Mae mynd i mewn i ofal yn beth mawr ym mywyd unrhyw berson ifanc. Mae llawer yn profi newid a cholled na all ei gymharu ag unrhyw beth arall.
“Mae pob ffrind, pob athro, pob ysgol, a phob cartref yn golled, ac ry’n ni am leihau hynna cymaint â phosibl,” eglurodd y gofalwr maeth, Kirsty Williams.

Dywedodd Kirsty, sy’n maethu gyda Maethu Cymru Ynys Môn: “Mae’n bwysig cadw’r parhad hwnnw, fel nad yw’r plant yn profi cymaint o golled.”
Dechreuodd Kirsty a’i gŵr faethu 12 mlynedd yn ôl, wedi’u hysbrydoli gan fam Kirsty sydd hefyd yn ofalwr maeth. Dechreuon nhw ar eu taith faethu yn gofalu am blant dros dro ar benwythnosau, cyn iddyn nhw symud ymlaen i ofal maeth llawn amser.
Wrth sôn am fanteision maethu awdurdod lleol, disgrifiodd Kirsty sut y gall helpu gofalwyr maeth i feithrin cysylltiadau cryf â’u plant maeth.
Dywedodd: “Roedd ein mab maeth cyntaf o’r un dref â fy ngŵr, felly roedd yn gallu mynd ag ef o gwmpas y dref a dangos gwahanol ardaloedd iddo ac fe wnaethon nhw greu cysylltiad drwy atgofion – atgofion gwahanol – ond atgofion yr un fath.”
Esboniodd Kirsty ei bod yn parhau i gynnal perthynas â phlant sydd wedi bod yn ei gofal hyd heddiw gan eu bod dal i fod yn yr un gymuned leol. Dyma hi’n cyfarfod â rhai o’r plant hynny, ynghyd â’i phlant maeth presennol, mewn gweithdy celf yng Nghlwb Criced Porthaethwy a gynhaliwyd gan Mary Ainsworth, a fagwyd o fewn gofal maeth.

Gan siarad am ei phrofiad, dywedodd Mary: “Roeddwn i’n bump oed pan es i i ofal. Cyrhaeddais gyda’r dillad roeddwn i’n eu gwisgo a fy mag bach o bensiliau lliw, a dwi heb eu gollwng ers hynny mewn gwirionedd.
“Mae’n gylch cyflawn i mi; mae mynd o fod yr artist ifanc i fod yma a chyflwyno’r gweithdy gyda’r plant hyn wir yn arbennig.”
Esboniodd Mary fod aros yn yr ardal leol pan yn mynd i mewn i’r system ofal fel plentyn “yn dy angori.”
“Ti’n gwybod o ble ti’n dod ac mae dy amgylchedd yn teimlo’n gyfarwydd. Os nad oes gen ti hynna, ti’n teimlo’n allan o le yn sydyn ac yn colli’r cysylltiadau hynny os wyt ti’n symud i ffwrdd.”

Gofynnwyd i blant yn y gweithdy celf greu darn o waith sy’n eu hatgoffa o gartref. Creodd y grŵp o 12 o blant ddau gynfas sy’n cynrychioli elfennau o’u byd, o’r ci maen nhw’n ei garu, cymdogion, teulu, ffrindiau, hobi neu hoff le i ymweld ag ef fel y traeth a’r olygfa o’r mynyddoedd o’r ffenestr sy’n teimlo fel cartref.
Cafodd y gwaith celf a grëwyd yn ystod y gweithdy ei arddangos ar stondin Maethu Cymru ac ar stondin Cyngor Sir Ynys Môn yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn Ynys Môn, rhwng 23 a 29 Mai.
