alastair cope: sut y gall un oedolyn gofalgar newid popeth
Mae'r bobl ifanc unigol roeddwn i'n eu cefnogi a'u mentora wedi newid fy mywyd.
gweld mwyawdur
Alastair ydw i, a fi yw Pennaeth Maethu Cymru. Fy rôl i yw gweithio ar draws ein 22 awdurdod lleol i sbarduno gwelliannau i ofalwyr maeth a’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gofalu amdanynt. Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant ers 2008. Yn flaenorol gyda ffocws ar y bobl ifanc hynny mewn gofal ac yn gadael gofal, ac am y 10 mlynedd diwethaf mewn maethu.
Rwyf wrth fy modd yn siarad am faethu a chael straeon gan ein gofalwyr maeth a phobl ifanc yn ysbrydoledig. Efallai y byddwch chi’n fy ngweld ar y newyddion, yn y cyfryngau neu yn y gymuned, yn rhannu profiadau o sut mae maethu wedi cael effaith gadarnhaol.
Rwy’n hynod angerddol am wneud gwahaniaeth i’n pobl ifanc a gwella eu siawns o fyw bywydau hapus, iach a llwyddiannus. Rwyf hefyd wedi ymrwymo’n llwyr i wneud i’n cymuned faethu deimlo ei bod yn cael ei grymuso, ei pharatoi a’i chefnogi.
Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol yw, wrth i’r 22 awdurdod lleol weithio gyda’i gilydd, y bydd pob plentyn sydd angen ein gofal yn cael y cyfle i ffynnu a phob gofalwr maeth sy’n darparu’r gofal hwnnw yn cael y gefnogaeth orau bosibl.