blog

ystadegau maethu ar gyfer cymru | maethu cymru

faint o blant sydd mewn gofal maeth ar hyn o bryd?

Mae tua 4875 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru ar hyn o bryd (31 Mawrth 2024)

Ffynhonnell: (llyw.cymru)

a ydy nifer y plant mewn gofal maeth yng Nghymru yn cynyddu?

Dros y 7 mlynedd ddiwethaf (2018-2024) mae nifer y plant mewn gofal maeth yng Nghymru wedi cynyddu 3.7%.

Ffynhonnell: (llyw.cymru)

faint o blant sydd angen gofalwr maeth yng Nghymru bob blwyddyn?

Mewn 12 mis yn unig (Ebrill 2023 – Mawrth 2024), roedd angen gofalwr maeth ar 2042 o blant yng Nghymru.

a ydy mwy o blant yn derbyn gofal gan ofalwyr maeth awdurdod lleol neu gan ofalwyr asiantaeth faethu?

Yng Nghymru, mewn tua 74% o leoliadau maeth newydd (Ebrill 2023-Mawrth 2024), roedd y plant yn derbyn gofal gan ofalwyr maeth awdurdod lleol.

Lle mae plant yn cael eu maethu?

Mae 69% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

beth yw ystyr ‘plentyn sy’n derbyn gofal’?

Mae’r term ‘plentyn sy’n derbyn gofal’ yn cyfeirio at blentyn y mae adran gwasanaethau cymdeithasol ei awdurdod lleol yn ymwneud â’i deulu ac yn cael mynegi barn ar ei ofal, ond gall hyn gwmpasu amrywiaeth o drefniadau byw gan gynnwys :

  • gofal maeth
  • preswyl
  • byw’n annibynnol
  • byw gyda theulu dan oruchwyliaeth yr awdurdod lleol

pa oedran yw’r plant sydd angen gofal maeth yng Nghymru?

Yn Mawrth 2024, o’r 7200 o’r plant yn derbyn gofal (gweler uchod) yng Nghymru, roedd

  • 18.5% yn 0-4 oed (1380)
  • 39% yn 10-15 oed (2875)
  • Mae nifer ychydig yn uwch o fechgyn na merched.

Mae tua 68% o’r plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru mewn gofal maeth.

Ffynhonnell: (llyw.cymru)

faint o blant sy’n dychwelyd adref, yn gadael gofal neu’n cael eu mabwysiadu?

Yn 2024, dychwelodd 695 o blant oedd gynt yn derbyn gofal i deulu neu warcheidwad arbennig (ac eithrio gofalwyr maeth blaenorol). Cafodd gorchymyn mabwysiadu ei ganiatáu ar gyfer 255. Symudodd 305 i fyw’n annibynnol.

Ffynhonnell: (llyw.cymru)

faint o ofalwyr maeth sydd yng Nghymru?

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae tua 3,800 o deuluoedd maeth yng Nghymru.

Mae 68% yn maethu gyda’u hawdurdod lleol. Mae tua 2600 o ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n deulu ac yn ffrindiau’n rhan o Maethu Cymru.

Ffynhonnell: Y Rhwydwaith Maethu

Story Time

Stories From Our Carers