blog

alastair cope: sut y gall un oedolyn gofalgar newid popeth

Mae pŵer un unigolyn gofalgar wedi bod ar flaen fy meddwl ers pan oeddwn i’n ifanc iawn.

Wrth dyfu i fyny, byddwn i’n aml yn ymweld â phobl oedrannus a oedd yn byw ar eu pennau eu hunain gyda fy mam, a fyddai’n cymryd amser i ymweld, siarad, gwrando a bod yno i bobl na fyddai neb ganddynt fel arall.

ymwybyddiaeth o ofal

Roedd gofal cymdeithasol, a maethu yn benodol, yn rhywbeth roeddwn i’n gyfarwydd ag e fel plentyn. Roedd fy ewythr, yr oeddwn i’n agos iawn ato, yn weithiwr cymdeithasol a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc a oedd yn derbyn gofal. Roedd teulu maethu yn yr eglwys hefyd, ac roedden ni’n treulio llawer o amser gyda nhw, a chafodd fy ffrind gorau o’r ysgol (rwy’n dal i fynd i’r bêl-droed gydag e hyd heddiw) ei fagu gan ei fam-gu a’i dad-cu. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd, ond dyna oedd fy nghyflwyniad cyntaf i ofal gan berthynas.

Roedd gofalu am eraill yn rhan normal o fywyd i mi, felly roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth a fyddai’n helpu pobl. Roeddwn i hefyd wrth fy modd â chwaraeon ac â gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

fy nhaith ym maes gwaith ieuenctid

Ar ôl gorffen Safon Uwch, cymerais flwyddyn allan yn gwneud gwaith ieuenctid ar rai o’r ystadau caletaf ym Manceinion. Yna es i’r brifysgol i astudio gwaith ieuenctid a chymunedol. Pan oeddwn i yno, cefais leoliadau gwych, gan gynnwys gweithio ar ystâd cyngor ag enw ffyrnig a threulio pedwar mis mewn carchar troseddwyr ifanc. Roeddwn i wrth fy modd â’r profiad.

Dros y blynyddoedd nesaf, ymgymerais â rolau gwaith ieuenctid amrywiol, gan gynnwys gyrru bws allgymorth, gweithio fel gweithiwr ieuenctid ar y stryd, rheoli canolfan ieuenctid, a gweithio un i un gyda phlant yn y system ofal.

Yn ystod y cyfnod hwn gwelais y bwlch am y tro cyntaf. Roedd disgwyl i bobl ifanc mewn gofal adael unwaith iddyn nhw droi’n 18 oed, yn aml heb fawr ddim paratoad ar gyfer y byd y tu hwnt, os o gwbl.

Doedd y bobl ifanc roeddwn i’n gweithio gyda nhw ddim yn gallu defnyddio peiriant golchi na choginio iddyn nhw eu hunain, a doedd dim syniad ganddynt sut i wneud cais am swydd.

Man and teenage boy in kitchen

dysgu sgiliau ar gyfer annibyniaeth

Bryd hynny y penderfynais sefydlu rhaglen sgiliau byw’n annibynnol, gan gynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu’r sgiliau hanfodol hyn. Byddwn i’n cynnal sesiynau wythnosol neu, yn amlach, yn mynd â nhw i ffwrdd am dri diwrnod a threulio amser yn eu dysgu sut i reoli eu harian, gwneud galwad ffôn, coginio ar gyllideb, a hyd yn oed newid bwlb golau neu smwddio crys – y pethau sylfaenol y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.

Roedd naw deg y cant o’r bobl ifanc a fynychodd y cyrsiau hyn mewn gofal, neu wedi bod mewn gofal. Dangosodd i mi faint yn fwy o gefnogaeth oedd ei angen ac fe atgyfnerthodd fy angerdd dros sicrhau bod pob person ifanc yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd.

cyflogadwyedd

Oddi yno, es i ymlaen i reoli rhaglenni cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc â phrofiad o ofal yn benodol. Roedd yr awdurdod lleol roeddwn i’n gweithio iddo yn cynnig cynllun prentisiaeth pwrpasol gwych i bobl ifanc a oedd yn gadael gofal, ochr yn ochr â rhaglenni cyflogadwyedd eraill i’w cefnogi i ddod o hyd i waith.

Dyma le defnyddiais fy nghreadigrwydd a’m cymhelliad i sefydlu mentrau newydd i gefnogi pobl a oedd yn gadael gofal. Ailagorais ffreutur cyngor fel academi hyfforddi arlwyo, gan ddysgu sgiliau cyllell, hylendid bwyd a sgiliau barista. Yna perswadiais gwmnïau adeiladu i gyfrannu deunyddiau ac amser hyfforddi i ailddatblygu canolfan ddydd leol, gan roi cyfleoedd ym maes adeiladu i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

Adult child gardening with toddler

pobl ifanc a oedd yn ysbrydoliaeth i mi

Mae’r bobl ifanc unigol roeddwn i’n eu cefnogi a’u mentora wedi newid fy mywyd.

Mae dros ddeng mlynedd wedi mynd heibio ers ein rhyngweithiadau cyntaf, ac rwy’n dal mewn cysylltiad â llawer ohonyn nhw’n rheolaidd – yn dal i gynnig cyngor a chefnogaeth, geirda ar gyfer swydd, neu ddim ond paned o de.

Ffion

Cafodd Ffion ei gollwng mewn gorsaf heddlu yn naw oed, yn gwisgo dim ond gŵn nos brwnt. Cafodd ei chymryd i mewn gan y teulu maethu mwyaf anhygoel “am y penwythnos yn unig”, ond oherwydd eu bod nhw’n poeni cymaint amdani, roedd hi’n dal yno wyth mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd Ffion yn teimlo’n sownd ar ôl gadael yr ysgol a doedd hi ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda’i bywyd. Roedd hi’n dawel ac yn swil a doedd hi ddim yn sylweddoli’r potensial roedd ganddi. Cofrestrais hi ar y cynllun prentisiaeth ac, ochr yn ochr â’i gofalwyr maeth, fe wnes i ei chefnogi am tua thair blynedd, gan gynnig mentora, cyngor ac arweiniad. Ar ôl paratoi’n drylwyr am y cyfweliad, llwyddodd hi i gael swydd llawn amser gyda’r cyngor a symudodd i’w chartref ei hun.

Mae gan Ffion berthynas wych gyda’i gofalwr maeth o hyd, sydd bellach yn “Nana” i fab Ffion. Mae hi wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar wrth weithio i awdurdod lleol gwahanol, ac mae hi’n gwneud yn arbennig o dda. Mae hi’n fyd i ffwrdd o’r ferch ifanc a gwrddais y tro cyntaf.

Emma

Nid oedd Emma yn gallu byw gyda’i mam fiolegol ac aeth i ofal yn saith oed. Siaradodd hi ddim o gwbl yn ystod y chwe wythnos gyntaf o fyw gyda’i gofalwr maeth. Diolch i amynedd, cariad a chefnogaeth ei gofalwr maeth, fe ymgartrefodd Emma’n raddol bach nes iddi ddod yn rhan o’r teulu. Roedd hi wedi byw yno am naw mlynedd erbyn i mi gwrdd â hi.

Roedd Emma’n brin iawn o hyder, yn boenus o swil a doedd dim llawer o ffydd ganddi yn ei hun, ond roedd hi eisiau gweithio gyda phlant. Gweithiais gyda hi i fagu ei hyder a’i helpu i weld y gallai ei natur dawel fod yn gryfder go iawn wrth weithio gyda phlant oedran meithrin. Fe wnes i ei chefnogi drwy’r cynllun prentisiaeth ac i mewn i waith llawn amser.

Roedd hi’n pwyso ar ei gofalwr maeth ar ddiwrnodau anodd neu pan oedd angen rhywle diogel arni i ddadlwytho ar ôl gwaith. Roedd y sefydlogrwydd hwnnw’n darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol, yn enwedig pan, yn anffodus, fu farw ei mam fiolegol.

Mae Emma’n dal i weithio’n llawn amser ym maes gofal ac mae hi bellach yn byw gyda’i phartner. Mae ganddi ferch fach, ac maen nhw’n dal i fynd ar wyliau gyda’i chyn-deulu maeth. Mae hi’n cysylltu â mi’n rheolaidd, fel arfer am gyngor neu eirda ar gyfer swydd, ond mae hi bellach yn un o’r bobl fwyaf hyderus rwy’n eu hadnabod.

Seren

Yna roedd Seren. Dywedodd ei mam fiolegol wrthi dro ar ôl tro nad oedd hi byth yn ddigon da. Wnaeth hi erioed ymgartrefu mewn gofal maeth ac roedd hi’n ei chael hi’n anodd mewn lleoliadau preswyl. Dechreuodd Seren dreulio amser gyda’r bobl anghywir a chafodd ei hun mewn ychydig o drafferth cyn iddi benderfynu rhoi cyfle i mi ei chefnogi.

