd nhw gyda ni a chyda’r plant.  Mae’n wahaniaeth enfawr gweithio gyda phobl sydd â buddsoddiad yn y gymuned leol a phlant y gymuned leol. Roedden nhw’n adnabod y plant.  Roedd un gweithiwr cymdeithasol wedi gweithio gyda nhw ers pan oedden nhw’n fach. Hi oedd eu gweithiwr cymdeithasol am 5 mlynedd ac mae’r cysondeb hwnnw’n gwneud cymaint o wahaniaeth.”

Tim ac Inger, gofalwyr maeth awdurdod lleol, Gwynedd


“Roeddwn i’n gweithio gyda rhai plant fel gweithiwr cymdeithasol pan ddaethon nhw i mewn i ofal maeth am y tro cyntaf.  Maen nhw’n dal i fod gyda’r un rhieni maeth, ac rydw i nawr yn eu cynorthwyo drwy eu gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol”

Jo, rheolwr gwaith cymdeithasol Caerdydd 


Female social worker, teenage boy and man sat at a kitchen table

ni yw’r un corff â gweithiwr cymdeithasol y plentyn

P’un ai ydych yn maethu gydag asiantaeth neu awdurdod lleol – mae gan bob plentyn mewn gofal maeth ei weithiwr cymdeithasol ei hun yn yr awdurdod lleol.

Felly pan fyddwch chi’n maethu gyda’r awdurdod lleol – mae gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gweithwyr cymdeithasol maethu, a’r rhieni maeth i gyd yn rhan o’r un sefydliad.

Yn aml wedi’u lleoli yn yr un swyddfa, gyda’r un systemau cyfrifiadurol a mynediad at wybodaeth – gall cyfathrebu fod yn rheolaidd, gall sgyrsiau ddigwydd dros goffi a gall gwybodaeth newydd lifo’n rhydd rhwng y bobl berthnasol.

Pan fydd plant mewn gofal maeth, mae llawer o wahanol bobl yn ymwneud â bywyd y plentyn;

  • Gweithwyr cymorth sy’n trefnu amser gyda’r rhieni a’r teulu
  • Swyddogion adolygu sy’n trefnu cyfarfodydd plant
  • Athrawon, cynorthwywyr addysgu a chydlynwyr addysg plant sy’n derbyn gofal
  • Cynorthwywyr personol i bobl sy’n gadael gofal
  • A llawer mwy

Mae’r holl rolau hyn a’n rhieni maeth yn rhan o’r awdurdod lleol.

“Fe gawson ni gymorth gan bobl yn yr awdurdod lleol. O weithwyr cymdeithasol i uwch reolwyr. Roedd gennym ni dîm cyfan o’n cwmpas”

Tim ac Inger, gofalyr maeth awdurdodau lleol, Gwynedd

“Oherwydd y fantais o allu cyfathrebu’n uniongyrchol gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn neu’r person ifanc, gallwn ni symud mewn ffordd gyflym ac ymatebol.  Gallwn ni weithio ar y cyd i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n dod i’r amlwg mewn ffordd gynlluniedig neu anghynlluniedig.  Yn ddidrafferth, gallwn ni drefnu sgwrs gyflym ar Teams, cyfarfod yn y swyddfa, neu drafodaeth i ddatrys problemau ar y cyd.”

Rebecca, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol o Ferthyr

Two adults talking holding coffee cups

cymuned o rieni maeth lleol

Mae dros 2700 o rieni maeth gydag awdurdodau lleol yng Nghymru.

Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun.

Mae cymuned o rieni maeth, yn eich ardal leol, yma i chi.

Pan ddaw her newydd ar eich llwybr, gallwch chi sgwrsio â rhiant maeth lleol arall sy’n deall. Felly cewch chi arweiniad unrhyw bryd gan rywun profiadol o’r cychwyn cyntaf. 

O grwpiau cymorth cyfoedion ffurfiol i sgwrs dros goffi rhieni maeth eraill – mae rhieni maeth yn gallu bod yn gefn i’w gilydd.

Efallai sylwch chi nad yw ffrindiau a’r teulu bob amser yn deall eich ffordd o fagu plentyn nac ymddygiad y plant. Bydd rhiant maeth arall yn deall heb fod angen esbonio. 

