Maethu Cymru

llwyddiannau maethu: stori sam

‘Roedd yr amgylchedd ro’n i’n byw ynddo yn llawn anrhefn, yn dreisgar, ac yn esgeulus. Achubodd Gofal Maeth Awdurdod Lleol ‘y mywyd i’

Yn dair oed, roedd Sam Gardner yn bwyta pob pryd bwyd mor gyflym ag y gallai.

Roedd newydd gael ei leoli gyda’i deulu maeth cyntaf, ar ôl profi dechrau cythryblus mewn bywyd gyda’i rieni geni.

Hyd at y pwynt yna, dywedodd ei fod wedi’i “fagu ar fisgedi a losin.”

“Cymerodd fisoedd i fi sylweddoli a deall y byddai bwyd ar gael eto.”

Yn ôl Sam, roedd yr hyn wnaeth e’ brofi yn y blynyddoedd cynnar yna, “yn debyg i raglen ddogfen Netflix.” Roedd yn byw gyda’i rieni a thri o siblingiaid eraill mewn cartref llawn trais domestig, trosedd a chyffuriau.

Wrth fyfyrio ar ei flynyddoedd cynnar, dywedodd Sam: “Yn ddiweddar, ges i fynediad i’n ffeiliau gofal. […] yn y ffeiliau, mae’n dweud bod ‘y ngwallt i’n eitha’ tenau gan nad o’n i wedi cael fy ‘molchi’n iawn, ro’n i’n frwnt, gyda chnoadau chwain dros ‘y nghoesau i gyd. Roedd da fi ddolur rhydd oherwydd nad o’n i erioed wedi bwyta ffrwythau a llysiau o’r blaen, do’n i heb gael y ffibr iawn yn fy neiet. Ro’n i’n ymosodol, yn grac, ac yn rhegi drwy’r amser.”

Sam gardner

Ond mae Sam yn dweud bod ei fywyd wedi newid pan gafodd ei leoli gyda’i deulu maeth awdurdod lleol cyntaf. Am y tro cyntaf, mae’n cofio teimlo ei fod yn cael ei garu.  

“Rhoddodd fy rhieni maeth strwythur a threfn i ‘mywyd i, a darparu normalrwydd yn araf bach. Dechreuais i wneud yn dda yn yr ysgol, fe wnaethon nhw sylwi ar ‘y mhotensial i, a gwellodd fy sgiliau darllen.’

“Fe wnaethon nhw weld cynnydd aruthrol gan ‘y ‘mod i yn yr amgylchedd iawn. A dyna un o’r negeseuon pwysig wi am rannu gyda rheni maeth, gallwch chi ddarparu amgylchedd i ni dyfu ynddo, ble na allen ni dyfu o’r blaen.”

Bu Sam, sydd bellach yn 33 oed, yn byw gyda nifer o ofalwyr maeth hyd nes iddo fynd i’r brifysgol yn 18 oed. Aeth ymlaen i fod yn athro ysgol gynradd, ac fel llawer o oedolion sydd â phrofiad o’r system gofal maeth, mae wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn wynebu a goresgyn y trawma a brofodd fel plentyn. Mae bellach yn rhannu ei brofiad o ofal gyda miloedd o ddilynwyr ar ei gyfrif TikTok, @lessonsfromcare, gan gysylltu ag oedolion eraill sydd â phrofiad o ofal, plant sydd yn y system ar hyn o bryd, gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol. Mae Sam, sydd bellach yn byw yn Abertawe ond a fagwyd ym Mro Morganwg, yn gobeithio trwy rannu ei stori, y gall helpu eraill sydd wedi, ac sy’n profi sefyllfaoedd tebyg o hyd.

Mae Sam yn rhannu ei stori i ddangos pa mor bwysig y mae’r eiliadau bach yna i blant mewn gofal maeth.

“Does dim rhaid i ofalwyr maeth fod yn archarwyr, does dim angen iddyn nhw fod yn fodau hudolus, does dim rhaid iddyn nhw fod yn berffaith. Maen nhw jest angen darparu diogelwch, diogelwch emosiynol, ond diogelwch corfforol hefyd.”

Mae Sam eisiau i’w stori ysbrydoli darpar ofalwyr maeth i weithio gyda Maethu Cymru. Mae eisiau i fwy o bobl wybod, os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon am faethu, y gall yr hyfforddiant, y gefnogaeth a’r gymuned gywir o ofalwyr maeth awdurdod lleol eu helpu i wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc.

