Mae maethu babi yn ffordd bwerus o newid bywyd o’r cychwyn cyntaf. I lawer o bobl, y syniad o ofalu am fabi yw’r peth cyntaf sy’n sbarduno diddordeb mewn maethu. A gan fod 4% o’r holl blant sydd mewn gofal yng Nghymru o dan 1 oed (Llyw.cymru 2024), mae angen y gofalwyr maeth hynny arnom sy’n barod i gynnig cartref diogel a chariadus i fabanod dros y tymor byr.
Os ydych chi’n ystyried a allai maethu babi fod yn iawn i chi, mae’r canllaw hwn yn esbonio beth i’w ddisgwyl, y gefnogaeth sydd ar gael, a pham mae hyblygrwydd yn allweddol.
beth mae maethu babi yn ei gynnwys?
Mae maethu babi yn golygu cynnig cysur, cysondeb a gofal ar adeg dyngedfennol yn ei fywyd. O’i fwydo a’i roi i gysgu, i ymateb i’w grio a’i giwiau, byddwch chi’n helpu babi i deimlo’n ddiogel ac yn gysurus mewn byd anghyfarwydd. Gall babanod ddod i’ch gofal yn sydyn, felly mae amynedd, cynhesrwydd a hyblygrwydd yn allweddol.
Er y gall maethu babanod fod yn hynod werth chweil, mae’n aml yn dod law yn llaw â realiti nad yw pobl bob amser yn ei ddisgwyl. Bod yn agored am y realiti hynny yw un o’r ffyrdd pwysicaf o helpu darpar ofalwyr i deimlo’n hyderus, yn barod a’u bod yn cael eu cefnogi.
“Rwy’n credu fy mod i wedi dysgu mwy ers i ni ddechrau maethu babanod na wnes i erioed o’r blaen mewn bron i 22 flynedd o faethu, a hyd yn oed mwy nag y dysgais yn magu fy nwy ferch fy hun. A dyw’r dysgu ddim yn stopio; rwy’n dal i ddarganfod mwy bob dydd. Fyddech chi ddim yn meddwl y gallai babi ddysgu cymaint i chi! Rydw i wedi mwynhau pob munud – mae wedi bod yn bleser llwyr.”
Viv, Gofalwr Maeth

pam mae maethu babanod yn bwysig
Mae’r blynyddoedd cynnar yn hynod bwysig i ddatblygiad meddyliol a chorfforol plentyn. Mae’n amser pan mae babanod yn meithrin sgiliau sylfaenol fel cyfathrebu, ymddiriedaeth, rheolaeth emosiynol ac ymlyniad. Bydd bod yn bresennol ar gyfer y cerrig milltir hyn a mynd ar hyd taith y plentyn yn arwain at fuddion hirdymor iddo drwy gydol ei oes.
Mae’n bwysig deall y gall babanod maeth gyrraedd gofal maeth heb lawer o rybudd a gallai fod ganddynt hanesion cymhleth. Gall eich gofal, eich amynedd a’ch cysondeb eu helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu deall – sbringfwrdd ar gyfer perthnasoedd cadarnhaol yn y dyfodol.
“Beth bynnag y mae plant wedi’i brofi yn y gorffennol, maen nhw’n dechrau cysylltu gwahanol brofiadau ac arferion newydd gyda’u teuluoedd maeth.”
Jennie, Gofalwr Maeth
a oes angen ystafell sbâr arnaf?
Cwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml yw a oes angen ystafell sbâr arnoch i faethu. Er bod babanod yn gallu cysgu mewn crud yn eich ystafell wely yn ystod y misoedd cyntaf, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn mynnu bod gofalwyr maeth yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ystod ehangach o oedrannau, nid babanod yn unig. Oherwydd hyn, maen nhw fel arfer yn disgwyl bod gennych ystafell wely sbâr ar gael.
Felly, er nad oes angen ystafell ei hun ar fabi ar unwaith a gall rannu’ch ystafell yn ddiogel am gyfnod, bydd angen eu gofod eu hunain ar blant maeth yn y pen draw. Mae hyn yn golygu bod ystafell wely sbâr yn hanfodol i gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth yn y rhan fwyaf o achosion, hyd yn oed os ydych chi’n gobeithio gofalu am fabanod i ddechrau. Mae gadael i blant dyfu i mewn i ystafell eu hunain yn rhan bwysig o ddarparu sefydlogrwydd a lle iddynt ddatblygu.
pwy all faethu babanod?
