Mae Sophia Warner, sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn myfyrio ar ei phlentyndod mewn gofal maeth a’r gwelliannau i’r gwasanaeth ers hynny.
Ti’n wyth oed, ti a dy siblingiaid yn mynd i ofal maeth eto. Ti’n teimlo’n hapus, ti’n edrych ‘mlaen at gael rhywfaint o sefydlogrwydd, diogelwch, ond mae’r rhan fach yna ohonot ti’n dal i deimlo’n ofnus. Dwyt ti ddim yn gwybod gyda pwy rwyt ti’n mynd i fyw, na ble.
Dyma beth brofodd Sophia Warner, 30 oed, 22 mlynedd yn ôl. Dim ond dwy oed oedd hi pan gafodd brofiad o ofal maeth am y tro cyntaf ac roedd hi’n wyth oed pan ddaeth yn beth parhaol.
“Pan ti’n cael dy roi mewn gofal maeth, mae’n gallu bod yn frawychus. Gall dy bryder fod yn enfawr achos dwyt ti ddim yn gwybod i ble rwyt ti’n mynd na ble fyddi di. Ac mae hynny’n lot i blentyn ei brofi. Dwi dal i gofio’r teimlad o sefyll tu allan i ddrws ffrynt rhywun dieithr, ‘y nghalon i’n curo’n mor gyflym nes y gallen i ei glywed yn ‘y mhen,” meddai Sophia.

Mae Sophia yn rhannu ei phrofiad o ofal maeth fel llysgennad Maethu Cymru wrth i’r rhwydwaith o awdurdodau lleol ddathlu ei ben-blwydd yn bump oed.
Sefydlwyd Maethu Cymru yn 2021 fel cydweithrediad dielw o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn ogystal â chanolbwyntio ar wella recriwtio a chadw gofalwyr maeth, un o brif nodau’r sefydliad yw sicrhau y gall plant aros yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae 84% o blant mewn gofal awdurdod lleol wedi aros yn lleol o’i gymharu â 32% mewn asiantaethau maethu masnachol.
Wrth fyfyrio ar ei stori, dywedodd Sophia: “Buodd fy nhad geni farw pan oeddwn i’n bum mlwydd oed. Doedd e’ ddim yn rhan fawr o ‘mywyd i, a dwi ddim yn ei gofio, ond dwi’n gwybod ei fod yn dreisgar iawn, roedd yn alcoholig.
“Yn dilyn marwolaeth fy nhad geni, gofalodd fy mam geni amdanon ni, ond yn anffodus roedd hi’n dioddef yn wael gyda’i hiechyd meddwl. Doedd hi methu gofalu amdanon ni ac, wrth dyfu lan, fe welais i lot o bethau na ddylai plentyn byth eu gweld.
“Yn y bôn, ro’n i’n gwybod y byddai hyn yn fy achub i ac yn newid cwrs ‘y ‘mywyd i. Ro’n i’n teimlo mod i jest angen bod yn blentyn am unwaith, a ddim bod yn ofalwr i fy mam geni, ro’n i angen normalrwydd yn fy mywyd. Do’n i methu gofalu am fy mam, dim ots faint ro’n i’n ei charu hi. Ro’n i angen magwraeth dda, dillad cynnes a chartref diogel.”

Fodd bynnag, ychydig a wyddai Sophia y byddai symud i leoliad gofal maeth parhaol yn nodi dechrau cyfnod o gael ei gwahanu oddi wrth ei siblingiaid.
“Ro’n i a fy siblingiaid wedi ein gwahanu a hynna oedd un o’r pethau anoddaf i fi byth fynd drwyddo. Nhw oedd ‘y ngwreiddiau i, nhw oedd ‘y myd i a nhw oedd ‘yn angor i, ac achos eu bod nhw wedi’u gwahanu oddi wrthai, ro’n i’n teimlo fel ‘mod i wedi colli pwy o’n i.”
Symudwyd Sophia, sy’n wreiddiol o Aberhonddu ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ddwy awr i ffwrdd o’i siblingiaid. Base nhw’n cwrdd yn wythnosol; fodd bynnag, roedd Sophia yn dioddef o salwch teithio a byddai’n treulio’r awr werthfawr yna gyda’i siblingiaid yn ceisio gwella. Dros y blynyddoedd, diflannodd yr amser hwn gyda’i siblingiaid, a collodd Sophia gysylltiad â nhw.
“Fel unigolyn sydd â phrofiad o fod mewn gofal, dwi mor falch o weld bod Maethu Cymru yn helpu plant i aros yn lleol. Base hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fi.”
Menter arall a gyflwynwyd gan Maethu Cymru y mae Sophia wedi’i chanmol yw The Big Welcome, proffil gwe rhyngweithiol lle gall teuluoedd maeth rannu gwybodaeth gyda phlant amdanyn nhw eu hunain a’u cartref – gan gynnwys lluniau o aelodau’r teulu, anifeiliaid anwes, a’r cartref ei hun. Mae’n rhoi cyfle i blant ddysgu am ble maen nhw’n mynd cyn iddyn nhw gyrraedd yno.
“Byddai rhywbeth fel porth The Big Welcome wedi bod o bwys i fi wrth dyfu lan. Gweld wyneb cyn cyrraedd, clywed llais, gwybod un neu ddau beth am y bobl a’r cartref. Dyw e’ ddim yn cael gwafred o’r ofn yn llwyr, ond mae’n rhoi darlun cliriach i ti. Rhywbeth i gydio ynddo.”
Cafodd Sophia ei chefnogi trwy gydol ei haddysg gan ei theuluoedd maeth, ac aeth ymlaen i fynychu’r brifysgol gyda gradd israddedig ac MA mewn celf. Mae hi dal yn agos at ei theulu maeth a’i siblingiaid maeth, ac yn mynd ar wyliau gyda nhw o bryd i’w gilydd.
Mae hi bellach yn gweithio fel gweithiwr preswyl plant tra’n cydbwyso ei brwdfrydedd a’i gyrfa hunangyflogedig fel darlunydd.

“Dwi’n credu bod gan lawer o bobl stereoteip o blant sy’n tyfu lan mewn gofal. Maen nhw bob amser yn meddwl ei fod yn beth llwm. Ond dwi’n credu taw harddwch tyfu lan o fewn gofal maeth yw bod ‘da fi’r pŵer i siarad ag unrhyw un nawr gan ‘y mod i wedi gorfod addasu i’r holl bersonoliaethau gwahanol hyn wrth dyfu lan.
“A doedd popeth ddim yn ddu. Ces i brofiad da iawn wrth dyfu lan mewn gofal maeth. Ces i ddau deulu maeth anhygoel sydd wedi llunio fy myd ac wedi gwneud i fi gredu mwy yndda i fy hunan.
“O’n i arfer teimlo lot o gywilydd wrth dyfu lan mewn gofal maeth, ond nawr wi’n ymfalchïo ynddo fe. Os y galla i oroesi hynna, gallai oroesi unrhyw beth. Ac mae wedi rhoi’r hyder i fi ffynnu yn y byd yn bendant.”
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, siaradwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol.