blog

dyma yw maethu – gan ofalwyr maethu cymru


Mae gofalwyr maeth ledled Cymru yn rhannu’r datblygiadau bach, ystyrlon sy’n awgrymu cynnydd mewn ymddiriedaeth a diogelwch emosiynol yn ystod Pythefnos Gofal Maeth

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth, roedd Maethu Cymru eisiau amlygu profiadau dydd i ddydd maethu, o’r uchafbwyntiau i’r isafbwyntiau.

A pha ffordd well o wneud hynny, na thrwy glywed yn uniongyrchol gan ein Gofalwyr Maeth anhygoel.

Dyma ni’n datblygu arolwg, gan wahodd gofalwyr maeth i rannu eu profiadau o ofalu am blant.

Mae’r mewnwelediadau yn darparu dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau dyddiol y mae gofalwyr yn eu hwynebu, a sut y gellir profi cynnydd pan y caiff elfennau fel trefn a chysondeb eu cyflwyno i fywyd plentyn.

Dywedodd Alastair Cope, pennaeth Maethu Cymru: “Mae’r arolwg hwn yn dangos pa mor emosiynol gymhleth a dwys y gall maethu fod. Ond mae hefyd yn dangos, gyda’r offer, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth gywir, y gall newid bywydau’r gofalwr a’r plentyn.

“Roedden ni eisiau defnyddio Pythefnos Gofal Maeth i rannu canfyddiadau’r arolwg hwn i gydnabod y gwaith caled y mae ein gofalwyr maeth yn ei wneud, i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a’u clywed. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i ddarparu golwg gyflawn i ddarpar ofalwyr maeth o’r heriau, ond hefyd y buddion o faethu, a’r gefnogaeth y gallwn ei darparu i’w wneud yn llwyddiant.”

Dyma’r 5 prif ddarganfyddiad o’r arolwg…


canlyniadau’r arolwg

ymddygiad sy’n gysylltiedig â thrawma

Canfu’r arolwg fod gan y rhan fwyaf o ofalwyr maeth brofiad o ofalu am blentyn ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrawma.

“Y rhan anoddaf yw’r diffyg hunanwerth y mae plentyn yn ei deimlo… a’r angen cyson am emosiwn negyddol jest i deimlo rhywbeth,” – gofalwr maeth.

Yr ymddygiad mwyaf cyffredin a nodwyd gan ofalwyr maeth yn yr arolwg oedd adweithiau emosiynol dwys neu anhawster wrth reoleiddio teimladau, gyda 81% o’r ymatebwyr yn nodi eu bod wedi gweld yr ymddygiad hwn. Yn ail, dywedodd 80% eu bod wedi profi heriau yng nghyswllt ffiniau.


mae hyder yn cynyddu gyda phrofiad

Rydym yn gwybod bod teimlo’n nerfus yn gwbl normal i ofalwyr maeth newydd, ond rydyn ni’n falch o weld bod y teimladau hynny’n troi’n hyder yn gyflym gydag amser, profiad a hyfforddiant.

“Mae gen i bron i 20 mlynedd o brofiad maethu… allai ddim pwysleisio ddigon yr angen i ddysgu a datblygu’n gyson,” – gofalwr maeth.

Canfu’r arolwg fod hyder gofalwyr yn cynyddu’n sylweddol dros amser, gan godi o gyfartaledd o 2.8 (allan o 5) ar ddechrau eu taith i 4.5, gan ddangos effaith profiad a chefnogaeth. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (65%) fod yr hyfforddiant a ddarparwyd gan Maethu Cymru neu eu hawdurdod lleol wedi cyfrannu at y cynnydd hwn mewn hyder.

Mae bron pob gofalwr maeth (93%) yn nodi eu bod yn teimlo’n hyderus wrth ddelio ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrawma, ac mae 56% ohonynt yn teimlo’n ‘hyderus iawn’.


mae cynnydd yn cymryd amser

Gwyddom o’r arolwg fod gan lawer o blant a phobl ifanc sy’n dod i ofal ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrawma. Gofynnwyd i ofalwyr maeth nodi pa mor hir y mae wedi cymryd iddyn nhw a’r plant yr oedden nhw’n gofalu amdanynt i wneud newid ystyrlon.