Gall unrhyw un o ystod eang o gefndiroedd faethu babanod, ac nid oes un “math” penodol o berson sy’n addas ar gyfer y rôl. Gall gofalwyr maeth fod yn sengl neu mewn cwpl, yn rhentu neu’n berchen ar eu cartref, ac efallai bydd ganddyn nhw eu plant eu hunain. Yr hyn sydd bwysicaf yw’r gallu i ddarparu amgylchedd diogel, sefydlog a meithringar, ynghyd â’r amser, yr amynedd a’r ymrwymiad i ddiwallu anghenion y plentyn.
Er y gall profiad o ofalu am blant ifanc – boed hynny fel rhiant, mewn rôl gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar, neu gymorth teuluol anffurfiol – helpu darpar ofalwyr maeth i deimlo’n fwy hyderus wrth ddeall anghenion babi ac ymgartrefu yn y rôl, nid yw’n ofynnol. Mae gofalwyr maeth yn dod o bob cefndir, ac mae profiad bywyd, empathi, a pharodrwydd i ddysgu yr un mor bwysig â’r ystyriaethau ymarferol. Gyda’r hyfforddiant a’r gefnogaeth gywir, gall llawer o bobl na fyddent efallai’n ystyried eu hunain yn ofalwyr maeth i ddechrau fynd ymlaen i wneud gwahaniaeth sy’n newid bywyd i blentyn.
“Roeddwn i wedi bod yn nyrs feithrin ers dros 20 mlynedd, ac rwy wrth fy modd â phlant. A meddyliais i, ‘beth allwn i ei wneud a fyddai’n defnyddio’r sgiliau sydd gen i yn barod?’ A dechreuais chwilio yn Google am bopeth yn ymwneud â maethu ac a allwn i fod yn rhiant maeth fel rhiant sengl, ac es i o’r fan honno.”
Debbie, Gofalwr Maeth
amser, gwaith, a bywyd beunyddiol
Un o fanteision mwy ymarferol maethu babi yw pa mor hawdd maen nhw’n gallu ffitio i mewn i’ch bywyd pob dydd. Mae cwrdd â ffrindiau am ginio, mynd i’r archfarchnad, neu fynd allan ar daith fer yn aml yn symlach gyda babi, a all fel arfer ddod gyda chi. Nid oes unrhyw drafodaethau na gweithgareddau ar ôl ysgol i’w jyglo, a all weithiau ddod law yn llaw â gofalu am blant hŷn.
Wedi dweud hynny, mae’n bwysig cofio bod maethu babi o hyd yn gofyn i chi fod yn hyblyg. Pan fydd babi yn eich gofal, efallai y bydd yn cwrdd yn rheolaidd gydag aelodau o’i deulu, a gall hynny ddigwydd yn ddyddiol i ddechrau. Ac os taw mabwysiadu yw’r cynllun ar gyfer y plentyn, yna mae’r broses “cyflwyniadau” yn gyfnod dwys o baratoi plentyn i symud ymlaen i’w deulu mabwysiadol newydd, a all fod yn emosiynol i bawb dan sylw.
bod ar gael yn ystod y dydd
Un o elfennau pwysicaf maethu babanod yw amser. Mae angen i rywun fod ar gael yn ystod y dydd, gan na all babanod ffitio o amgylch amserlenni gwaith na dibynnu ar feithrinfeydd a gofal dydd traddodiadol. Mae maethu babanod yn gofyn i ofalwyr feithrin perthynas a bod yn berson dibynadwy sy’n ymateb i’w hanghenion.
cydbwyso maethu â gwaith
Gall fod yn heriol cydbwyso maethu babanod ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith eraill, gan gynnwys gwaith shifft, ond mae modd gwneud hynny gyda chynllunio gofalus, hyblygrwydd a rhwydwaith cymorth dibynadwy. Mae rhai aelwydydd yn rheoli hyn trwy rannu gofal rhwng partneriaid neu aelodau dibynadwy o’r teulu am gyfnodau byr. Yr hyn sydd bwysicaf yw bod yn realistig ynglŷn â’r hyn y gellir ei reoli a sicrhau bod anghenion y babi bob amser yn dod yn gyntaf.
yr ochr emosiynol: meithrin perthynas a gadael fynd
Mae meithrin perthynas â babi yn eich gofal yn beth hyfryd ac emosiynol. Mae babanod yn ffynnu ar berthnasoedd agos, ac mae maethu yn golygu rhoi’r cynhesrwydd a’r sylw sydd eu hangen arnynt i ddatblygu ymddiriedaeth a diogelwch.