Gwyliwch ein fideo sy’n dangos cymuned o rieni maeth, yn cefnogi ei gilydd yn y Bala.

“Cymorth gan rieni maeth eraill sy’n bwysig yn ogystal â’r cymorth mae rhywun yn ei gael gan y gweithiwr cymdeithasol.  Mae rhywun yn gwneud ffrindiau yn y gymuned”  Gall pobl eraill sydd â phrofiad gwahanol roi cyngor i chi ar sut i weithio gyda phlant penodol oherwydd eu bod wedi cwrdd â phlant tebyg o’r blaen.” 

Jenny, gofalwr maeth awdurdod lleol , Sir y Fflint

“Mae rhwydwaith cefnogol o bobl leol y gallwch chi siarad â nhw, sydd hefyd yn rhieni maeth â phrofiadau tebyg, yn gwneud cymaint o wahaniaeth”

Tim ac Inger, gofalwyr maeth awdurdod lleol Gwynedd

aros yn lleol

Yn aml, gall aros yn lleol fod yn werth y byd i blant maeth. Pan fyddwch chi’n maethu gyda’r awdurdod lleol, gall plant aros o fewn eu cymuned, yn agos at ffrindiau y maen nhw’n eu gwneud, aelodau o’r teulu y maen nhw’n parhau i gysylltu â nhw, cymunedau y maen nhw’n eu nabod ac yn aml yn aros yn eu hysgol bresennol. Gall aros yn eu hysgol bresennol roi rhywfaint o sefydlogrwydd i blant, efallai gydag athro y maen nhw’n yn ei hoffi ac yn ymddiried ynddo.

I chi’r rhiant maeth, bydd y teithiau yn y car hefyd o fewn y sir (mae bore diwrnod ysgol yn gallu bod yn ddigon anodd fel y mae).  Bydd yr ysgol, amser teulu, a chyfarfodydd yn lleol.

“Mae aros yn lleol yn bwysig yn enwedig i blant hŷn.   Weithiau mae ychydig bach o bellter yn beth da.  Ond mae eu rhieni a’u brodyr a chwiorydd yn dal i fod yn bwysig iawn iddyn nhw.  Maen nhw’n hoffi gwybod nad ydyn nhw’n rhy bell o adre” 

Jenny, gofalwr maeth awdurdod lleol, Sir y Fflint

cymorth gan rieni maeth lleol rydych yn eu nabod

Rydyn ni’n deall bod maethu yn dod â nifer o heriau.  Ac weithiau gall seibiant, neu ychydig o gymorth gan riant maeth arall, wneud byd o wahaniaeth.

Fel rhan o’n gwasanaeth maethu, mae gennym ni rieni maeth rhan amser sy’n gallu rhoi seibiant, neu seibiannau byr. Dewch chi i’w nabod nhw.  Maen nhw’n gallu dod i adnabod y plant a dod yn deulu estynedig.

“Ry’n ni’n dal i allu magu perthynas hyfryd gyda’r plant – yn enwedig y rhai rydyn ni’n eu gweld yn rheolaidd.  Yn bwysig, ry’n ni’n rhoi cyfle i rieni maeth eraill gael seibiant haeddiannol. Ac mae modd gweld yr egwyl fel gwyliau bach i’r plant”

Christine a Mike, gofalwyr maeth yr awdurdodau lleol, Bro Morgannwg

opsiynau maethu hyblyg

Mae maethu gyda’ch awdurdod lleol yn hyblyg.

Gallwch chi ddechrau drwy gynnig ymweliadau rheolaidd ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol. 

Byddwn ni’n rhoi’r hyder i chi y gallwch chi wneud hyn.

Efallai y byddwch chi’n gwneud llawer o wahanol fathau o faethu gyda ni, dros nifer o flynyddoedd.

O faethu gydag awdurdod lleol, ni fydd rhaid colli’ch gyrfa a’ch incwm – gallwch chi weithio a maethu.