“Hi oedd fy nghysgod… yn araf, dros amser, byddai’n chwarae’n hapus yn fy ystafell fyw tra roeddwn i’n sgwrsio â hi o’r gegin.”

Yr ystod amser mwyaf cyffredin a nodwyd yn yr arolwg oedd 3-6 mis.

llwyddiant mewn eiliadau bach

Mae’r ymatebion yn dangos taw anaml caiff “newid” mewn maethu ei ddiffinio gan un eiliad ddramatig, ond yn hytrach gan gyfres o ddatblygiadau bach, ystyrlon sy’n awgrymu ymddiriedaeth gynyddol a diogelwch emosiynol.

I nifer o ofalwyr maeth, mae’r eiliadau hyn yn gynnil ond yn arwyddocaol iawn. Mae arwyddion cynnar o gynnydd yn aml yn cynnwys plant yn dechrau ceisio cysur neu arddangos hoffter tuag at rywun mewn ffordd gorfforol, hyd yn oed mewn ffyrdd bach.

“Pan ddechreuodd hi ofyn am gwtshys … roedd dal yn cyfrif,” – gofalwr maeth.

Yn ôl yr arolwg, arwydd arall o gynnydd yw pan fydd plant yn dechrau siarad yn fwy agored ac ymgysylltu â bywyd teuluol bob dydd.

“Pan ddechreuon nhw siarad â ni am eu diwrnod … dyna pryd roedden ni’n gwybod bod yr ymddiriedaeth yna’n datblygu.” – gofalwr maeth

Yn ôl yr arolwg, mae eiliadau o lawenydd a mynegiant emosiynol hefyd yn dangos cynnydd. Disgrifiodd sawl gofalwr arwyddocâd gweld plentyn yn chwerthin neu’n ymlacio am y tro cyntaf.

“Roedd y wên gyntaf yna’n bopeth.” – gofalwr maeth

Yn bwysig, mae llawer o ymatebion yn pwysleisio nad yw’r newidiadau hyn yn digwydd dros nos. Mae cynnydd mewn maethu yn cael ei ddiffinio gan ymddiriedaeth, cysylltiad, a theimlad o ddiogelwch, sy’n cael eu hamlygu’n aml trwy newidiadau bach ond ystyrlon dros amser.

“Nid un foment yw e’, mae’n llawer o rai bach.”


cefnogaeth sy’n gweithio

Rydym yn gwybod po fwyaf y gwnewch chi rywbeth, y gorau fyddwch chi am ei wneud, ac mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod hyn yn arwain at deimlo’n fwy hyderus. Mae gofalwyr maeth yn cysylltu hyder cynyddol gydag ennill profiad yn bennaf, gyda 90% yn nodi hyn fel ffactor allweddol.

Fodd bynnag, mae’n glir fod cefnogaeth gan weithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth eraill yn chwarae rhan enfawr yn siwrnai gofalwr maeth.

“Y gwahaniaeth mwyaf yw cael system gymorth mor anhygoel o’n cwmpas.” – gofalwr maeth.

Dywedodd gofalwyr maeth fod cefnogaeth gan weithwyr cymdeithasol goruchwyliol (71%), hyfforddiant (65%), cefnogaeth gan ofalwyr maeth eraill (56%) a dysgu hunangyfeiriedig (64%) i gyd wedi cyfrannu at gynnydd mewn hyder.
 

ynglŷn â’r arolwg

  • Cynhaliwyd rhwng 24 Mawrth a 9 Ebrill 2026 trwy ffurflen ar-lein ymhlith gofalwyr maeth awdurdodau lleol.
  • Derbyniwyd cyfanswm o 119 o ymatebion, gan gynnwys 118 yn Saesneg ac 1 yn Gymraeg.
  • Cafwyd ymatebion gan ofalwyr maeth o bob awdurdod lleol ledled Cymru.

Story Time

Stories From Our Carers