Ar yr un pryd, efallai y bydd amser yn dod pan fydd babi yn dychwelyd i’w deulu geni neu’n symud i gartref mabwysiadol. Mae gofalwyr maeth yn aml yn dweud mai dyma un o’r rhannau anoddaf o faethu, ond mae gwybod eich bod wedi helpu i osod y sylfaen ar gyfer dyfodol plentyn yn rhoi cysur mawr i lawer ohonynt.
Mae llawer o ofalwyr maeth yn cadw mewn cysylltiad â mabwysiadwyr neu deuluoedd biolegol ac yn parhau i fod yn rhan o fywyd y plentyn wrth iddo dyfu, gan gyfnewid cardiau pen-blwydd a diweddariadau bach ar hyd y ffordd. Peth meddylgar arall y mae gofalwyr maeth yn aml yn ei wneud yw creu blwch atgofion o bethau “cyntaf”, a all gynnwys lluniau a chofroddion arbennig sy’n nodi cerrig milltir fel camau cyntaf y plentyn a’r tro cyntaf iddo wenu a chwerthin.
“Mae pobl yn aml yn dweud na fydden nhw’n gallu maethu babanod oherwydd bydden nhw’n eu caru nhw gormod. Ond dyna’r holl bwynt. Mae’n rhaid i chi eu caru – yn llwyr ac yn ddiamod. Mae’n rhaid i chi fod y person sy’n rhoi’r diogelwch a’r sicrwydd hynny iddyn nhw, sy’n eu helpu i ffurfio ymlyniad diogel. Ac allwch chi ddim gwneud hynny heb syrthio mewn cariad â nhw. Ydy, mae’n brifo pan fyddan nhw’n gadael, oherwydd bod cariad yn brifo, ond mae’n hollol werth chweil.”
Trish, Gofalwr Maeth
cynlluniau hirdymor ar gyfer babanod
Wrth faethu babanod neu blant bach, mae angen i ni feddwl am y cynllun tymor hwy a phwy sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu eu hanghenion hyd at oedolaeth.
Dyma beth ddylech chi ei ddisgwyl wrth faethu babanod:
1. Cartref adsefydlu i rieni
Wrth faethu babanod, mae’n bwysig cofio mai diogelwch y plentyn yw’r prif nod, ac fel gofalwr maeth, byddwch chi’n cynnig lloches ddiogel yn ystod cyfnod o angen. Yn ystod cyfnod y babi mewn gofal maeth, bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn aml yn gweithio gyda’r rhieni i wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn i’r plentyn gael gofal diogel cyn iddo ddychwelyd at ei rieni.
2. Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (GGA)
Efallai y bydd mam-gu neu dad-cu, modryb, ewythr neu ffrind agos i’r teulu yn gallu gofalu am y plentyn. Gall llys roi Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig i ganiatáu i aelod o’r teulu neu rywun sy’n agos at y plentyn ofalu amdano yn y tymor hir, gan gynnal cysylltiadau â’i deulu biolegol. Mae hwn yn ganlyniad cyffredin pan benderfynir na fydd y rhieni yn gallu darparu gofal digonol. Dyma un o’r canlyniadau mwyaf delfrydol i’r plentyn, gan ein bod yn credu ei bod yn bwysig i blant dyfu i fyny ochr yn ochr â theulu lle bo modd gwneud hynny’n ddiogel. Fodd bynnag, rydym yn deall bod gofalu am blentyn fel mam-gu neu dad-cu yn dod gyda’i heriau ei hun.
3. Mabwysiadu
Cafodd 254 o blant eu mabwysiadu o ofal yn 2023/2024. Roedd mwyafrif y plant a fabwysiadwyd rhwng 1 a 4 oed, ac mae’r rhan fwyaf yn cael eu mabwysiadu yn ystod eu blwyddyn gyntaf mewn gofal.
