blog

canllaw darllen maethu cymru: ein hoff lyfrau ar faethu

pam y gall codi llyfrau ar faethu achubwr bywyd

Gall maethu fod yn dipyn o rollercoaster.  P’un a ydych chi newydd ddechrau meddwl am ddod yn ofalwr maeth neu wedi bod â thŷ llawn ers blynyddoedd, mae yna rywbeth newydd i’w ddysgu o hyd.

Weithiau, gall y llyfrau iawn am faethu deimlo fel achubiaeth. Gallant eich helpu i wneud synnwyr o ddiwrnod anodd, rhoi moment “bwlb golau” i chi am ymddygiad plentyn, neu yn syml gall eich atgoffa eich bod chi’n gwneud gwaith gwych. Yn Maethu Cymru, rydyn ni’n canolbwyntio ar eich cefnogi chi, ac mae’r llyfrau maethu hyn fel cael ffrind arbenigol ar eich silff lyfrau.

ein llyfrau gofal maeth a argymhellir

1. the body keeps the score

Awdur: Bessel van der Kolk

Ar gyfer pwy mae o? Unrhyw un sydd am ddeall sut mae trawma’r gorffennol yn glynu gyda ni.

Mae’r llyfr hwn am ofal sy’n seiliedig ar drawma. Mae’n esbonio sut mae plant yn cario profiadau’r gorffennol yn eu cyrff, nid dim ond eu pennau.  Os ydych chi erioed wedi meddwl pam mae plentyn yn ymateb yn gryf i rywbeth sy’n ymddangos yn fychan, dyma un o’r llyfrau gofalwyr maeth sy’n eich helpu i weld beth sy’n digwydd o dan yr wyneb.

2. kids in care… how can I help?

Awdur: Jane Keenan

Ar gyfer pwy mae o?  Gofalwyr maeth, timau gwaith cymdeithasol, rheolwyr, athrawon neu unrhyw un yn y maes maethu sy’n chwilio am gyngor siarad plaen.

Dyma ganllaw hyfryd, hawdd ei ddilyn sy’n eich tywys trwy’r system faethu mewn arddull sgwrsiol ac yn symleiddio jargon dryslyd.  Darllenadwy mewn penwythnos neu dros ychydig nosweithiau, mae Jane yn defnyddio enghreifftiau a phrofiad personol i ddatgelu effaith trawma ar blant a’r perthnasoedd, y gonestrwydd a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar blant gan yr oedolion sydd o’u cwmpas.

Jane Keenan Book

3. trauma-informed parenting in action

Awdur: Suzanne Scott

Ar gyfer pwy mae o?: Teuluoedd maethu sy’n delio ag emosiynau mawr neu niwrowahaniaeth. Mae hwn yn ganllaw ymarferol i deuluoedd sy’n cynnig awgrymiadau yn y byd go iawn ar gyfer rhianta plant a allai weld y byd ychydig yn wahanol oherwydd trawma neu niwrowahaniaeth.

llyfrau i ddechreuwyr am ddod yn ofalwr maeth

deg peth y mae pob plentyn maeth yn dymuno i chi eu gwybod

Awdur: Rowan Aderyn

Ar gyfer pwy mae o?: Unrhyw un sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth?

Mae hwn yn ddarllen ymarferol angenrheidiol i unrhyw un sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth. Mae’n llawn mewnwelediadau uniongyrchol o safbwynt y plentyn (bellach yn oedolyn â phrofiad o ofal). Mae’r 10 peth mor syml ond mor bwysig.  O ddeall pam y gallai plant feddu ar ddiffyg ymddiriedaeth mewn eraill, gwthio cariad i ffwrdd, peidio â chredu addewidion, canfod ‘mwg’ rhybuddiol ymhell cyn i unrhyw beth drwg ddigwydd, meddu ar allu anhygoel i ddarllen ystafell, a glynu at unrhyw arwydd o garedigrwydd ond hefyd amddiffyn eu hunain rhag cael eu brifo eto.  Mae Rowan yn disgrifio gofal maeth fel “nid yn unig iddo achub fy mywyd – rhoddodd deulu, dyfodol, a rhodd ddiderfyn posibiliadau i mi.”

welcome to fostering: a guide to becoming and being a foster carer

Awdur: Martin Barrow ac Andy Elvin

Ar gyfer pwy mae o?: Anyone considering becoming a foster carer

Mae Martin Barrow yn enw adnabyddus ym myd maethu.  Newyddiadurwr, awdur a gofalwr maeth awdurdodau lleol ers dros 17 mlynedd.  Mae’r llyfr hwn yn esbonio’r camau hanfodol wrth ddod yn ofalwr maeth.

blame my brain gan Nicola Morgan

Maethu yr arddegau? Byddwch chi angen hwn! Mae’n esbonio’r “safle adeiladu” sef ymennydd yr arddegau mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr.

llyfrau am drawma ac ymlyniad

Mae dysgu gwybodaeth ddefnyddiol o lyfrau ymlyniad yn ffordd wych o helpu plentyn i deimlo’n ddiogel ac o gael eu caru.