Gweithiais gyda hi trwy heriau gartref, symud tŷ sawl gwaith, ei chefnogi i ddod o hyd i swydd fel gweithiwr gofal preswyl i bobl hŷn, ac yn ddiweddarach i astudio i fod yn nyrs. Yn bwysicaf oll, fe wnes i ei helpu i weld y gallai gyflawni beth bynnag y byddai’n rhoi ei meddwl arno, er gwaethaf ei phlentyndod anodd, diolch i’w hetheg waith anhygoel.

Mae bywyd Seren wedi troi a throelli, ond mae hi’n fam wych i ddau fab, mae hi wedi gweithio’n gyson ers hynny, ac mae hi bellach yn berchen ar ei busnes glanhau llwyddiannus ei hun.

un person sy’n gofalu

Mae gan yr holl straeon hyn un peth yn gyffredin. Un o’r nifer fawr o resymau pam  llwyddodd y bobl ifanc hyn i lywio gadael gofal a mynd ymlaen i fyw bywydau hapus ac annibynnol.

I Emma a Ffion, eu gofalwyr maeth oedd hynny. I Seren, fi oedd hynny. Ochr yn ochr â’u gwydnwch, eu penderfyniad a’u hawydd i adeiladu bywydau gwell iddyn nhw eu hunain, roedd gan bob un ohonynt un person a safodd wrth eu hochr.

Rhywun i fod yn gefn iddynt, i eirioli drostynt, i ymladd drostynt, i’w calonogi pan oedd pethau’n anodd, ac i gredu ynddynt i gyflawni beth bynnag y byddent yn penderfynu ei wneud.

A dyna’n union beth mae gofalwyr maeth ledled Cymru yn ei wneud bob dydd.

un oedolyn gofalgar

Y siaradwr ysgogol Josh Shipp, sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sy’n ei fynegi orau pan mae’n dweud bod pob plentyn dim ond un oedolyn gofalgar i ffwrdd o fod yn stori o lwyddiant.

Dyna’r gred a arweiniodd fi at faethu. Roedd gan bob person ifanc roeddwn i wedi’i weld yn gadael gofal yn llwyddiannus yr un person hwnnw – ei ofalwr maeth fel arfer – yn ei gefnogi trwy gyfnod pontio hynod o anodd.

Fy nghymhelliant oedd, ac mae’n parhau i fod, helpu mwy o bobl ifanc trwy roi hyder, sicrwydd ac ymdeimlad o ddiogelwch iddynt. Er mwyn gwneud y cymhelliant hwnnw’n realiti, mae angen mwy o bobl ofalgar. Yn syml, mae angen mwy o ofalwyr maeth.

gwneud pethau’n well drwy faethu cymru

Ar ôl pum mlynedd fel Rheolwr Datblygu Rhanbarthol ar gyfer maethu, gan helpu i hyrwyddo newid, ymgymerais â rôl Pennaeth Maethu Cymru yn 2022. Ers hynny, gwneud pethau’n well fu fy unig ffocws.

Nid yn unig i recriwtio mwy o ofalwyr maeth, ond i’w cefnogi’n well ac i roi mwy o gyfleoedd i’n cymuned maethu ddatblygu, i bwyso ar ein gilydd, ac i rannu eu hofnau a’u gobeithion personol ar gyfer y dyfodol.

Rhannu arfer da fel ein bod ni, fel awdurdodau lleol, yn dysgu oddi wrth ein gilydd am yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen newid o hyd. Ac, yn y pen draw, gwella canlyniadau i’n plant, yn enwedig wrth iddynt symud tuag at adael gofal.

yr her nesaf

Mae dod â 22 sefydliad gwahanol at ei gilydd yn her enfawr, ond mae’n un rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig iawn iddi.

Ni fyddaf yn gwbl fodlon nes bod pob gofalwr maeth yn cael y gefnogaeth orau posibl pan fydd ei hangen arnynt, a bod gan bob plentyn yr un cyfleoedd i ffynnu â’u cyfoedion.

Ochr yn ochr â gwrando, dysgu a pharhau i wella, mae’r ateb yn syml: sicrhau bod gan bob person ifanc sy’n byw yng Nghymru neu sy’n gadael gofal yng Nghymru o leiaf un person sy’n gofalu amdano.

Dyna pam rwy’n falch o arwain y cydweithrediad hwn. Rydw i am wthio am newid a gweithio gydag awdurdodau lleol, gofalwyr maeth a phobl ifanc i wneud pethau’n well.

Alastair Cope

awdur yr erthygl

alastair

proffil awdur

Story Time

Stories From Our Carers