Nid yw maethu yn llwybr nodweddiadol i fabwysiadu plentyn. Fodd bynnag, mae cyfran fach o blant (16.5%) yn cael eu mabwysiadu gan eu cyn-ofalwyr maeth. Ond os ydych chi’n ystyried mabwysiadu, dylech gysylltu â’ch gwasanaeth mabwysiadu lleol yn y lle cyntaf.

paratoi i faethu babanod
Felly, sut brofiad yw paratoi i faethu babi mewn gwirionedd? Un o’r pethau pwysicaf i’w ddeall yw bod llawer o fabanod sy’n dod i ofal eisoes wedi profi trawma o ryw fath. Gall hyn fod yn gorfforol, yn emosiynol, neu’n ddatblygiadol, ac mewn rhai achosion, gall babanod fod wedi dod i gysylltiad â chyffuriau neu alcohol yn ystod beichiogrwydd a dangos arwyddion o ddiddyfnu neu syndrom alcohol y ffetws. Bydd eraill efallai wedi profi straen, esgeulustod, neu ansefydlogrwydd cyn iddyn nhw gael eu geni hyd yn oed, neu yn ystod dyddiau cynnar iawn eu bywydau.
Mae angen i ofalwyr maeth fod yn barod am yr hyn y gallent ei weld wrth gwrdd â babi am y tro cyntaf. Gallai hyn gynnwys ansicrwydd meddygol, oedi mewn datblygiad, neu ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrawma cynnar. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd gofyn i ofalwyr gasglu babi yn uniongyrchol o’r ysbyty neu oddi wrth ei fam fiolegol, a all fod yn emosiynol gymhleth ac, ar adegau, yn anghyfforddus. Gall yr adegau hyn deimlo’n lletchwith neu’n ddwys, yn enwedig i bobl nad ydynt wedi eu profi o’r blaen, ond maen nhw’n rhan go iawn o faethu babanod.
Nid yw bod yn barod ar gyfer y realiti hwn yn golygu gwybod yr atebion i gyd. Mae’n golygu deall bod maethu babi nid yn unig yn ymwneud â gofal a threfn, ond ag ymateb yn bwyllog ac yn dosturiol i brofiadau cynnar a allai fod eisoes wedi dylanwadu ar ddechrau’r plentyn hwnnw mewn bywyd. Gyda’r paratoad a’r gefnogaeth gywir, gall gofalwyr maeth ddarparu’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fabanod ar adeg hollbwysig.
Mae fframwaith dysgu a datblygu Maethu Cymru yn cynnig cyfleoedd gwych i chi ddysgu mwy am effaith camddefnyddio sylweddau, diddyfnu, a thrawma cynnar wrth ofalu am fabanod ifanc.
maethu rhiant a phlentyn
Ym Maethu Cymru, rydym hefyd yn cefnogi maethu rhiant a phlentyn, sef cefnogi babanod ochr yn ochr â’u rhieni.
Trwy’r math hwn o faethu, rydych chi’n helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, wrth ddysgu sgiliau newydd i rieni, cynnig clust i wrando a meithrin eu perthynas â’u plant. Nod y math arbenigol hwn o faethu yw i chi ofalu am rieni sydd wir angen cymorth, fel y gallant ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.
Efallai y bydd angen y math hwn o faethu ar rieni oherwydd diffyg cymorth gartref neu amgylchiadau anodd, a all yn aml arwain at angen iddynt gael cefnogaeth i ddarparu gofal diogel i’w babi. Mae’n bwysig peidio â beirniadu’r rhiant, ac rydym yn rhoi hyfforddiant helaeth i unrhyw un sydd â diddordeb yn y math hwn o leoliad maethu.

ydw i’n gymwys i faethu babi?
I ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru (a gweddill y DU), bydd angen i chi:
- Bod yn 18 oed o leiaf (er y bydd y rhan fwyaf o wasanaethau maethu yn gofyn i chi fod yn 21 oed) a bod â hawl i fyw yn y DU.
- Cwblhau asesiad maethu i sicrhau eich bod yn gallu darparu gofal sefydlog a meithringar.
- Bod â digon o amser, egni ac argaeledd emosiynol i ddiwallu anghenion baban.
