cadw mewn cysylltiad
Cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth am faethu yn eich ardal, digwyddiadau, a straeon gan ofalwyr Maethu Cymru.
ymuno â'n rhestr bostioMae Maethu Cymru yn rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol. Nid er elw. Wedi'i sefydlu'n lleol. Yma i chi.
Nid oes y fath beth â gofalwr maeth perffaith. Beth bynnag yw eich amgylchiadau, efallai bydd math o faethu sy’n gweddu i’ch bywyd.
Mae hynny’n iawn. Does dim pwysau – archwiliwch ar eich cyflymder eich hun.
Gallwch – mae llawer o ofalwyr maeth yn gweithio, yn enwedig y rhai sy’n gofalu am blant oedran ysgol. Bydd eich tîm lleol yn siarad am yr hyn sy’n ymarferol ar sail oedran ac anghenion unrhyw blentyn y gallech ofalu amdano.
Mae gofalwyr maeth yng Nghymru yn derbyn isafswm lwfans wythnosol o £208-£260 i helpu i dalu am bopeth sydd ei angen ar y plentyn, gan ddibynnu ar y math o faethu ac oedran y plentyn, yn ogystal â thaliad, budd-daliadau a gostyngiadau i chi. Bydd eich tîm lleol yn darparu manylion llawn yn ystod eich ymholiad.
Mae’r broses asesu fel arfer yn cymryd tua phedwar i chwe mis. Mae’n cynnwys ymweliadau cartref, gwiriadau, geirdaon a hyfforddiant. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn eich tywys trwy bob cam.
Ni yw’r lle cyntaf ar gyfer pob plentyn lleol sydd angen gofal maeth – plant o bob oed. Byddwn yn dod i’ch adnabod chi, a’ch teulu, i ddod o hyd i’r plentyn mwyaf addas.
Maethu Cymru yw rhwydwaith cenedlaethol y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Pan fyddwch chi’n maethu gyda ni, byddwch chi’n maethu’n uniongyrchol gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar gyfer y plentyn, bydd plant sy’n cael eu lleoli gyda chi yn cadw mewn cysylltiad â’u cymuned leol a byddwch yn cael eich cefnogi gan eich tîm lleol.