Gall maethu dyfu gyda chi a’ch teulu.  Byddwn ni’n ystyried oedrannau eich plant eich hun wrth leoli plentyn gyda chi.

maethu plant o bob oed

Mae modd maethu plant o fabanod i blant yn eu harddegau a mwy gydag awdurdod lleol

  • Gwell gyda rhai bach? 
  • Neu efallai bod eich dyddiau o redeg o gwmpas ar ôl plentyn bach wedi hen fynd ac mae’n well gennych chi annibyniaeth yr arddegau.
  • Eisiau helpu mam a babi ifanc?
  • Gwell gennych ystod oedran i gyd-fynd â’ch plant eich hun?

Ni yw’r cyswllt cyntaf i bob plentyn sy’n dod i ofal maeth, felly rydyn ni’n fwy tebygol o fod ag ystod oedran a math o faethu fyddai’n addas. 

Byddwn ni’n dod i’ch adnabod chi a’ch teulu. Rydyn ni’n lleoli plant yn seiliedig ar eich sgiliau, eich ffordd o fyw a’ch cartref. Oherwydd ein bod ni’n gwybod, pan rydyn ni’n ei chael hi’n iawn, gall maethu fod yn llwyddiannus i chi, eich teulu a’n plant

cymorth ariannol i rieni maeth, ond nid er elw

Pan fyddwch chi’n maethu gyda’r awdurdod lleol, rydyn ni’n siarad am y plant yn gyntaf, nid arian. Dydyn ni ddim yn bodoli ar gyfer cyfranddalwyr ac er mwyn gwneud elw drwy ein plant. Nid busnes ydyn ni. Fyddwn ni ddim yn cael ein prynu na’n gwerthu gan gwmni arall, rydyn ni yma ar gyfer y tymor hir, yma i chi. 

Cewch chi gymorth ariannol a llawer o ostyngiadau a chynigion defnyddiol.  Gallwch chi ddarllen mwy am y cymorth ariannol rydym ni’n ei gynnig yn ein blog: tâl i rieni maeth – y canllaw llawn.

“Un peth oedd yn amlwg i ni am ein tîm maethu awdurdod lleol oedd bod popeth maen nhw’n ei wneud er lles gorau’r plentyn. Dydyn nhw ddim yn gwneud dim ohono i wneud elw”

Laura, gofalwr maeth awdurdod lleol

byddwch chi’n rhan o’r newid

Mae gofal maeth yn newid yng Nghymru  Mae Llywodraeth Cymru wedi addo dileu elw o ddyfodol gofal plant.  Mae awdurdodau lleol yn cydweithio yng Nghymru i rannu arfer gorau a dod â chysondeb i holl rieni maeth awdurdodau lleol Cymru. Rydyn ni’n gwneud hynny drwy wrando ar ein rhieni maeth a’u cynnwys wrth siapio’r dyfodol. Er dyfodol gwell, a chanlyniadau gwell i blant a rhieni maeth – dwedwch eich dweud.  Byddwch yn rhan o’r ateb i wella pethau gyda’n gilydd.

“Mae llawer rydyn ni eisiau ei wneud, i wneud gofal maeth yn well i’n plant a rhieni maeth.  “Drwy wrando ar ein rhieni maeth, gallwn ni flaenoriaethu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.  Mae 22 awdurdod lleol Cymru ar y cyd dan faner Maethu Cymru’n gallu newid pethau”

Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru

felly, beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu gyda’r awdurdod lleol ac asiantaeth faethu?

Y prif wahaniaeth rhwng maethu gyda’r awdurdod lleol ac asiantaeth faethu yw bod gan awdurdodau lleol blant iau yn gyffredinol (a phob oedran arall hefyd), mae rhieni maeth yn cael cymorth ariannol ond nid er elw, mae pawb yn yr un sefydliad, ac mae popeth yn lleol ac yn gyfleus i chi. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am y plant, ac yn aml mae ein gweithwyr cymdeithasol yn adnabod teuluoedd cyn i’r plant ddod i ofal ac yn parhau i gynorthwyo plant pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r teulu.

dod o hyd i wasanaeth maethu awdurdod lleol

Cysylltwch â’r tîm lleol. Chwiliwch drwy ein map o wasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru.  Neu gliciwch ar logo eich awdurdod lleol isod.

Story Time

Stories From Our Carers