Er bod cael rhwydwaith cymorth ac amgylchedd cartref diogel yn bwysig, nid oes angen i chi fod â phlant eich hun i fod yn ofalwr maeth da. Rydym yn credu’n gryf mai’r hyn sydd bwysicaf yw eich calon a’ch ymrwymiad i wella bywydau plant maeth.
cefnogaeth bob cam o’r ffordd
Rydym wedi cael llawer o straeon llwyddiant o ran maethu babanod, ac os ydych yn penderfynu maethu, rydym yn cynnig cymorth cynhwysfawr fel mynediad 24/7 at gyngor ac arweiniad, yn ogystal â hyfforddiant manwl. Mae croeso hefyd i chi ddod ag unrhyw rai bach y gallech fod yn gofalu amdanynt i’r rhan fwyaf o’r sesiynau cymorth hyn. Mae pawb wrth eu bodd â chwtsh!
Yn ogystal â hyfforddiant, rydym yn deall y gall sefyllfaoedd cymdeithasol fod yn fwy cymhleth nag y mae pobl yn ei ddisgwyl. Efallai na fydd grwpiau rhiant-a-babi traddodiadol bob amser yn teimlo’n gyfforddus neu’n gynhwysol i ofalwyr maeth, boed hynny oherwydd gwahaniaethau o ran oedran, profiadau bywyd gwahanol, neu ansicrwydd ynghylch yr hyn y gellir ei rannu. Gan gydnabod hyn, mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi datblygu cymorth a grwpiau wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer gofalwyr maeth â babanod, gan greu mannau lle mae gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi ac yn gallu magu hyder ochr yn ochr ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae eich plant eich hun (boed yn oedolion neu’n dal i fyw gartref) a’ch teulu ehangach i gyd yn gallu chwarae rhan wrth ofalu am fabi. O chwarae gyda theganau, gwylio rhaglenni teledu neu fynd i ôl pethau sydd eu hangen arnoch, mae pawb wrth eu bodd yn cynnig help llaw a chwtsh cyflym.
“Mae maethu babanod yn dod â ni’n agosach at ein gilydd fel teulu”
Jennie, Gofalwr Maeth

realiti maethu babanod
Mae’n hollol naturiol teimlo’ch hun yn cael eich denu at faethu babanod, ond mae’n bwysig cofio taw hwn yw un o’r mathau mwyaf poblogaidd o faethu. Mae hyn yn golygu, yn aml iawn, bod mwy o ofalwyr yn aros na babanod sydd angen gofal.
Mae’r mwyafrif o fabanod yn cael eu maethu gan ofalwyr maeth yr awdurdod lleol, felly os ydych chi’n awyddus i faethu babanod, eich tîm Maethu Cymru lleol fyddai’r dewis gorau. Ond nid yw hynny’n golygu bod babanod ar gael drwy’r amser. Nid oes llif cyson o fabanod yn cyrraedd. Yn hytrach, maen nhw’n dueddol o ddod mewn tonnau – cyfnodau lle mae angen gofal ar sawl babi ar yr un pryd, ac yna cyfnodau tawel hir. I bobl sydd ond eisiau maethu babanod, gall hyn olygu aros am amser hir heb faethu, a all fod yn rhwystredig.
Felly rydym yn annog darpar ofalwyr i ystyried ystod oedran ehangach. Mae angen cartrefi maeth ar blant o bob oedran, a gall bod yn hyblyg eich helpu i gael eich paru’n gynt, gan ddarganfod math o faethu nad oeddech efallai wedi’i ystyried yn wreiddiol. Mae llawer o ofalwyr yn synnu at faint o foddhad maen nhw’n ei gael wrth ofalu am blantos bach neu blant hŷn, hyd yn oed os nad dyna oedd eu cynllun cyntaf.
dod yn ofalwr maeth
Nid digalonni pobl yw pwrpas bod yn onest am realiti maethu babanod. Ei bwrpas yw helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus a theimlo’n barod ar gyfer yr hyn sydd o’u blaenau.
Mae pob babi yn haeddu dechrau diogel a chariadus. Trwy ddewis maethu babanod gyda Maethu Cymru, gallech wneud gwahaniaeth parhaol i fywyd plentyn. Ydych chi’n credu bod gennych chi’r hyn sydd ei angen? Cysylltwch â ni a rhowch y dechrau maen nhw’n ei haeddu i fabanod ledled Cymru.