blog

5 gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu

5 gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu

Mae croesawu plentyn i’ch teulu yn brofiad gwerth chweil. Ond sut rydych yn dewis rhwng maethu a mabwysiadu? Beth yw’r gwahaniaeth?

Gadewch i ni ddechrau gydag ychydig o ffeithiau…

Mae tua 285 o blant yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae 1857 o blant angen gofal maeth. Mae’r plant sydd angen eu mabwysiadu yn aml mewn gofal maeth yn gyntaf cyn i benderfyniad gael ei wneud mai mabwysiadu yw’r opsiwn gorau iddynt.

Y gwahaniaeth cyfreithiol…

Y prif wahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu yw pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn, chi fydd rhiant cyfreithiol y plentyn. Mewn gofal maeth, yr awdurdod lleol a’r teulu biolegol sy’n gyfreithiol gyfrifol am y plant, a’r gofalwyr maeth sy’n gyfrifol am ddarparu gofal o ddydd i ddydd neu ofal tymor hwy.

Yn y blog hwn, byddwn yn rhannu 5 o wahaniaethau pellach rhwng maethu a mabwysiadu.

  1. Pa mor hir mae’n ei gymryd?
  2. Cymorth
  3. Gadael fynd neu am byth – yr agwedd emosiynol
  4. Gwneud penderfyniadau
  5. Cadw mewn cysylltiad â’r teulu biolegol

Yn ogystal byddwn yn esbonio’r amrywiaeth o ddewisiadau maethu a mabwysiadu sydd ar gael.

pa mor hir mae’n ei gymryd i faethu neu fabwysiadu?

Mae’r broses asesu i ddod yn ofalwr maeth ac i fabwysiadu yn debyg iawn mewn gwirionedd.

Byddwch yn cwrdd â’ch tîm lleol, yn cwblhau hyfforddiant ac yna’n dilyn proses asesu 4-6 mis lle bydd yr asesydd yn dod i’ch adnabod chi a’ch teulu. Yna cewch eich argymell i gael eich cymeradwyo ger bron panel maethu neu banel mabwysiadu.

Y gwahaniaeth:

Fel gofalwr maeth, gallai plentyn gyrraedd ar y diwrnod canlynol.

Fel un sy’n mabwysiadu, gall hyn gymryd mwy o amser.

Efallai y bydd gan eich asiantaeth fabwysiadu leol (gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol neu asiantaeth mabwysiadu gwirfoddol) blentyn mewn golwg i chi ei fabwysiadu, a fydd wedyn yn dechrau proses o baru, cyflwyniadau, symud i mewn, cyn bod Gorchymyn Mabwysiadu yn cael ei roi.  

Ond yn fwy aml, mae’r broses o adnabod y plentyn cywir i chi ei fabwysiadu yn amrywio o deulu i deulu, a bydd yn aml yn cymryd o leiaf 3 – 6 mis arall wedi’r cymeradwyo ac weithiau’n hwy na hynny.

Beth all gyflymu hyn? Pa mor hyblyg yw eich meini prawf paru

  • a allwch ystyried ystod oedran eang
  • mwy nag un plentyn
  • 2 neu fwy o frodyr a chwiorydd
  • plant ag anghenion cymhleth
  • neu gyflyrau meddygol ac ati

a bydd nifer y plant sydd angen eu mabwysiadu ar y pryd yn pennu pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd.

Wrth chwilio am bariad o fewn eich rhanbarth, bydd eich manylion hefyd yn cael eu hychwanegu at Gofrestr Fabwysiadu Cymru er mwyn i chi allu cael eich ystyried ar gyfer plant o bob cwr o Gymru.

pa gymorth ydych yn ei gael fel un sy’n mabwysiadu neu fel gofalwr maeth?

P’un a ydych yn maethu neu’n mabwysiadu, nid yw’n hawdd gofalu am blant sydd wedi profi dechrau trawmatig mewn bywyd.

Ni allwch wneud hyn ar eich pen eich hun.

Mae cymorth gan ffrindiau, teulu, eich cyflogwr, cyd-fabwysiadwyr a gofalwyr maeth yn hanfodol.

Y gwahaniaeth

Bydd y cymorth fel gofalwr maeth yn cynnwys ymweliadau rheolaidd gan eich gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymdeithasol y plentyn, yn ogystal â chymorth anffurfiol a disgwyliad i barhau â hyfforddiant parhaus. Caiff gofalwyr maeth eu cefnogi’n ariannol i ofalu am bob plentyn. Bydd y cymorth gan eich cyflogwr yn amrywio, ond rydym yn annog pob busnes i hwyluso maethu gan roi i chi fwy o wyliau blynyddol i fynychu hyfforddiant ac i blentyn ymgartrefu yn eich cartref.

Fel un sy’n mabwysiadu, nid yw gweithwyr cymdeithasol yn ymwneud â chi mwyach ar ôl i Orchymyn Mabwysiadu gael ei roi. Gallwch gyrchu’r lefel o gymorth mabwysiadu sydd ei hangen arnoch, yn ôl yr angen, drwy eich gwasanaeth mabwysiadu. Yn ystod y broses baru, bydd Cynllun Cymorth Mabwysiadu yn cael ei ddatblygu ar gyfer y plentyn a fydd yn ystyried ei anghenion nawr a’r hyn a allai fod ei angen arno yn y dyfodol. Fel un sy’n mabwysiadu, bydd unrhyw gymorth ariannol fel lwfans mabwysiadu, ond ar gael mewn rhai achosion. Mae absenoldeb mabwysiadu yn hawl gyfreithiol ac yn cael ei gynnig gan gyflogwyr yn yr un modd ag absenoldeb mamolaeth a thadolaeth. Mae Pecyn Cymorth i Gyflogwyr ‘Mabwysiadu yn Eich Busnes‘ hefyd ar gael.

gadael i blant fynd – byrdymor neu hirdymor? Am byth?

Mae gadael i blant fynd yn rhywbeth sy’n aml yn atal pobl rhag maethu.

“Byddaiwn yn tyfu’n rhy hoff o’r plant” rydym yn ei glywed.

Wel, mae bod yn hoff o blant yn beth da! Rydym am i’n gofalwyr maeth garu’r plant a gofalu amdanynt. Mae hyn yn dangos i’n plant sut i garu, sut i ymddiried mewn pobl a sut i feithrin perthnasoedd cadarnhaol yn eu dyfodol.

Does dim gwadu bod hynny’n rhan anodd o faethu, sef pan fydd plentyn yn symud ymlaen. Rydych yn helpu plentyn i ddychwelyd yn ôl at ei deulu neu i greu teulu newydd ar gyfer plentyn – beth bynnag sydd orau iddo.

Does dim rhaid iddo fod yn ffarwel am byth.

Mae llawer o ofalwyr maeth yn cadw mewn cysylltiad gyda’r plant maent wedi gofalu amdanynt. Ni all plentyn fyth gael gormod o bobl sy’n ei garu.

Ac os nad yw’r syniad o lawer o blant yn mynd a dod yn gweithio i chi, wedyn efallai y byddai maethu hirdymor yn fwy addas.

Y gwahaniaeth

Wrth fabwysiadu, mae’r plentyn yn dod yn aelod cyfreithiol a pharhaol o’ch teulu, am byth. Maen nhw yno i aros. Chi yw eu rhiant.

Y nod wrth faethu, yn gyntaf oll, yw dychwelyd plant i’w teulu os yw hyn yn bosibl. Os nad yw hynny’n bosibl, wedyn gall gofalwyr maeth gynnig cartref diogel a chariadus i blant dyfu i fyny ynddo, gan roi sylfaen ddiogel iddynt tra’n cynnal cysylltiadau â’r rhai sy’n bwysig iddynt. Mae’r plant yn dod yn rhan o’ch teulu, ond mewn ffordd llai ffurfiol.

gwneud penderfyniadau

Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn, byddwch yn dod yn rhiant iddo. Gallwch wneud penderfyniadau.

Pan fyddwch yn maethu, mae’r cyfrifoldeb rhiant yn cael ei rannu rhwng y rhiant biolegol a’r awdurdod lleol, sydd wedyn yn dirprwyo cyfrifoldeb i’r gofalwr maeth.

Y gwahaniaeth

Wrth fabwysiadu, eich cyfrifoldeb chi nawr yw gwneud penderfyniadau am fywyd eich plentyn, gallwch gymeradwyo pob penderfyniad fel ei riant – o ba ysgol mae’n ei mynychu i fynd ar drip ysgol i wneud cais am basbort, triniaeth feddygol neu hyd yn oed dyllu rhan o’r corff.

O ran gofal maeth, bydd llawer o’r penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y cyd gan y tîm cyfan sy’n ymwneud â’r plentyn, gan gynnwys y gweithwyr cymdeithasol, y teulu biolegol a’r gofalwyr maeth. Yn aml, bydd y gofalwyr maeth yn pasio unrhyw ffurflenni pwysig ar gyfer gofal meddygol ac ati i weithiwr cymdeithasol awdurdod lleol y plentyn er mwyn i uwch reolwr yn yr awdurdod lleol eu cymeradwyo.

Family of two adults and 3 children walking away

cadw mewn cysylltiad â’r teulu biolegol

Wrth faethu neu fabwysiadu, mae cynnal perthnasoedd cadarnhaol yn bwysig i blant ddeall eu gorffennol a symud ymlaen i ddyfodol cadarnhaol.

Y gwahaniaeth

Fel gofalwr maeth, gall cyswllt â theulu biolegol y plentyn fod mor aml â phob dydd neu bob wythnos, yn enwedig i blant sydd wedi dod i ofal yn ddiweddar, babanod ifanc neu blant sy’n debygol o ddychwelyd i’w teulu biolegol. Mae hyn fel arfer yn digwydd wyneb yn wyneb yn y gymuned leol. Ar gyfer maethu tymor hwy, gall yr amlder hwn leihau i bob mis neu bob blwyddyn.

Mae mabwysiadu modern yn drefniant mwy agored lle dylai plant wybod bob amser eu bod wedi’u mabwysiadu a gwybod pwy yw eu “teulu biolegol. Efallai y byddant yn cadw mewn cysylltiad â brodyr a chwiorydd neu aelodau eraill o’r teulu sy’n bwysig iddynt. Bydd amlder a math y cyswllt yn wahanol i bob plentyn ond bydd gan y mwyafrif gyswllt anuniongyrchol trwy drefniant Blwch Llythyrau a reolir gan yr asiantaeth fabwysiadu. I rai plant, efallai mai’r cynllun fydd dechrau gyda hyn, gan adeiladu at gyswllt mwy uniongyrchol wrth i’r plentyn dyfu i fyny, os mai dyna sydd ei angen ar y plentyn.

mabwysiadu a maethu?

Hyd yn hyn yn y blog hwn, rydym wedi siarad am ddewis rhwng maethu a mabwysiadu.

Os ydych yn dewis pa opsiwn sy’n iawn i chi, darn o gyngor gan un a fu’n mabwysiadu a glywais unwaith oedd…

“edrychwch yn y drych, byddwch yn onest gyda chi’ch hun, ydych chi eisiau i rywun eich galw’n mam/dad, os felly, mae’n debyg mai mabwysiadu yw’r peth i chi, os nad oes ots gennych beth maen nhw’n eich galw cyn belled â’i fod yn gwrtais, ac mae gennych rywbeth i’w gynnig i blentyn, dylech faethu.”

Ond mae mwy o opsiynau i’w hystyried:

mabwysiadu wedyn maethu

Bydd rhai mabwysiadwyr, ar ôl i’w plentyn ymgartrefu (gall hyn fod ymhell yn y dyfodol) yn teimlo eu bod am roi rhywbeth yn ôl. Maent yn gwybod y gwahaniaeth a wnaeth gofal maeth i’w plentyn yn y dyddiau cynnar hynny.

Mae gan fabwysiadwyr lawer o wybodaeth a phrofiad i’w cynnig.

Er y byddai’n rhaid i chi fynd drwy’r broses asesu eto, gallwch ddefnyddio popeth rydych wedi’i ddysgu wrth fabwysiadu, ac weithiau eich asesiad gwreiddiol, i gael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth.

Mae cynnig dim ond seibiannau byr hyd yn oed er mwyn cefnogi gofalwyr maeth eraill yn cael ei groesawu.

Y peth pwysig i’w ystyried yw bod eich plentyn yn cytuno’n llwyr â’r maethu a’ch bod yn barod am unrhyw gwestiynau neu deimladau y gallai hyn eu sbarduno am ei stori fabwysiadu ei hun.

mabwysiadu a pharhau i faethu

Mae rhai gofalwyr maeth yn gofalu am ystod eang o senarios; efallai eu bod yn maethu un plentyn am gyfnod byr, plentyn arall am gyfnod hir, ochr yn ochr â phlentyn y maent wedi’i fabwysiadu.

Rhai sefyllfaoedd anodd eu llywio pan fyddwch yn maethu plant law yn llaw â mabwysiadu, yw plant yn gofyn pam nad ydych yn eu mabwysiadu nhw hefyd. Efallai na fydd hyn yn bosibl yn dibynnu ar statws cyfreithiol y plentyn a bydd angen egluro hyn yn ofalus i’r plentyn.

maethu wedyn mabwysiadu

Mae nifer fach o ofalwyr maeth sy’n mabwysiadu’r plant yn eu gofal. Nid yw hyn yn gyffredin iawn, ond fel arfer bydd i’w weld mewn sefyllfa lle mae’r plentyn angen sefydlogrwydd a gofal hirdymor.

Family walking brown dog in the woods

gorchymyn gwarchodaeth arbennig

Mae rhai gofalwyr maeth yn ymgymryd â rôl gwarchodaeth arbennig ar gyfer plant yn eu gofal.

Gorchymyn gwarchodaeth arbennig yw gorchymyn cyfreithiol sy’n lleoli plentyn gyda rhywun heblaw ei riant ar sail hirdymor.

Rhoddir cyfrifoldeb rhiant i’r gwarcheidwad arbennig, nid yn unig i wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd am y plentyn, ond hefyd penderfyniadau ynghylch materion meddygol, yr ysgol, gwyliau, cyllid y plentyn ac mae’n caniatáu iddynt wneud y penderfyniad terfynol. Er efallai y bydd rhai achlysuron o hyd lle mae angen caniatâd y teulu biolegol h.y. ar gyfer newid cyfenw neu ymweliadau estynedig dramor am 3 mis neu fwy. 

Mae hyn yn lleihau ymwneud gweithwyr cymdeithasol ac nid yw’r plentyn yn cael ei ystyried yn blentyn sy’n derbyn gofal mwyach, ond gall yr awdurdod lleol roi cymorth o hyd. 

Gall gofalwyr maeth wneud cais pan fo’r plentyn neu’r person ifanc wedi byw gyda nhw am flwyddyn o leiaf. Ewch i familylives neu grandparentsplus i gael mwy o wybodaeth.

“Rydw i wedi bod yn ofalwr maeth ers blynyddoedd lawer, ond gydag un plentyn penodol a’i frawd hŷn, roeddwn i’n teimlo’n gymaint rhan o’u teulu ac am roi’r sicrwydd sydd ei angen arno gyda mi a’i deulu ehangach cyhyd ag y bydd ei angen arno. Mae dod yn warcheidwad arbennig iddo yn golygu’r byd i mi, a dyfodol diogel iddo fe.”

Gofalwr Maeth

Family with child on shoulders and baby in pushchair

sefydlogrwydd cynnar

Datblygiad mwy newydd ym meysydd maethu a mabwysiadu yng Nghymru yw trefniant cydamserol neu ‘lwybr deuol’. Fe’i adwaenir fel Sefydlogrwydd Cynnar Cymru (SCC), mae’r math hwn o fabwysiadu yn helpu canran fach o blant mewn gofal sy’n fwy tebygol o fod angen sefydlogrwydd trwy fabwysiadu.

Yn ystod camau cynnar bod mewn gofal, byddai gofalwyr maeth sydd â photensial i fabwysiadu yn gofalu am y plant (sydd dan 4 oed yn aml).

Wedi’ch cymeradwyo fel rhywun sy’n mabwysiadu yn gyntaf oll, byddech yn gofalu am blentyn yn ystod y broses yn y llys, lle gall aelodau o’r teulu gyflwyno eu hunain i gael eu hasesu neu rieni biolegol, gyda chymorth, a all newid eu sefyllfa er gwell.

Nid yw mabwysiadu’r plentyn byth yn cael ei warantu.

Byddwch yn cael eich asesu, eich hyfforddi a’ch cefnogi fel gofalwr maeth yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r ‘sefydlogrwydd cynnar’ hwn yn golygu llai o symud o gwmpas i blentyn; aros gyda phobl y mae wedi meithrin y bondiau cynnar pwysig hynny â nhw.

Yn Lloegr, mae math tebyg o gynllunio cydamserol yn cael ei alw’n “faethu i fabwysiadu” neu “faethu ar gyfer mabwysiadu”. 

maethu neu fabwysiadu?

Mae llawer o wahanol opsiynau o ran mabwysiadu, maethu a chynnig cartref cariadus gofalgar i blentyn.

I ddysgu mwy am fabwysiadu cysylltwch â’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

I ddysgu mwy am faethu, cysylltwch â thîm maethu eich awdurdod lleol.

Story Time

Stories From Our Carers