cwestiwn cyffredin

pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu?

pwy sy’n penderfynu pa blant rwy’n eu maethu?

Rydych chi’n unigryw, gyda’ch sgiliau a’ch cryfderau eich hun, ac mae’r ffordd y bydd eich teulu maeth yn edrych yn unigryw hefyd.

paru – sut mae’n gweithio

Rydyn ni’n gweithio gyda chi i baru plant â’r cartref iawn. 

Mae’n golygu gwrando arnoch chi, dod i’ch adnabod, dod i adnabod eich teulu, eich bywyd, eich cartref. Gallwn wedyn eich paru chi â’r plentyn maeth sy’n cyd-fynd orau â’ch sgiliau a’ch amgylchiadau.

Mae paru yn y ffordd orau yn bwysig i ni. Ac mae’r rheswm am hynny’n syml: mae gwell paru’n golygu gwell canlyniadau. 

gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth

dechreuwch eich taith

dod o hyd i’ch tîm maethu cymru lleol

Fel y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol ledled Cymru, rydyn ni wrth eich ymyl ble bynnag rydych chi. Rhowch eich cod post, eich tref neu’ch dinas i ddod o hyd i’ch tîm gofal maeth lleol.

dim cod post dilys does dim canlyniadau ar gyfer yr ymholiad hwn