the A-Z of therapeutic parenting gan Sarah Naish

Meddyliwch am hwn fel eich “llawlyfr maethu brys”. Gallwch chi droi i’r dudalen sydd ei hangen arnoch pan fydd mater penodol yn ymddangos.  Mae hwn yn ganllaw ymarferol, hawdd ei lywio sy’n helpu rhieni maeth i ddeall ac ymateb i ymddygiadau heriol mewn plant sydd wedi profi trawma. Mewn fformat A-Z, mae Sarah Naish yn cynnig esboniadau clir a strategaethau cam wrth gam ar gyfer sefyllfaoedd bywyd go iawn gydag ymagwedd dosturiol, sy’n canolbwyntio ar empathi, cysylltiad, ac ar adeiladu perthnasoedd cryfach.

the simple guide to attachment difficulties in children gan Betsy de Thierry

Pam fod rhai plant yn ei chael hi’n anodd ymddiried a sut y gallwch eu helpu

everyday parenting with security and love gan Kim S. Golding

Mae hwn yn canolbwyntio ar “PACE,” ffordd o rianta sydd yn chwareus a gydag empathi sy’n adeiladu ymddiriedaeth.

straeon go iawn: awduron sy’n ofalwyr maeth a lleisiau â phrofiad o fod mewn gofal

Does dim byd tebyg i glywed gan bobl sydd wedi bod yno mewn gwirionedd.  Mae’r awduron gofalwyr maeth a’r awduron a phrofiad o fod mewn gofal hyn yn ei dweud hi fel y mae.

looked after: a childhood in care gan Ashley John-Baptiste

Mae Ashley yn rhannu ei stori ei hun o dyfu i fyny yn y system.  Mae’n ein hatgoffa’n bwerus o pam mae cartref maeth sefydlog, cariadus mor bwysig.

the lightless sky gan Gulwali Passarlay

Mae’r stori gwirioneddol bwerus, The Lightless Sky yn dilyn taith beryglus bachgen 12 oed o Afghanistan sy’n ffoi rhag rhyfel ar ei ben ei hun, gan ddatgelu realiti llym yr argyfwng ffoaduriaid trwy lens dynol iawn. Yn dorcalonnus ac yn obeithiol, mae’n dangos sut y gall gwytnwch, caredigrwydd a chariad arwain at ddiogelwch, perthyn, a bywyd newydd.

what I wish my teacher knew gan Sam Gardner

Bu Sam, sydd bellach yn 33, yn byw gyda sawl gofalwr maeth nes iddo fynd i’r brifysgol yn 18 oed.  Aeth yn ei flaen i fod yn athro ysgol gynradd ac awdur. Mae bellach yn rhannu ei brofiad o ofal gyda miloedd o ddilynwyr ar ei gyfrif TikTok, @lessonsfromcare

llyfrau newydd

Wedi darllen pob un o’r rhain?

first time fostering gan Laura, partner y rhiant maeth

Rydym yn edrych ymlaen at ddarllen llyfr newydd Laura.  Mae Laura yn ail-greu rhai sefyllfaoedd gwych o faethu gydag awgrymiadau a chyngor ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae hi bellach wedi crynhoi’r cyngor hwnnw mewn llyfr.

Laura Foster Parent Partner

i’n ddarllenwyr cymraeg

Mae gennym rai llyfrau hyfryd am ofal maeth yn y Gymraeg i helpu’r rhai bach yn eich gofal i brosesu eu teimladau.

  • Dafydd a Dad, Manon Steffan Ros, Un rhiant (Rhianta sengl)
  • Het Gynnes Tad-Cu, Malachy Doyle, Colled (Colled/galar)
  • Y Goeden Gofio, Britta Teckentrup, Colled (Cof/colled)
  • Mae Mam ar Goll, Julia Donaldson, Ar goll (Gwahanu/colled)

pam mae dysgu yn bwysig fel gofalwr maeth

Mae pob plentyn yn wahanol ac yn dod â’i set ei hun o brofiadau ac ymddygiadau unigryw.  Nid yw gwybodaeth am sut i faethu plant yn dod mewn potel.  Mae’n rhywbeth rydych chi’n ei ddysgu dros amser, ynghyd â phrofiad, hyfforddiant a chefnogaeth. 

Mae ein dull o hyfforddi yn golygu bod pob math o ffyrdd i ddysgu.  Gall darllen llyfr a myfyrio ar sut y gallech ddefnyddio awgrymiadau a thechnegau gyda phlentyn rydych chi’n gofalu amdano fod yr un mor werthfawr ag eistedd mewn ystafell ddosbarth.  Dyna pam mae ein dull o ddysgu a datblygu yn golygu y gallwch gofnodi eich darllen (neu wylio gweminarau) yn eich cofnod hyfforddi.

ydych chi’n meddwl am ddod yn ofalwr maeth?

Os yw’r straeon hyn wedi gwneud i chi feddwl am faethu, byddem wrth ein bodd yn sgwrsio. Nid oes rhaid bod yr holl atebion gennych – mae angen i chi fod yn barod i ddysgu a thyfu ynghyd â’r plant rydych chi’n gofalu amdanynt.

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf?   Cysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol heddiw i ddarganfod mwy am ymuno â’n cymuned.

Story Time

Stories From Our Carers