Wrth fyfyrio ar ei berthynas â’i rieni geni, disgrifiodd Sam y cyswllt fel un “achlysurol”, cyn i’r ddau farw.

Mae ffeiliau gofal Sam yn disgrifio sut yr oedd gan ei fam ddisg o’i le yn ei chefn, a olygai ei bod yn delio â llawer o boen. Daeth yn ddibynnol ar bethau i leddfu poen a thabledi cysgu, cyn i gyffuriau caletach gael eu cyflwyno.

Mae ei ffeiliau gofal yn disgrifio sut roedd ei fam yn adnabyddus am ddwyn o siopau, er mwyn talu am ei dibyniaeth ac i ddarparu ar gyfer y plant. Mae’r ffeiliau hefyd yn disgrifio sut y cafodd Sam ei anfon i feithrinfa heb ddillad priodol, yn frwnt gan nad oedden nhw wedi cael eu golchi’n iawn.

Bu farw ei fam pan oedd Sam yn 25 oed. “Dwi’n credu bod mam yn ‘y ngharu i; doedd hi jest methu rhoi beth oedd ei angen arnai.” Mae gen i gymaint o gariad a thrugaredd tuag ati,” meddai.

Bu farw tad Sam pan oedd yn 16 oed, tua’r un adeg ag y symudodd Sam at ofalwr maeth newydd. Mae’n cofio hyn fel un o flynyddoedd anoddaf ei fywyd. Serch hynny, fe’i cymhellodd i weithio’n galed yn yr ysgol a gwireddu ei freuddwyd o fod yn athro.

“Wi’n cofio meddwl, wi wedi colli dad, dyw e ddim yn dod i’n achub i. Beth alla i ei reoli? Fy addysg. Roedd da fi athrawon anhygoel, roedd yna weithwyr cymdeithasol anhygoel, ac roedd fy ngofalwr maeth nesaf yn anhyoel. Nhw oedd y gwahaniaeth a dweud y gwir, i fy ngwthio i fynd i’r brifysgol oherwydd ro’n i mewn lle ofnadwy [yn emosiynol]. Ro’n i’n blentyn dwfn iawn, yn gor-feddwl, a jest angen bach o anogaeth.”

Disgrifiodd ei deulu maeth olaf, fel “legends”. Dywedodd Sam: “Y peth cyntaf y dywedodd [tad maeth] wrtha i oedd ‘Cofia drin y tŷ yma fel dy un di.’ Yn amlwg, roedd yna ffiniau, ond ces i fy nhrin yn ôl fy oedran, ces i ychydig o ryddid. Ro’n i’n cael fy nhrin fel rhywun 17 oed.

“Fe ‘naethon nhw gael fy swydd gynta i fi, mewn tafarn leol; rhoddon nhw le i fi fod, a chanolbwyntio ar fy Lefel A, a mynd i’r brifysgol. Ro’n i wastad wedi eisiau bod yn athro, ac fe wnes i weithio’n galed i gyflawni hynna.”

Mae Sam wedi cadw mewn cysylltiad â’r teulu yna ac wedi ymweld â nhw yn eu cartref newydd yn Sbaen ychydig flynyddoedd ar ôl gadael eu gofal. Cafodd ofal gan tua 15 o deuluoedd maeth trwy gydol ei amser yn y system ofal, gan aros gyda phum gofalwr maeth am ychydig flynyddoedd neu fwy.

Mae Sam yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu i wneud ymholiadau. Pwysleisiodd fod teimlo’n nerfus am y broses yn beth da.

“Y gofalwyr maeth gorau yw’r rhai sydd ychydig yn nerfus, yn hunanfeirniadol, yn hunanfyfyriol, yn poeni y byddan nhw’n gwneud camgymeriad, oherwydd nhw yw’r rhai sydd wirioneddol yn gofalu ac mae’n dangos eich bod chi’n deall y cyfrifoldeb o ddod yn ofalwr maeth. Mae’n fraint enfawr ond mae hefyd yn gyfrifoldeb enfawr.

“Yr ail beth fasen i’n gweud yw’r gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud. Ac mae hynna’n rhan o fy stori i, yn mynd o’r amgylchedd gyda fy mam, i fy rhieni maeth, gwelais i gynnydd go iawn. Dyna beth allwch chi ei roi i blentyn. Rydych chi’n llythrennol yn newid bywyd rhywun.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Sam ac eisiau dysgu mwy am faethu gyda’ch awdurdod lleol, ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/eich-awdurdod-lleol/

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn