blog

beth yw gofal maeth brys? mae teuluoedd maeth yn rhannu eu profiadau

Mae gofal maeth brys yn cynnig lle diogel i blant aros ar fyr rybudd.

Yn aml, gallai hyn fod cyn gynted ag o fewn yr awr, yr un noson, neu’n gynnar y diwrnod canlynol.

Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae angen hyn ar bobl ifanc o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl, yn aml yn cynnwys yr ysbyty neu’r heddlu

Realiti gofal maeth brys yw, yn amlach na pheidio, nad oes amser ar gyfer paratoadau nac i ddysgu am y plentyn yn fanwl iawn. Mae’n sefyllfa anodd i bawb sy’n gysylltiedig, ond yn enwedig i’r plentyn. Mae wedi cael ei ddadwreiddio yn sydyn ac yn cyrraedd tŷ dieithryn, heb syniad clir o’r hyn sy’n dod nesaf. Mae angen i chi gamu i rôl gofalwr maeth ar fyr rybudd a bod yn angor tawel a chalonogol.

“Cawsom 45 munud o rybudd ei fod yn dod gyda’r gweithiwr cymdeithasol. Roedd yn sefyllfa frys, ac roedd yr heddlu wedi bod yn gysylltiedig. Ni fyddai’r babi yn setlo, ac roedd yr ysbyty yn teimlo bod angen amgylchedd cartref arno.” Gofalwr maeth
girl on phone, John Tuesday, unsplash

sut mae’n teimlo i gael yr alwad

Mae’r natur frys o ddarparu cartref maeth mewn sefyllfa frys yn golygu y gallech fod yn byw eich bywyd arferol – coginio pryd o fwyd, gwylio’r teledu, neu baratoi ar gyfer y gwely – pan mae’r ffôn yn canu gyda’r newyddion am blentyn sydd angen cartref.

Mae ein gofalwyr maeth yn aml yn siarad am y cymysgedd rhyfedd o adrenalin, tosturi a nerfau wrth dderbyn galwad fel hyn. Mae cymaint o gwestiynau bob amser: pwy yw’r plentyn hwn, pa oedran, a fyddai wedi gallu dod ag unrhyw beth gydag ef neu hi?

Ni fyddwch bob amser yn cael yr holl atebion cyn iddo ddod – weithiau, dim ond ei enw a’i oedran. Yna, os ydych yn derbyn, rydych yn dechrau paratoi.

“Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod y lle y bydd yn cysgu ac yn aros yn barod iddo a’i fod yn addas ar gyfer ei anghenion hefyd. Rydym yn gwneud yn siŵr bod ganddo bopeth sydd ei angen arno ar gyfer y cyfnod cychwynnol hwnnw. Y peth cyntaf yw gwên, ei groesawu gyda gwên, peidio â’i herio mewn unrhyw ffordd yn y dyddiau cyntaf, gwneud iddo deimlo ei fod yn cael ei garu a’i eisiau.” Gofalwr maeth

Wrth gwrs, cyn ymgymryd â’r rôl hon, byddech wedi derbyn hyfforddiant gofal maeth ar lu o bynciau, gan gynnwys sut i ymdrin â cheisiadau brys, fel eich bod yn gwybod y ffyrdd gorau o ymateb yn y sefyllfaoedd hyn. Ond byddwch yn dysgu o brofiad hefyd.

yr hyn i’w ddisgwyl pan fydd plentyn yn cyrraedd am y tro cyntaf

Bydd y plant a’r bobl ifanc rydych yn eu croesawu i’ch cartref trwy ofal maeth brys yn aml yn flinedig. Efallai y byddant hefyd yn ofnus, a heb amheuaeth byddant yn ddryslyd. Mewn llawer o achosion, byddent wedi gadael eu cartref mewn amgylchiadau trallodus, a bydd angen sicrwydd arnynt, yn fwy nag unrhyw beth arall. Byddant fel arfer yn cyrraedd gyda gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol.

“Gwnaethon ni benderfyniad mewn ychydig funudau. Gwnaethon nhw gyrraedd awr yn ddiweddarach ac roeddent yn edrych yn bryderus ac yn ofnus. Gwnaethon nhw ysgafnhau pan welon nhw ein cartref sy’n addas i blant a’n bechgyn yn chwarae. Cawson nhw daith o amgylch y tŷ ac ystafell wely yr un yn barod iddyn nhw. Roedd fy nghasgliad o orchuddion duvet yn ddefnyddiol ar y pwynt hwn.” Kate a Lisa, Gofalwyr Maeth, Wrecsam

Cadwch bethau’n syml ac mor heddychlon â phosibl. Ewch â nhw ar daith o gwmpas y tŷ. Ewch â nhw i’w hystafell wely, dangoswch yr ystafell ymolchi a’r gegin iddyn nhw a chynigiwch fyrbryd, bisgedi neu rywbeth i’w yfed iddyn nhw os ydyn nhw eisiau hynny.

Os ydyn nhw’n hŷn, gallwch roi ychydig o le iddynt, gadael nhw i roi eu dillad ac ati i ffwrdd ac yna eu gwahodd i ddod i lawr pan fyddan nhw’n barod i ymuno â chi. I blant iau, gallech eu helpu i roi eu pethau i ffwrdd.

Gallwch ddangos iddyn nhw ble mae pawb yn cysgu.

“Dangosais iddyn nhw ble roedd y gegin ac esboniais y bydden nhw’n gallu bwyta cymaint o ffrwythau, bisgedi plaen ac iogwrt pryd bynnag oedden nhw eisiau heb orfod gofyn (roedd un o’n dynion ifanc wedi cyffroi gymaint gan hynny, nes ei fod yn rhoi darn o ffrwyth i’w weithiwr cymdeithasol bob tro roedd hi’n ymweld. Dywedodd wrthi mai ei ffrwythau ef oedden nhw a’i fod yn gallu eu rhannu. Mor garedig).” Gofalwr maeth
Man and boy in kitchen

Sicrhewch nhw mai dim ond drws nesaf ydych chi yn ystod amser gwely. Gall gadael golau ymlaen neu gael golau nos, hefyd gwneud i’r gofod anghyfarwydd deimlo’n fwy diogel

“Roeddwn i tua saith neu wyth oed. Roeddwn i’n ofnus iawn ac yn nerfus, oherwydd rydych yn cwrdd â dieithryn. Y noson honno, pan arhosais am y noson gyntaf, roeddwn i’n ofnus ac yn cael trafferth cysgu. Roeddwn i’n gwybod ei bod yn hwyr…. Roeddwn i’n mynd i orfod ceisio gorfodi fy hun yn ôl i gysgu. Roedd [Gavin] yn gallu fy helpu a’m cysuro trwy roi ffilm ymlaen.” Kyle, person ifanc â phrofiad o fod mewn gofal
Teddy on a child's bed

Mewn llawer o achosion, bydd bod yn bresenoldeb caredig a thawel yn mynd yn bell iawn. A chofiwch, mae disgwyl iddyn nhw fod yn flinedig am gyfnod, felly peidiwch â chael eich digalonni gan ddiffyg sgwrs neu ymddygiad optimistaidd. Arhoswch yn dawel, a gadewch iddynt ddod i chi ar eu telerau eu hunain.

“Pe bai’r tywydd yn caniatáu, byddwn yn cerdded o gwmpas yr ardal, yn cael sgwrs a dangos y parc agosaf iddyn nhw ac ati. Yna byddwn yn ceisio ymgysylltu â nhw, yn gofyn iddyn nhw helpu i osod y bwrdd neu i blicio llysiau, dim byd dwys, ac yn anffurfiol iawn. Byddwn bob amser yn cydnabod pa mor anodd y mae’n rhaid i’r sefyllfa fod iddynt, ond peidio ag ymhelaethu ar hynny.” Gofalwr Maeth

cyngor gofal maeth brys gan rieni maeth profiadol

Gan na fyddwch yn gwybod llawer am y plentyn pan fydd yn ymddangos am y tro cyntaf . wrth eich drws, mae paratoi’n golygu cael yr hanfodion wrth law Mae rhai syniadau yn  cynnwys: 

  • Brwsh dannedd sbâr. a phethau ymolchi
  • Set pyjamas syml
  • Dillad isaf
  • Blancedi clyd
  • Dewis o orchuddion duvet
  • Teganau meddal
“Rhoddais dedi ar y gwely, rhywbeth i roi cwtsh iddo a dweud wrthyn nhw ei fod yn anrheg iddyn nhw ei gadw.” Gofalwr maeth

Weithiau, bydd plant yn cyrraedd heb ddim, felly gall cael yr eitemau sylfaenol hyn eu helpu i deimlo’n gartrefol. Yn yr un modd, bydd tegan meddal neu flanced feddal yn ychwanegu ymdeimlad ychwanegol o ddiogelwch.

“Byddai ond yn fodlon setlo yn fy mreichiau, gan gwtsio lan at fy ngŵn gwisgo fflwffog. Byddai’n gafael arnaf, ac ni fyddai’n gadael i fi fynd. Dros y ddau ddiwrnod nesaf, fe wnaethon ni wylio ffilmiau gyda’n gilydd, roedden ni’n gallu ei gysuro, a gwnaeth setlo’n fwy.” Gofalwr maeth

porth gwe big welcome maethu cymru

Gall rhannu gwybodaeth amdanoch chi gyda’r plentyn leihau ei orbryder am ddod i gartref dieithryn. Dyna pam rydyn ni wedi dylunio porth croeso arbennig lle gall gofalwyr greu proffiliau, gan roi syniad cyflym i blant maeth o’r hyn i’w ddisgwyl – o’r teulu ei hun, i’r ystafell y byddan nhw’n aros ynddi.

pa mor hir mae gofal maeth brys yn para?

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn croesawu plentyn am y penwythnos yn unig . , yn enwedig os daw’r alwad ar nos Wener. Bydd y person ifanc yn aros yn eich gofal am ychydig ddyddiau tra bod y gweithwyr cymdeithasol yn cysylltu â theulu estynedig  neu’n trefnu math gwahanol o gymorth maethu byrdymor Mewn rhai achosion, gallai hyn olygu gwneud trefniadau i’r plentyn aros yn hirach gyda chi.

Beth bynnag yw hyd eu harhosiad, mae gofal maeth brys yn aml yn ymwneud . â rhoi  i blant sydd wedi profi trawma le diogel i aros pan fydd ei angen arnynt fwyaf, a’u cefnogi trwy’r hyn sy’n debygol o fod y cyfnod mwyaf ansicr o’u bywydau

“Pan oeddwn i’n 14 oed, rwy’n cofio mynd i aros. Rwy’n cofio’r daith hir yno yn mynd ymlaen am byth. Edrychais o gwmpas ac roedd yn edrych yn hollol frawychus. Dangosodd hi’r tŷ i fi. Roeddwn i’n nerfus iawn. Ar ôl i fy ngweithiwr cymdeithasol adael, es i fyny i fy ystafell ac aros yno am oriau. Clywodd [hi] fi yn symud o gwmpas. Daeth hi i fyny a mynd â fi i lawr y grisiau a gwneud siocled poeth i fi. Dechreuodd hi siarad â fi a dechreuais i siarad yn ôl. Dyna un o fy atgofion gorau o ofal maeth. Arhosais yno am naw mis.” Person ifanc â phrofiad o fod mewn gofal
Boy colouring outside

ydw i’n barod ar gyfer gofal maeth brys?

Gall cynnig gofal maeth brys fod yn heriol. Ond gall agor eich drws i berson ifanc mewn trallod a chynnig diogelwch iddo fod yn hynod werth chweil – heb sôn am newid bywyd y plant rydych yn eu cymryd i’ch gofal.

Os ydych chi eisoes yn ofalwr maeth cymeradwy, bydd eich hyfforddiant ar ymateb i ymddygiadau heriol, trawma ac ymlyniad yn sail i’r hyn sydd ei angen arnoch i ddarparu gofal maeth brys. Hefyd, mae croesawu plentyn ar fyr rybudd yn rhan annatod o brofiad y rhan fwyaf o ofalwyr maeth ar ryw adeg.

“Roedd gen i un bachgen oedd yn ymddangos yn galed iawn, ond roedd yn rhy ofnus i ddadwisgo am wythnos,” mae un rhiant maeth yn rhannu. Mae’r math hwn o ymateb i drawma yn gwneud yr oriau cyntaf o groesawu’r person ifanc i’ch cartref mor bwysig.

Dysgwch fwy am ofal therapiwtig

newydd ddechrau eich taith faethu?

Mae gofal maeth brys yn un o’r ffyrdd y gallwch helpu pobl ifanc sydd angen cymorth, ond mae fel arfer yn cael ei gyfuno â ffyrdd eraill o faethu, fel seibiannau byr. Mae’r ddau’n cyfuno’n arbennig o dda os ydych ar gael ar benwythnosau’n aml. Dysgwch fwy am bob math o faethu.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ddarganfod mwy am sut y gallwch helpu!

Story Time

Stories From Our Carers